Mae ein harweiniad arolygu yn esbonio Beth rydym ni’n ei arolygu a Sut rydym ni’n arolygu. Yn ychwanegol, rydym yn llunio arweiniad atodol i helpu arolygwyr i ystyried agweddau penodol ar addysg a hyfforddiant ymhellach.
Mae’r dogfennau arweiniad atodol yn amlinellu egwyddorion, ystyriaethau ac adnoddau allweddol ar gyfer arolygwyr. Maent yn ymwneud â phob sector y mae Estyn yn ei arolygu, oni bai eu bod yn datgan eu bod ar gyfer sector penodol. Maent yn ehangu ar agweddau penodol ar addysg/hyfforddiant (e.e. arolygu llythrennedd) neu ar ffyrdd o gynnal arolygiadau (e.e. defnyddio teithiau dysgu) neu drefniadau arolygu penodol (e.e. arweiniad ar arolygu ysgolion ffydd).
Nid yw’r dogfennau arweiniad atodol yn hollgynhwysfawr. Nid yw’n ofynnol i arolygwyr weithio trwyddynt yn drwyadl wrth gwmpasu unrhyw agwedd ar arolygiad. Fodd bynnag, gallai arolygwyr eu gweld yn ddefnyddiol wrth ymateb i gwestiynau penodol sy’n dod i’r amlwg sy’n codi yn ystod arolygiadau, neu pan fyddant yn dymuno myfyrio neu ymchwilio ymhellach.
Gallai’r dogfennau arweiniad atodol helpu darparwyr i ddeall trefniadau arolygu Estyn. Gallent fod yn fuddiol hefyd i ddarparwyr wrth werthuso agweddau penodol ar eu darpariaeth eu hunain.
Mae ein gwaith arolygu yn seiliedig ar yr egwyddorion canlynol:
- Bydd arolygwyr yn arolygu â meddylfryd cadarnhaol i sicrhau bod y staff ym mhob darparwr yn cael y profiad dysgu proffesiynol gorau posibl
- Bydd arolygwyr yn defnyddio dull arolygu sy’n canolbwyntio ar y dysgwr
- Bydd arolygwyr bob amser yn canolbwyntio’n gryf ar ansawdd yr addysgu a’r dysgu
- Bydd arolygwyr yn ceisio arfer arloesol dra ystyriol
- Bydd arolygwyr yn teilwra gweithgareddau’r arolygiad yn unol â’r amgylchiadau ym mhob darparwr, cyhyd ag y bo modd
- Bydd arolygwyr yn hyblyg ac yn ymatebol i ganfyddiadau sy’n dod i’r amlwg, a byddant yn defnyddio ystod gynyddol yr offer a’r dulliau arolygu sydd ar gael
- Bydd arolygwyr yn ystyried popeth yn y fframwaith arolygu, ond byddant yn adrodd ar y cryfderau a’r gwendidau allweddol yn unig ym mhob darparwr