Arweiniad atodol: gwrando ar ddysgwyr mewn arolygiad - Medi 2021

Share document

Share this

Goresgyn rhwystrau rhag cyfathrebu

Share document

Share this

Page Content

Gall dysgwyr fod yn amharod i siarad am nifer o resymau, er enghraifft, mae’n bosibl nad ydynt yn arfer rhoi eu barn ac efallai eu bod yn dioddef o ddiffyg hyder. Mae’n bosibl bod gan ddysgwyr anhawster penodol sy’n rhwystr rhag cyfathrebu neu efallai eu bod yn ofni canlyniadau mynegi barnau negyddol. Dylem ni ystyried y lleoliad ar gyfer cyfarfodydd â dysgwyr yn ofalus. Er enghraifft, gallai dysgwyr ymlacio mwy mewn ardaloedd anffurfiol yn hytrach na swyddfa ysgol, er enghraifft.  

Er mwyn lleihau’r rhwystrau hyn i’r eithaf, dylai arolygwyr: 

  • ddefnyddio iaith y mae dysgwyr yn ei deall drwy osgoi jargon a bod yn barod i esbonio pethau’n glir 
  • bod yn ymwybodol o unrhyw broblemau iechyd, namau synhwyrol neu o unrhyw gymhorthion cyfathrebu posibl y mae’r dysgwyr yn eu defnyddio
  • bod yn ymwybodol o unrhyw anawsterau penodol a all rwystro canolbwyntio
  • ystyried cynnwys oedolyn cyfarwydd a all gynorthwyo’r disgyblion
  • esbonio pwysigrwydd a diben gwrando ar farn dysgwyr fel rhan o’r arolygiad cyfan
  • dweud beth hoffent ei drafod a pham 
  • pwysleisio bod cymryd rhan yn y cyfarfod yn wirfoddol ac y gall y dysgwr neu’r dysgwyr adael unrhyw bryd os nad ydynt yn dymuno parhau yn y cyfarfod 
  • dweud wrth ddysgwyr na ddylent gyfeirio at aelodau staff unigol gan ddefnyddio’u henwau yn ystod y drafodaeth 
  • esbonio y bydd eu barnau’n cael eu cadw’n gyfrinachol (oni bai eu bod yn dweud rhywbeth wrth yr arolygydd a allai olygu nad ydynt yn ddiogel) 
  • pwysleisio na fydd yr hyn y maen nhw’n ei ddweud wrth arolygwyr yn cael unrhyw effaith ar eu canlyniadau mewn arholiadau neu asesiadau 
  • eu sicrhau na fyddant yn cael eu henwi fel unigolion ac na roddir gwybodaeth adnabod amdanynt pan fydd yr arolygwyr yn adrodd ar eu canfyddiadau 
  • esbonio sut bydd yr arolygwyr yn adrodd ar eu sylwadau a sut gallant gael gafael ar yr adroddiad terfynol

Pan fyddwch yn gweithio gyda grŵp o ddysgwyr, mae’n bwysig sefydlu rheolau sylfaenol ar y dechrau fel bod pawb yn y grŵp yn gallu mynegi eu barn. 

Gall y rheolau sylfaenol gynnwys:

  • gwrando ar ei gilydd heb dorri ar draws ei gilydd 
  • bod pob cyfraniad yn gyfraniad gwirfoddol 
  • gofyn am esboniad os nad yw rhywbeth yn cael ei ddeall 
  • bod yn rhaid i bawb barchu cyfrinachedd 

Share document

Share this