Mae’r dogfennau arweiniad atodol yn amlinellu rhai egwyddorion, ystyriaethau ac adnoddau allweddol ar gyfer arolygwyr. Maent yn ymwneud â phob sector y mae Estyn yn ei arolygu, oni bai bod y dogfennau’n datgan eu bod ar gyfer sector neu sectorau penodol. Maent yn ymhelaethu ar agweddau penodol ar addysg/hyfforddiant (er enghraifft arolygu llythrennedd) neu ffyrdd o gynnal arolygiadau (er enghraifft defnyddio teithiau dysgu) neu drefniadau arolygu penodol (er enghraifft arweiniad ar arolygu ysgolion eglwysig).
Nid nod y dogfennau arweiniad atodol yw bod yn gynhwysfawr. Nid yw’n ofynnol i arolygwyr weithio trwyddynt yn drwyadl wrth ymdrin ag unrhyw agwedd benodol ar arolygiad. Fodd bynnag, gallent fod yn ddefnyddiol i arolygwyr wrth iddynt ymateb i gwestiynau penodol sy’n dod i’r amlwg yn ystod arolygiadau neu pan fyddant yn dymuno myfyrio neu ymchwilio ymhellach.
Gallai’r dogfennau arweiniad atodol helpu darparwyr i gael dealltwriaeth o drefniadau arolygu Estyn. Gallent fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr hefyd o ran gwerthuso agweddau penodol ar eu darpariaeth eu hunain.
Mae timau arolygu yn gweithio yn unol â saith egwyddor allweddol. Mae’r rhain yn cynnwys bod timau arolygu:
- yn arolygu ar sail dull sy’n canolbwyntio ar y dysgwr
- bob amser yn canolbwyntio’n gryf ar ansawdd ac effeithiolrwydd yr addysgu a’r dysgu
- yn sicrhau bod arolygu yn ymateb i anghenion yr holl ddysgwyr
- yn canolbwyntio ar y darparwr penodol ym mhob arolygiad ac yn addasu eu dulliau yn unol â hynny
- yn mabwysiadu dull adeiladol sy’n gwneud y rhyngweithio gyda’r darparwr yn brofiad dysgu proffesiynol ar gyfer eu staff a’r tîm arolygu cyfan
- yn ystyried popeth yn y fframwaith arolygu, ond byddant yn adrodd ar y cryfderau a’r gwendidau allweddol yn unig
- yn chwilio am arfer arloesol dra ystyriol
- yn sicrhau bod gwerthusiadau yn gadarn, yn ddibynadwy, yn ddilys ac yn seiliedig ar dystiolaeth uniongyrchol
- yn sicrhau cyn lleied â phosibl o ofynion ar gyfer dogfennau a pharatoi gan y darparwr
- yn cael safbwynt dysgwyr a rhanddeiliaid eraill.