Mae’n bwysig cofio bod yr arolygydd yno i ddilyn y cwestiynau sy’n dod i’r amlwg a thrywyddau ymholi’r arolygiad; nid yw yno fel cynghorydd nac i roi cymorth.
Pan gaiff materion sensitif eu trafod, fel materion sy’n ymwneud â lles, presenoldeb neu’r cymorth y mae’r darparwr yn ei ddarparu, dylai arolygwyr wneud popeth yn eu gallu i atal anawsterau rhag codi. Os yw unrhyw ddysgwyr yn mynd yn flin neu’n drallodus, dylai’r arolygydd geisio’u sicrhau nhw a dylent eu hatgoffa bod modd iddynt adael y cyfarfod ar unrhyw adeg. Os ydynt yn gadael yn flin neu’n drallodus, yna dylai’r arolygydd sicrhau eu bod yn mynd i le diogel o’u dewis, neu’n gofyn am help gan rywun arall.
Mae’n rhaid rhoi gwybod am bob digwyddiad o’r fath cyn gynted â phosibl i’r Arolygydd Cofnodol ac i uwch aelod staff a rhaid i’r arolygydd wneud cofnod ysgrifenedig ohonynt.
Os yw dysgwr yn dymuno gwneud datgeliad, rhaid i’r arolygydd ddilyn Polisi a Gweithdrefnau Diogelu Estyn.