Arweiniad atodol: gwrando ar ddysgwyr mewn arolygiad - Medi 2021

Share document

Share this

Cyfathrebu effeithiol

Share document

Share this

Page Content

Mae’r egwyddorion canlynol yn tanategu cyfathrebu effeithiol: 

  • rhaid sefydlu a chynnal perthynas dda gyda’r dysgwr 
  • dylai’r pwyslais gael ei roi ar alluogi’r dysgwr i siarad ac yna gwrando’n ofalus ar safbwynt y dysgwyr
  • mae’n rhaid i arddull y cyfathrebu fod yn addas i oedran, gallu ac iaith y dysgwr 


Mae sefydlu perthynas, yn enwedig mewn cyfweliad byr, yn gofyn bod y sawl sy’n cyfweld yn dangos parch ac empathi tuag at y sawl sy’n cael ei gyfweld. Mae hefyd yn cynnwys cydnabod a goresgyn rhwystrau rhag cyfathrebu. 

Dangosir parch drwy ymddygiad sy’n gwneud i bobl eraill deimlo’u bod yn bwysig, o werth ac yn arbennig mewn rhyw ffordd. 

Dangosir diffuantrwydd drwy ymddygiad sy’n cyfleu’r neges eich bod yn ddynol, bod modd ymddiried ynoch ac nad oes gennych unrhyw beth i’w guddio. 

Mae empathi yn rhan annatod o ymddygiad sy’n dangos eich bod yn ceisio deall byd yr unigolyn arall fel y mae ef yn ei weld. Hynny yw, rydych yn gwneud ymdrech ‘i weld pethau o’u safbwynt nhw’.

Mae ymddygiad o’r fath yn cynnwys:

  • cyflwyno’ch hun a chofio enw’r unigolyn arall
  • esbonio diben y cyfarfod
  • gofyn cwestiynau gyda thact ac yn glir
  • dangos eich bod yn gwrando ac yn gofyn cwestiynau i gadarnhau a gwirio dealltwriaeth
  • peidio â thorri ar draws yr unigolyn na siarad drosto
  • bod yn ymwybodol o’ch iaith eich corff eich hun a phobl eraill a’r emosiynau y mae’n eu cyfleu 
  • dangos natur gyfeillgar trwy wenu a bod yn groesawgar, gan ddangos gwerthfawrogiad i’r dysgwyr am roi o’u hamser
  • ymateb yn naturiol ac mor onest ag y gallwch
  • osgoi bod yn amddiffynnol 


Fodd bynnag, mae angen i ni ddiogelu yn erbyn bod yn or-gyfarwydd wrth geisio gwneud i ddisgyblion deimlo’n gysurus, ac aros yn broffesiynol bob amser, er enghraifft trwy osgoi sylwadau ffwrdd-â-hi.
 

Share document

Share this