Arweiniad atodol: Arsylwadau o wersi a theithiau dysgu - Medi 2021

Share document

Share this

Teithiau dysgu

Share document

Share this

Page Content

Bydd arolygwyr yn cynnal teithiau dysgu yn ystod arolygiadau. Mae teithiau dysgu yn canolbwyntio ar agwedd benodol ar waith dysgwyr ar draws nifer o ddosbarthiadau, er enghraifft safonau mewn llythrennedd neu TGCh, neu ansawdd y cymorth i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Efallai y bydd un arolygydd yn ymgymryd â thaith ddysgu ar draws ystod o wersi neu efallai y bydd nifer o arolygwyr yn ymweld â dosbarthiadau, gweithdai neu ardaloedd darparwr yn unigol am gyfnod byr, gyda ffocws neu thema gyffredin dan sylw. 

O ganlyniad i natur ffocysedig y gweithgaredd taith ddysgu, a lledaenu gweithgarwch ar draws nifer o wersi / dosbarthiadau o fewn cyfnod cymharol fyr, ni fydd arolygwyr mewn sefyllfa i gynnig deialog broffesiynol i athrawon unigol ar ôl teithiau dysgu. Hefyd, yn ystod teithiau dysgu, efallai na fydd arolygwyr yn gweld llawer iawn o addysgu dosbarth cyfan o gwbl. Gallai arolygwyr ar deithiau dysgu ganolbwyntio ar y gwaith y mae dysgwyr yn ymgymryd ag ef yn hytrach nag ansawdd yr addysgu. 

Yn ystod y rhan fwyaf o arolygiadau, bydd gweithgareddau teithiau dysgu yn digwydd rhwng dechrau a chanol y cyfnod y mae’r tîm arolygu gyda’r darparwr, er y gallant ddigwydd ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod arolygu. Gallai deilliannau teithiau dysgu a gweithgareddau arolygu eraill lywio ffocws y gweithgarwch arolygu ar unrhyw ddiwrnod(au) canlynol. Bydd angen i arolygwyr cofnodol fod yn hyblyg o ran amserlennu arsylwadau pellach a gweithgareddau eraill er mwyn ymateb yn briodol i’r canfyddiadau sy’n dod i’r amlwg o’r dystiolaeth a gafwyd o deithiau dysgu. 

Nid oes dyraniad amser dynodedig ar gyfer arsylwi taith ddysgu gan y gall ffocws yr arolygiad amrywio o daith ddysgu i daith ddysgu ac o ddarparwr i ddarparwr. Dylai’r ACof drafod nodweddion ymarferol gweithgarwch teithiau dysgu gyda’r tîm arolygu a darparu arweiniad addas ar ddechrau’r arolygiad.

Ar ddechrau arolygiadau, bydd yr ACof yn trefnu i aelodau’r tîm arolygu gynnal teithiau dysgu ar adegau penodol, a bydd yr ACof yn nodi’r ffocws penodol ar gyfer y teithiau dysgu. Fel arfer, bydd yr ACof yn sicrhau nad oes unrhyw orgyffwrdd yng ngwaith arolygwyr, er enghraifft dau arolygydd yn arsylwi’r un gweithgaredd yn yr un dosbarth. Fodd bynnag, mewn amgylcheddau dysgu cynllun agored, gall fod achlysuron pan fydd arolygwyr yn cynnal arsylwadau a theithiau dysgu mewn ardaloedd tebyg, er enghraifft mewn ardal fawr, cynllun agored y cyfnod sylfaen mewn ysgol, ar draws gweithdy mawr neu fan perfformio, neu mewn ardal awyr agored, fel iard chwarae neu gae chwarae.
 

Share document

Share this