Arweiniad atodol: Arolygu agweddau at ddysgu
Atodiad: Nodweddion agweddau cadarnhaol at ddysgu
Mae disgyblion yn benderfynol
A yw disgyblion yn barod i ymgymryd â thasgau, a’u cwblhau?
A yw disgyblion yn dyfalbarhau ac yn aros yn bwrpasol pan fyddant yn wynebu anawsterau?
Mae disgyblion yn dangos yr agweddau canlynol:
- Penderfynoldeb, gwydnwch, cadernid
Bydd disgyblion:
- Yn gorffen tasgau a ddechreuwyd ac yn deall gwerth eu gwaith; er enghraifft, mae disgyblion yn cwblhau gweithgareddau gyda’r anogaeth leiaf gan oedolion, a gallant siarad am ba fedr y maent wedi’i wella
- Yn dysgu mynd â’r elfennau cadarnhaol o gamgymeriadau, a gwerthfawrogi sut bydd hyn yn eu helpu i gyrraedd nod; er enghraifft, mae disgyblion yn disgrifio ble maent wedi gwneud camgymeriadau yn eu gwaith a sut gallant eu hosgoi yn y dyfodol, neu esbonio sut maent wedi gwella ar eu gwendidau
- Yn rhoi cynnig ar syniadau heb fod yn sicr o’r canlyniad terfynol tebygol
- Yn dangos y medrau a’r wybodaeth i weithio mor annibynnol ag y gallant, a cheisio arweiniad a chymorth pellach pan fydd angen yn unig
- Yn wynebu a goresgyn heriau fel y maent yn codi, trwy addasu eu dulliau a’u strategaethau; er enghraifft, trwy ddarganfod a rhoi cynnig ar atebion gwahanol i ddatrys problem pan fyddant yn methu i ddechrau
A yw disgyblion yn dal ati i ganolbwyntio ac osgoi unrhyw beth sy’n tynnu eu sylw?
A yw disgyblion yn barod i ddysgu ar ddechrau gwersi? A ydynt yn symud yn hawdd rhwng gwahanol wersi a gweithgareddau?
Mae disgyblion yn dangos yr agweddau canlynol:
- Hunanreolaeth, Hunangyfeiriad
Bydd disgyblion:
- Yn talu sylw ac yn ymwrthod ag unrhyw beth sy’n tynnu eu sylw, er enghraifft yn dal ati i ganolbwyntio ar dasg er gwaethaf ymyriadau amgylcheddol posibl, er enghraifft gan ddisgyblion eraill
- Yn cofio ac yn dilyn cyfarwyddiadau, ond yn gwneud addasiadau pan fyddant yn wynebu anawsterau, er enghraifft yn dod o hyd i ffyrdd eraill o gofnodi canlyniadau arbrawf gwyddonol pan fydd technoleg yn methu
- Yn dangos medrau hunandrefnu da ac yn dechrau tasgau ar unwaith, yn hytrach na gohirio pethau, er enghraifft casglu’r offer neu’r adnoddau sydd eu hangen arnynt, a dechrau ar eu gwaith yn gyflym ar ddechrau gweithgaredd
- Yn aros yn bwyllog hyd yn oed pan gânt eu beirniadu, er enghraifft wrth gymryd rhan mewn trafodaethau fel rhan o weithgareddau dosbarth cyfan neu grŵp bach, neu dderbyn adborth fel rhan o asesu cyfoedion
- Yn caniatáu i bobl eraill siarad heb dorri ar eu traws, ac yn ymateb yn briodol
Pa mor dda y mae disgyblion yn ymgymryd â phrofiadau a syniadau newydd ac anghyfarwydd?
A yw disgyblion yn chwilio am atebion eraill pan fydd eu dull cyntaf o ymdrin â phroblem yn aflwyddiannus?
Mae disgyblion yn dangos yr agweddau canlynol:
- Chwilfrydedd ac awydd i ddatrys problemau
Bydd disgyblion:
- Yn awyddus i archwilio pethau newydd; er enghraifft, mae disgyblion yn awgrymu syniadau am destunau newydd i’w hastudio neu’n ymateb gyda diddordeb a brwdfrydedd pan fyddant yn wynebu themâu newydd neu dasgau anghyfarwydd
- Yn gofyn ac yn ateb cwestiynau i ddyfnhau eu dealltwriaeth; er enghraifft, mae disgyblion yn gofyn cwestiynau tra ystyriol, neu’n defnyddio gwybodaeth yn fedrus i ateb cwestiynau
- Yn mwynhau datrys problemau; er enghraifft, mae disgyblion yn dangos brwdfrydedd dros ddod o hyd i atebion fel rhan o ymchwiliad mathemateg ac yn rhoi cynnig ar nifer o ddulliau
- Yn meddwl yn greadigol ac yn ehangach i ail-lunio a datrys problemau; er enghraifft, mae disgyblion yn dangos amrywiaeth o ddulliau i’w hystyried ac yn datrys problemau trawsgwricwlaidd, er enghraifft sut i leihau’r defnydd o blastig
- Yn fodlon â pheidio â gwybod yr ‘ateb’ ond yn dangos chwilfrydedd a holgarwch
A yw disgyblion yn deall eu cryfderau a’u gwendidau eu hunain?
Pa mor dda y mae disgyblion yn myfyrio ar eu dysgu eu hunain?
Mae disgyblion yn dangos yr agweddau canlynol:
Bydd disgyblion:
- Yn dangos dealltwriaeth glir o’r hyn y maent yn ei wneud yn dda, a’r hyn y mae angen iddynt ei wella; er enghraifft, maent yn siarad am ba mor llwyddiannus y buont mewn dysgu blaenorol, y meysydd y mae angen iddynt eu datblygu ymhellach, a sut byddant yn gwneud gwelliannau
- Yn esbonio’r syniadau a’r cysyniadau y maent yn dysgu amdanynt, ac yn deall sut mae’r rhain yn cyd-fynd â gweddill eu dysgu; er enghraifft, maent yn disgrifio’r medrau y maent wedi eu gwella, neu wybodaeth y maent wedi’i dysgu yn ystod y wers, ac yn cysylltu hyn â dysgu blaenorol neu bynciau/testunau eraill
- Yn rhannu’r hyn y maent wedi’i ddysgu neu’r medrau newydd y maent wedi’u datblygu yn effeithiol a hyderus, gyda’u cyfoedion neu’r gymuned ehangach; er enghraifft, ar ddiwedd testun gwaith, mae disgyblion yn cynllunio a chyflwyno gwasanaeth er mwyn i rieni rannu eu dysgu
Mae disgyblion yn optimistaidd
A yw disgyblion yn dangos diddordeb yn eu gwaith, a brwdfrydedd drosto?
Mae disgyblion yn dangos yr agweddau canlynol:
Bydd disgyblion:
- Yn cymryd rôl weithredol yn eu dysgu; er enghraifft, mae disgyblion yn awyddus i ddarganfod mwy am eu testun a chyfrannu eu meddyliau a’u syniadau eu hunain, gan gynnwys cynllunio gweithgareddau neu wersi penodol
- Yn dangos brwdfrydedd a diddordeb yn eu dysgu, ac ymgysylltiad cryf â dulliau newydd a chreadigol; er enghraifft, mae disgyblion yn dangos hunangymhelliant yn eu tasgau, nid oes angen rhyw lawer o ymyrraeth gan oedolyn arnynt i wneud cynnydd, ac maent yn meddwl am syniadau newydd gydag ychydig iawn o anogaeth gan oedolion, os o gwbl
- Yn adnabod ac yn achub ar gyfleoedd ac yn chwilio’n annibynnol am ffyrdd i ymestyn eu dealltwriaeth; er enghraifft, mae disgyblion yn dangos annibyniaeth wrth ddewis gweithgareddau y maent yn credu y byddant o fudd i’w dysgu, fel dewis gwahanol ddulliau o gynnal arbrawf gwyddonol neu ymgymryd ag ymchwil bellach ar destun dosbarth gartref
- Yn helpu bywiogi disgyblion eraill yn eu dysgu; er enghraifft, mae agweddau cadarnhaol y disgyblion eu hunain tuag at eu dysgu yn helpu cynorthwyo ac annog dysgu disgyblion eraill
- Yn gosod safonau uchel iddyn nhw eu hunain, ac yn rhoi cynnig ar her a’i mwynhau; er enghraifft, o gael cyfle, bydd disgyblion yn ceisio ymgymryd â thasgau sy’n eu herio, ac o bryd i’w gilydd, yn mynd â nhw y tu hwnt i sefyllfa y maent yn gyfarwydd â hi
A yw disgyblion yn werthfawrogol?
Mae disgyblion yn dangos yr agweddau canlynol:
Bydd disgyblion:
- Yn cydnabod ac yn dangos gwerthfawrogiad o bobl eraill; er enghraifft, mae disgyblion yn disgrifio’r modd y mae gweithio gyda’u cyfoedion yn eu helpu i ddatblygu eu medrau eu hunain
- Yn cydnabod ac yn dangos gwerthfawrogiad ar gyfer eu cyfleoedd eu hunain; er enghraifft, mae disgyblion yn siarad am y modd y mae’r gweithgareddau sy’n cael eu cynllunio gan eu hathro, fel ymweliadau â’r gymuned leol, yn gwella eu dysgu
Pa mor hyderus yw disgyblion?
A ydynt yn dangos synnwyr o uchelgais, ac a oes ganddynt uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol?
Mae disgyblion yn dangos yr agweddau canlynol:
Bydd disgyblion:
- Yn barod i roi cynnig ar brofiadau newydd a chyfarfod â phobl newydd; er enghraifft, mae disgyblion yn gofyn cwestiynau difyr a buddiol i ymwelwyr
- Yn mynd ar drywydd breuddwydion ac uchelgeisiau; er enghraifft, mae disgyblion yn trafod eu huchelgeisiau ac yn disgrifio pwysigrwydd eu dysgu, a sut bydd yn eu helpu yn y dyfodol
- Yn mentro’n ofalus; er enghraifft, mae disgyblion yn deall pwysigrwydd defnyddio camau diogelwch priodol fel rhan o ymchwiliadau gwyddonol neu wersi Addysg Gorfforol, er mwyn iddynt allu mentro a datblygu eu medrau
- Yn meithrin eu lles meddyliol ac emosiynol trwy ddatblygu hyder, gwydnwch ac empathi; er enghraifft, mae disgyblion yn cefnogi ei gilydd ac yn canolbwyntio’n dda i gwblhau tasgau cynyddol gymhleth
- Yn meddu ar yr hyder i gymryd rhan mewn perfformiadau; er enghraifft, mae disgyblion yn cymryd rhan mewn cyflwyniadau i weddill y dosbarth i ddangos a datblygu medrau cerddorol, dramatig neu gorfforol newydd
Pa mor greadigol yw disgyblion?
Mae disgyblion yn dangos yr agweddau canlynol:
Bydd disgyblion:
- Yn dangos gwreiddioldeb a dychymyg wrth gwblhau tasgau
- Yn profi ac archwilio sefyllfaoedd o safbwynt arall ac yn hapus i ystyried gwahanol opsiynau
- Yn mwynhau arbrofi â phosibiliadau, diystyru rhagdybiaethau a derbyn yr anghyfarwydd, er enghraifft wrth gydweithio â disgyblion eraill i greu drama ar sail eu hastudiaethau mewn hanes; caiff disgyblion eu cymell gan dasgau nad oes iddynt ganlyniadau wedi’u pennu ymlaen llaw neu ganlyniadau penodedig
- Yn adnabod a datblygu syniadau newydd; er enghraifft, maent yn mwynhau cymhwyso eu medrau llythrennedd i ddatblygu darnau dychmygus o ysgrifennu sy’n adlewyrchu’r hyn y maent wedi’i ddysgu ym meysydd eraill y cwricwlwm, fel hanes ac Addysg Grefyddol
- Yn ffurfio syniadau gwreiddiol a newydd o symbyliadau; er enghraifft, mae disgyblion yn dylunio gwefan i hyrwyddo digwyddiadau cerddorol
- Yn ymgymryd â phrosiectau dychmygus neu’n mynd i’r afael â gwaith mewn ffordd arloesol
- Yn bod yn ddyfeisgar; yn defnyddio adnoddau presennol mewn ffordd wreiddiol, er enghraifft defnyddio offeryn mapio realiti rhithwir ar-lein i nodi’r safle gorau yng Nghymru i adeiladu maes rocedi
Mae disgyblion yn emosiynol ddeallus
A yw disgyblion yn aros yn bwyllog pan fydd disgyblion eraill yn anghytuno â nhw?
Mae disgyblion yn dangos yr agweddau canlynol:
Bydd disgyblion:
- Yn dod o hyd i atebion yn ystod achosion o wrthdaro â disgyblion eraill; er enghraifft, wrth gydweithio â’u cyfoedion, mae disgyblion yn dangos y gallu i gyfaddawdu, cymathu syniadau disgyblion eraill ac addasu eu hatebion
- Yn cydnabod bod gwahanol safbwyntiau, sydd weithiau’n gwrth-ddweud ei gilydd, yn gallu eu helpu i ffurfio eu safbwynt eu hunain
- Yn sensitif i deimladau ac emosiynau pobl
Pa mor dda y mae disgyblion yn dangos parch at gyfraniadau disgyblion eraill, er enghraifft trwy ganiatáu i ddisgyblion eraill siarad?
A yw disgyblion yn dangos ymddygiad da mewn gwersi ac o gwmpas yr ysgol?
A yw disgyblion yn ymddwyn yn dda amser cinio ac amser egwyl?
A yw disgyblion yn ystyriol, ac a ydynt yn uniaethu’n dda â’i gilydd ac oedolion?
Mae disgyblion yn dangos yr agweddau canlynol:
Bydd disgyblion:
- Yn dangos parch at deimladau pobl eraill, er enghraifft yn cydnabod pan fydd disgyblion eraill yn cael trafferth â chysyniadau newydd ac yn rhoi cymorth pan fo’n briodol
- Yn gwybod pryd a sut i gynnwys disgyblion eraill; er enghraifft, fel rhan o drafodaethau dosbarth cyfan neu grŵp bach, mae disgyblion yn gofyn am gyfraniadau gan ddisgyblion eraill, ac yn gwerthfawrogi hyn
- Yn gwrtais at oedolion a’u cyfoedion
A yw disgyblion yn cymhwyso eu gwybodaeth gefndirol a’u hymwybyddiaeth o faterion byd-eang i’w dysgu?
Mae disgyblion yn dangos yr agweddau canlynol:
- Sensitifrwydd i bryderon byd-eang, cyfrifoldeb cymdeithasol
Bydd disgyblion:
- Yn dangos ymwybyddiaeth gynyddol o faterion byd-eang a’u heffaith ar fywydau pobl; er enghraifft, mae disgyblion yn codi pryderon ynglŷn â’r effaith amgylcheddol wrth baratoi ar gyfer trafodaeth ar ddatblygiad arfaethedig archfarchnad newydd yn eu tref
Pa mor dda y gall disgyblion weithio mewn amrywiaeth o ffyrdd, er enghraifft yn annibynnol, mewn grwpiau bach ac mewn lleoliadau dosbarth cyfan?
Mae disgyblion yn dangos yr agweddau canlynol:
Bydd disgyblion:
- Yn arwain ac ymgymryd â rolau gwahanol mewn timau yn effeithiol ac yn gyfrifol
- Yn gweithio’n hyblyg mewn grŵp, gan ddiystyru dewisiadau personol weithiau i dderbyn syniadau disgyblion eraill
- Yn defnyddio eu hegni a’u medrau er mwyn i bobl eraill elwa; er enghraifft, mae disgyblion yn barod i gynorthwyo eu cyfoedion i’w helpu i wella eu medrau a’u gwybodaeth
- Yn ffurfio perthnasoedd cadarnhaol yn seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch ar y ddwy ochr; er enghraifft, mae disgyblion yn cydweithredu’n dda â disgyblion eraill, gan gynnwys y rheiny o wahanol gefndiroedd cymdeithasol, rhywedd, ethnigrwydd a grwpiau ffrindiau
- Yn gwrando ar ddisgyblion eraill, gan dderbyn eu syniadau neu ddarparu her feirniadol adeiladol