Arweiniad atodol: gwrando ar ddysgwyr mewn arolygiad - Medi 2021

Share document

Share this

Cyflwyniad

Share document

Share this

Page Content

Diben yr arweiniad yw helpu arolygwyr i gyfathrebu’n effeithiol gyda dysgwyr er mwyn cael gwybod eu barn nhw fel rhan o’r broses arolygu. 

Yn ogystal, gall yr arweiniad helpu darparwyr i gasglu barn dysgwyr fel rhan o’u proses hunanarfarnu.

Mae gan blant hawl i’w barn gael ei hystyried pan wneir penderfyniadau sy’n effeithio arnynt, fel yr amlinellir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae ystyried barn dysgwyr o bob oedran wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt yn arfer dda. Bydd Estyn yn rhoi cyfle i bob dysgwr rannu ei farn yn ystod arolygiad, naill ai drwy arolwg neu gysylltiad uniongyrchol ag arolygwyr.

Mae barn dysgwyr yn ffynhonnell allweddol o dystiolaeth o gyflawniad, agweddau a lles. Hefyd, gall barn dysgwyr ddylanwadu ar y cwestiynau rydym yn eu gofyn i’r darparwr.

Trwy wrando ar ddysgwyr, bydd arolygwyr yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddangos eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’u gwaith, eu cynnydd a beth y mae angen iddynt ei wneud i wella. Bydd hefyd yn rhoi cyfle iddynt rannu a ydynt o’r farn eu bod yn cael cymorth, ac i ba raddau y mae’r darparwr yn cyfrannu at eu lles.

Dylid dewis y dysgwyr a fydd yn cael eu cyfweld yn ofalus er mwyn darparu ffynhonnell ddilys a dibynadwy o dystiolaeth. Nid oes unrhyw gwestiynau penodol i arolygwyr eu gofyn oherwydd bydd y cwestiynau’n cael eu pennu gan y cwestiynau sy’n dod i’r amlwg gan arolygwyr ar ôl adolygu hunanarfarniad a thystiolaeth ategol y darparwr.

Bydd dysgwyr hefyd yn gallu mynegi eu barn drwy arolygon a fydd yn cael eu cynnal cyn arolygiad. 

Mae’r arweiniad hwn yn cynnig mwy o gymorth i arolygwyr ar wrando ar ddysgwyr o bob oedran. Mae’n rhoi pwyslais penodol ar wrando ar ddysgwyr a all fod yn cynrychioli grwpiau sy’n arbennig o agored i niwed. Mae’n disgrifio rhai o’r ffyrdd y gallai arolygwyr gynnwys y dysgwyr hyn a sicrhau bod eu barnau’n cyfrannu’n effeithiol at y broses arolygu. Fodd bynnag, dylai arolygwyr roi ystyriaeth gytbwys i farnau’r holl ddysgwyr, yn ogystal ag ystyriaeth gytbwys i’r dystiolaeth a geir o arsylwadau uniongyrchol a chraffu ar waith.
 

Share document

Share this