Enghreifftiau sy’n cysylltu gweithgareddau ac agweddau at ddysgu yn llwyddiannus
Mae bron pob un o’r disgyblion yn cydweithio’n effeithiol iawn o oedran ifanc. Er enghraifft, mae disgyblion yn y dosbarth derbyn yn gweithio gyda’i gilydd yn bwrpasol wrth adeiladu llong torri’r iâ o flychau cardfwrdd, sef eu syniad nhw eu hunain.
Mae disgyblion hŷn yn parchu cyfraniadau disgyblion eraill ac yn myfyrio o ddifrif ar syniadau a gynigir gan eu cyfoedion. Er enghraifft, mae disgyblion Blwyddyn 6 yn cymryd rhan yn feddylgar mewn trafodaeth soffistigedig am ganlyniadau’r gêm bêl-droed ym 1914 ar dir neb yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae gan ddisgyblion lefelau uchel o ymddiriedaeth yn y staff ac maent yn credu’n gryf y byddan nhw bob amser yn gwneud eu gorau drostynt. Mae hyn yn magu hyder a hunan-barch ymhlith disgyblion, ac yn eu helpu i ddysgu a meddwl yn annibynnol. Er enghraifft, yn y cyfnod sylfaen, mae disgyblion yn gwneud eu penderfyniadau eu hunain yn hyderus ynglŷn â beth maent yn ei ddysgu a sut, wrth iddynt archwilio pob agwedd ar eu hamgylchedd.
Mae lleiafrif o ddisgyblion yn araf wrth ymdawelu mewn gwersi, ac maent wedi ymddieithrio am gyfnodau hir. Mae’r disgyblion hyn yn dangos agweddau gwael at ddysgu, ac yn dangos diddordeb cyfyngedig yn eu gwaith. O ganlyniad, gwnânt gynnydd annigonol.
Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ymddwyn yn dda yn ystod gwersi ac amser chwarae. Fodd bynnag, mae ychydig o ddisgyblion, yn enwedig bechgyn yn y cyfnod sylfaen, yn colli diddordeb mewn tasgau yn hawdd ac yn tarfu ar ddysgu disgyblion eraill. Mae hyn yn aml am nad ydynt yn ddigon gweithgar, neu ni chânt ddigon o gyfleoedd i roi cynnig ar weithgareddau newydd neu arwain eu dysgu eu hunain.
Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn hynod effeithiol mewn gwaith pâr neu waith grŵp. Mewn gweithgareddau ar y cyd fel trafodaethau dosbarth am faterion byd-eang, maent yn gwrando’n ofalus ac yn barchus ar ei gilydd, ac yn cynnig cymorth a her aeddfed a sensitif i syniadau eu cyfoedion.
Mae llawer o ddisgyblion yn dangos agweddau cadarnhaol at ddysgu. Maent yn cynorthwyo ei gilydd yn dda ac yn gweithio’n gynhyrchiol mewn parau a grwpiau, er enghraifft pan fyddant yn cydweithio i werthuso manteision ac anfanteision gwahanol fathau o lwyfannau theatr mewn drama. Mae llawer o ddisgyblion yn cynnal eu diddordeb a’u hymgysylltiad â gweithgareddau i ddatblygu eu medrau a’u dealltwriaeth yn llwyddiannus. Mewn cerddoriaeth, er enghraifft, maent yn cynnal ffocws ac yn dyfalbarhau er mwyn gwella cywirdeb ac ansawdd eu perfformiad ensemble trwy amrywio elfennau fel soniaredd a thempo. Fodd bynnag, mae lleiafrif o ddisgyblion yn rhy oddefgar ac nid ydynt yn ymgymryd â’u gwaith yn ystyrlon.
Mae disgyblion yn dangos agweddau cadarnhaol iawn tuag at yr ysgol a’u haddysg. Mae bron pob un o’r disgyblion yn ymddwyn yn eithriadol o gwrtais ac maent yn barchus iawn tuag at ei gilydd, pob aelod o staff ac ymwelwyr, yn eu gwersi ac o gwmpas yr ysgol. Mae llawer ohonynt yn cynrychioli’r ysgol yn rhagorol wrth siarad ag ymwelwyr, ac maent yn ymfalchïo’n fawr wrth siarad am eu gwaith ac am fywyd ysgol. Mae ganddynt fedrau cymdeithasol cryf, ac yn trafod materion ac yn mynegi eu safbwyntiau’n aeddfed gydag oedolion.
Yn y rhan fwyaf o wersi, mae bron pob un o’r disgyblion yn ymddwyn yn dda, yn canolbwyntio trwy gydol y wers ac yn dyfalbarhau pan fyddant yn wynebu tasgau cymhleth. Mae llawer ohonynt yn dangos lefel uchel o wydnwch wrth ddatrys problemau ac yn cymryd perchnogaeth o’u dysgu eu hunain. Maent yn gweithio’n ddiwyd i gwblhau tasgau yn annibynnol yn y lle cyntaf, neu’n trafod gyda chyfoedion cyn gofyn i’r athro am gymorth. O ganlyniad, mae llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd sylweddol wrth ddatblygu fel dysgwyr annibynnol.
|