Mae arolygwyr yn arsylwi gwersi am o leiaf 30 munud. Yn y rhan fwyaf o achosion, byddant yn arsylwi dysgu am gyfnod hwy na hyn. Yr amser arferol ar gyfer arsylwi gwers yw rhwng 45-60 munud, ond gallai fod yn fwy gan ddibynnu ar natur y wers a’r dystiolaeth a fynnir gan yr arolygydd. Ar adegau, gall arolygwyr dreulio 30 munud gyda dosbarth ar ddechrau sesiwn neu fynd yn ôl nes ymlaen i weld rhannau eraill o’r wers.
Ar ddiwedd pob arsylwad o wers, bydd yr arolygydd yn cynnig y cyfle i’r athro gael deialog broffesiynol fer ar y wers/gweithgaredd a arsylwyd. Pan na fydd hyn yn bosibl, dylai’r arolygydd a’r athro gytuno ar amser a lleoliad sy’n gyfleus i’r ddau i gynnal y ddeialog broffesiynol. Dylai’r arolygydd gynnig cyfle ar gyfer deialog broffesiynol bob amser, ond yr athro dan sylw sydd i ddewis p’un a yw’n dymuno derbyn y gwahoddiad neu beidio.
Dylai deialog broffesiynol gydag athrawon ganolbwyntio’n bennaf ar waith y dysgwyr. Dylai sylwadau ar ansawdd yr addysgu ymwneud â’r cryfderau a’r gwendidau yn y dysgu a welwyd a chyfraniad yr addysgu at hynny.