Arweiniad atodol: gwrando ar ddysgwyr mewn arolygiad - Medi 2021
Gofyn cwestiynau
Gellir cael amrywiaeth o ymatebion gwahanol gan ddysgwyr o ganlyniad i’r ffordd y caiff y cwestiynau eu gofyn.
Mae rhai o’r strategaethau y gellid eu defnyddio wrth ofyn cwestiynau’n cael eu rhestru isod:
- gofyn un cwestiwn ar y tro
- rhoi amser i’r dysgwyr ymateb
- defnyddio strategaethau fel `meddwl, paru, rhannu` er mwyn annog amser meddwl
- gwneud yn siŵr bod pawb yn y grŵp yn cael cyfle i wneud cyfraniad
- defnyddio cymhorthion gweledol neu symbolau i gynorthwyo â dealltwriaeth o’ch cwestiwn
- dewis cwestiynau’n ofalus, gan gofio bod mathau gwahanol o gwestiynau’n arwain at ganlyniadau gwahanol (gweler y tabl isod)
Math o gwestiwn
|
Enghraifft
|
Yn ddefnyddiol ar gyfer
|
Nid yw’n ddefnyddiol ar gyfer
|
Agored
|
Pa mor dda rydych chi’n ei wneud yma?
Sut gallwch chi wella...?
Beth sy’n digwydd pan...?
|
Y rhan fwyaf o bwyntiau agor/cychwyn
Archwilio materion a chasglu tystiolaeth
|
Dysgwr ag anhawster cyfathrebu oni bai bod cymorth ar gael
|
Caeedig
|
Sawl gwaith yr wythnos ydych chi’n cael addoli ar y cyd?
Pwy rydych chi’n siarad â nhw os oes problemau gennych?
|
Cael atebion ffeithiol penodol
Amser byr ar gael ar gyfer trafodaeth
Y dysgwr yn cael siarad yn anodd
|
Cael gwybodaeth sydd â sylfaen eang
|
Procio
|
A oes unrhyw un yn cael eu trin yn annheg?
Sut ydych chi wedi cael eich helpu pan fydd pethau’n anodd?
Beth sy’n digwydd os nad ydych yn gallu dod yma?
|
Sefydlu a gwirio manylion am ddigwyddiadau sydd eisoes yn hysbys neu sy’n codi o atebion i gwestiynau agored
|
Archwilio pynciau sy’n gallu bod yn emosiynol
|
Damcaniaethol
|
Beth fyddech chi’n ei wneud petai...?
Petaech chi’n gallu newid un peth am y darparwr, beth fyddai hynny?
Petaech chi’n rheoli’r darparwr, beth fyddech chi’n ei wneud er mwyn gwneud bywyd yn well i bawb?
|
Annog meddwl ehangach, am faes y maent yn anghyfarwydd ag ef
|
Os yw’r sefyllfa y tu hwnt i brofiad y dysgwr
|
Lluosog
|
Cyfres o gwestiynau neu ddatganiadau
|
Byth yn ddefnyddiol
|
Byth yn ddefnyddiol
|
Cymharu
|
Ai A neu B sy’n well gennych?
|
Archwilio anghenion a gwerthoedd.
Mae’n cynnig pwynt cychwyn ar gyfer trafodaeth
|
Pan fydd cwestiynau eraill yn afrealistig, neu, pan fydd cwestiynau eraill yn cynnig gormod o arweiniad tuag at gyfeiriad yr ateb
|
Dylai arolygwyr ofyn amrywiaeth o gwestiynau sy’n ystyried agweddau gwahanol ar yr arweiniad arolygu a’r math o ddarpariaeth sy’n cael ei threfnu ar gyfer y dysgwyr.