Mae’r rhain yn cynnwys:
- honiadau o ymddygiad neu sgwrs amhriodol
- trallod dysgwr yn cael ei briodoli i ymddygiad neu gwestiynu’r arolygydd, yn enwedig wrth drafod pynciau sensitif
- damwain neu anaf yn digwydd yn ystod y cyfarfod
Er mwyn lleihau’r tebygolrwydd y bydd y risgiau hyn yn digwydd, dylai arolygwyr:
- ddilyn y cod ymddygiad ar gyfer arolygwyr
- cyfarfod â grwpiau o ddysgwyr yn hytrach nag unigolion pryd bynnag y bo modd
- cynnal cyfarfodydd mewn ystafelloedd sy’n hawdd eu cyrraedd ac sy’n weladwy ar safle’r darparwr
- sicrhau bod y rhai sy’n cael eu cyfweld yn gallu ymadael â’r ystafell yn hawdd os ydynt yn dymuno gwneud hynny
- trefnu gweithio gydag oedolyn arall gerllaw
- adrodd unrhyw ddigwyddiad sy’n rhoi achos i bryderu i’r Arolygydd Cofnodol a chofnodi manylion y digwyddiad yn ysgrifenedig