Arweiniad atodol: Arsylwadau o wersi a theithiau dysgu - Medi 2021

Share document

Share this

Arsylwadau o wersi: Egwyddorion cyffredinol

Share document

Share this

Page Content

Nod pob gweithgarwch arolygu yw i’r tîm gasglu digon o dystiolaeth o arsylwadau o wersi, teithiau dysgu a gweithgareddau eraill i asesu dilysrwydd a chywirdeb yr arfarniad y darparwr ei hun o’i gryfderau a’i wendidau mewn perthynas â deilliannau, ac ansawdd ei ddarpariaeth a’i arweinyddiaeth.

Yn ystod arolygiadau, bydd yr arolygydd cofnodol (ACof) yn trefnu nifer o arsylwadau o wersi a theithiau dysgu. Ni ddylai aelodau’r tîm arolygu gynnal arsylwadau o wersi neu deithiau dysgu ar eu liwt eu hunain, ond yn hytrach dylent bob amser gyfeirio’n ôl at yr ACof i drafod a sicrhau ei gytundeb/chytundeb.

Mae teithiau dysgu yn rhoi cyfle i dimau arolygu weld nifer fwy o ddysgwyr, dosbarthiadau, gweithgareddau ac athrawon. Nid oes gofyniad i’r tîm arolygu arsylwi pob athro neu bob pwnc neu faes dysgu. Ni ddylai’r ACof a’r tîm arolygu rannu’r amserlen o arsylwadau o wersi neu deithiau dysgu gyda’r enwebai fel arfer oni bai bod rheswm penodol, darbwyllol i wneud hynny, er enghraifft er mwyn hwyluso mynediad i ardal ddynodedig o’r safle neu i sicrhau iechyd a diogelwch arolygwyr.

Nid oes templed penodedig gan Estyn ar gyfer strwythur gwersi, na’r dulliau addysgu sy’n ofynnol. Dylai athrawon gynllunio profiadau dysgu yr ystyriant yw’r mwyaf priodol i’r dysgwyr yn y dosbarth a’r amcanion dysgu y dymunant iddynt eu cyflawni. Dylai arolygwyr ond gwerthuso addysgu mewn perthynas â pha mor effeithiol y mae’n helpu disgyblion i sicrhau dysgu a gwneud cynnydd dros gyfnod.

Bydd arolygwyr yn ystyried unrhyw gynlluniau y gallai athrawon eu defnyddio ar gyfer y wers a arsylwyd, ond nid ydynt yn mynnu bod athrawon yn gwneud unrhyw waith cynllunio gwersi pwrpasol yn benodol ar gyfer yr arolygiad. Mae arolygwyr am weld y cynlluniau y mae athrawon yn eu defnyddio fel arfer i arwain yr addysgu a’r dysgu. Nid ydynt eisiau cynyddu’r baich biwrocrataidd ar athrawon neu staff cymorth oherwydd gweithgarwch arolygu.

Mae’r tîm arolygu yn casglu ystod eang o dystiolaeth ar ansawdd yr addysgu a’r cynnydd a wna dysgwyr, er enghraifft trwy graffu ar gynllunio athrawon a siarad â dysgwyr am eu gwaith. Mae arsylwi gwersi a theithiau dysgu yn ffurfio un rhan yn unig o’r dystiolaeth honno. Bydd y tîm arolygu yn canolbwyntio ar sefydlu mynychter ac arwyddocâd cryfderau a gwendidau amrywiol yng nghynnydd a chyflawniad dysgwyr, ansawdd eu profiadau dysgu ac ansawdd yr addysgu ar draws y darparwr i’w trafod mewn cyfarfodydd tîm. 

Os nad yw arolygwyr yn gallu casglu digon o dystiolaeth yn ystod arsylwadau o wersi neu drwy deithiau dysgu am safonau dysgwyr, y cynnydd a wnânt, eu profiadau dysgu ac ansawdd yr addysgu, dylai arolygwyr siarad â’r enwebai a gofyn am sampl ychwanegol o waith dysgwyr, trafodaeth bellach gyda dysgwyr a chynlluniau athrawon i graffu arnynt ymhellach.
 

Share document

Share this