Dylai arolygwyr adrodd yn glir ar ba mor dda y mae disgyblion yn gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu wrth werthuso datblygiad eu gwybodaeth, medrau a chyflawniadau mewn llythrennedd. Dylent ystyried i ba raddau y mae disgyblion yn meddu ar y medrau sydd eu hangen i elwa ar y cwricwlwm cyfan a pha mor dda y mae’r cwricwlwm ehangach ei hun yn datblygu medrau gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu disgyblion, yn briodol i’w hoedrannau a’u mannau cychwyn.
Wrth werthuso cynnydd grwpiau penodol o ddisgyblion, er enghraifft y rhai sydd â’r Gymraeg / Saesneg yn iaith ychwanegol, y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol a’r rhai sy’n fwy abl, dylai arolygwyr ystyried p’un a ydynt yn gwneud cymaint o gynnydd ag y gallent. Mae’n bwysig fod arolygwyr yn ystyried lefel yr her y mae disgyblion yn ei hwynebu a’u dysgu blaenorol, wrth ddefnyddio eu medrau llythrennedd.
Dylai arolygwyr nodi sefyllfaoedd lle caiff disgyblion anhawster â’u medrau llythrennedd, a ble mae hyn yn rhwystro eu dysgu ar draws y cwricwlwm. Bydd angen i arolygwyr nodi achosion posibl hyn, er enghraifft anallu disgyblion i wahaniaethu rhwng seiniau, eu diffyg ymwybyddiaeth ffonemig, geirfa gyfyngedig a gwybodaeth gyfyngedig am strategaethau ar gyfer sillafu.
Gwrando a siarad
Dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae disgyblion:
yn gwrando i ddeall, galw i gof, dehongli’r hyn y maent yn ei glywed, ac yn dod i gasgliad ynglŷn ag ef
yn gwahaniaethu seiniau, ac yn datblygu ac addasu eu geirfa a’u strwythur brawddeg wrth siarad (trwy wrando)
- yn gwrando i ddatblygu eu dealltwriaeth o gysyniadau a syniadau allweddol, ac yn cymhwyso’r ddealltwriaeth hon i sefyllfaoedd newydd
- yn cymryd eu tro mewn sgwrs, yn dilyn y testun, ac yn rheoli eu cyfraniadau a rhyngweithio yn briodol
- yn gwrando ar bobl eraill (er enghraifft i gael gwahanol safbwyntiau a syniadau) ac yn defnyddio technegau i gofio prif bwyntiau eu sgwrs (er enghraifft gwneud nodiadau, crynhoi)
- yn ymateb yn briodol i bobl eraill mewn ffordd sy’n gweddu i’r pwnc, y cyd-destun, y gynulleidfa a’r diben (er enghraifft herio’r hyn sy’n cael ei glywed ar sail rheswm, tystiolaeth neu ddadl i lunio eu casgliadau eu hunain)
- yn gofyn ac yn ateb cwestiynau i egluro eu dealltwriaeth o’r hyn sydd wedi cael ei glywed, ac yn ymateb i bobl eraill trwy roi sylwadau ac awgrymiadau (er enghraifft i adeiladu ar farn pobl eraill mewn gwaith ar y cyd)
- yn ynganu geiriau’n gywir ac yn siarad yn glir mewn cywair priodol
- yn defnyddio strwythurau brawddeg yn gywir, ac yn gwneud dewisiadau priodol o ran geirfa
- (mewn cyd-destunau cyfrwng Cymraeg) yn cyfleu ystyr o un person i un arall, yn yr un iaith neu o un iaith i un arall, er enghraifft trwy drosglwyddo, esbonio neu gyfieithu gwybodaeth neu syniadau?
- yn cyfleu syniadau a gwybodaeth yn fanwl gywir, yn effeithiol ac yn hyderus (er enghraifft yn pwysleisio pwyntiau allweddol, gan roi esboniad yn ei drefn)
- yn amrywio tôn, cyflymdra eu siarad ac yn taflu eu llais i weddu i’r gynulleidfa a’r diben
- yn dangos ymwybyddiaeth o’r gwrandäwr ac yn ystyried lefel dealltwriaeth y gynulleidfa (er enghraifft trwy dalu sylw i osgo, ystum, mynegiant yr wyneb, cyswllt llygad a defnyddio technegau rhethregol)
- yn ymgymryd ag ystod o gyfrifoldebau i strwythuro a datblygu trafodaethau grŵp (er enghraifft cynnal ffocws ar y dasg, rheoli amser, crynhoi)
- yn archwilio eu syniadau eu hunain a syniadau pobl eraill yn feirniadol ac yn sensitif
- yn cynnal rôl neu safbwynt argyhoeddiadol
Darllen
Dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae disgyblion:
- yn datblygu medrau cyn-darllen ac ymddygiadau darllen cynnar fel sylfeini hanfodol ar gyfer darllen (er enghraifft gwrando ar stori, trin a thrafod llyfrau fel darllenydd, canu caneuon a rhigymau, ac adnabod eu henwau eu hunain)
- yn datblygu dealltwriaeth ffonolegol ac ymwybyddiaeth ffonemig
- yn darllen ystod eang o destunau ar goedd â mynegiant, yn rhoi sylw i atalnodi, ac yn amrywio tonyddiaeth, llais a chyflymdra i gyfleu ystyr
- yn dal ati i ganolbwyntio i ddarllen testunau yn annibynnol, yn cynnwys nofelau cyflawn
- yn defnyddio ystod o strategaethau i wneud synnwyr o eiriau, brawddegau a thestunau cyfan (er enghraifft gwybodaeth ffonemig neu ffonolegol, bonion geiriau, teuluoedd geiriau, strwythur brawddeg, trefniadaeth testun, gwybodaeth flaenorol)
- yn defnyddio eu darllen eu hunain, a bod rhywun yn darllen iddynt, i ddatblygu eu geirfa a strwythurau brawddeg, yn cynnwys geiriau yn benodol i ddisgyblaeth (er enghraifft condensation, tundra, modulation) a geiriau sy’n digwydd mewn testunau ar draws y cwricwlwm (er enghraifft reasoned, decline, integrate, entity), sy’n tueddu i beidio â digwydd mor aml wrth sgwrsio
- yn nodi testun neu thema testun (print neu weledol) ac yn dangos eu dealltwriaeth o brif syniadau’r testun
- yn defnyddio ystod o strategaethau i ddod o hyd i wybodaeth, dewis a defnyddio gwybodaeth o ystod eang o ffynonellau (er enghraifft darllen agos, anodi, crynhoi, cyfosod, dadansoddi)
- yn defnyddio rhesymu a dod i gasgliad i ddeall testunau, ac ystyried dibynadwyedd yr hyn y maent yn ei ddarllen neu’n ei weld, gan wahaniaethu rhwng ffeithiau, damcaniaethau, barn a rhagfarn
- yn darllen yn werthfawrogol (er enghraifft ystyried pa mor effeithiol y mae testunau yn cyfleu gwybodaeth, syniadau a barn, ac yn ennyn sylw’r darllenydd)
- yn ymateb i’r hyn y maent yn ei ddarllen neu’n ei weld, yn gofyn cwestiynau, gwneud cymariaethau, a mynegi safbwyntiau a ffafriaethau
- yn gwerthuso gwahanol safbwyntiau yn feirniadol i lunio casgliadau ystyriol
- yn deall ac yn archwilio’r modd y gellid dehongli testunau, gan nodi sut maent yn amrywio o ran diben ac effaith
- yn ymateb (ar lafar neu yn ysgrifenedig) yn hyderus i syniadau a gwybodaeth y maent wedi eu darllen, gan ddefnyddio eu medrau darllen datblygedig
- (cyd-destunau cyfrwng Cymraeg) yn defnyddio medrau trawsieithu pan fyddant yn darllen (er enghraifft i esbonio syniadau cymhleth yn Gymraeg ar ôl ymchwilio i erthyglau a ysgrifennwyd yn Saesneg)
- yn defnyddio eu medrau darllen i allu dysgu ar draws y cwricwlwm
Ysgrifennu
Dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae disgyblion
- threbu trwy greu marciau, darlunio symbolau neu ysgrifennu llythrennau a geiriau mewn ystod o gyd-destunau
- yn ffurfio llythrennau, ac yn defnyddio eu gwybodaeth am lythrennau a’r seiniau y maent yn eu cynrychioli, i ysgrifennu geiriau ac ymadroddion
- yn defnyddio ystod o strategaethau i geisio sillafu geiriau dieithr (er enghraifft teuluoedd geiriau, bonion, patrymau llythrennau, morffoleg, gwybodaeth graffig, gwybodaeth ffonemig)
- yn ysgrifennu’n gywir ac yn eglur (er enghraifft, defnyddio ffurfiau safonol iaith a sillafu, yn cynnwys treiglo pan fydd yn briodol yn Gymraeg)
- yn defnyddio ystod o atalnodi yn gywir i amrywio cyflymdra, egluro ystyr, osgoi amwysedd a chreu effeithiau bwriadol
- yn ysgrifennu gan ddefnyddio geirfa ddychmygus, amrywiol a manwl gywir yn gynyddol, ac amrywio strwythurau brawddeg i greu effaith
- yn addasu eu harddull ysgrifennu i weddu i’r gynulleidfa, y diben a’r cyd-destun
- yn ysgrifennu mewn ystod eang o fathau o destun yn annibynnol ac yn estynedig, heb ddibynnu’n ormodol ar gymorth oedolyn neu sgaffaldiau
- yn cynllunio, trefnu a chyflwyno syniadau a gwybodaeth yn briodol (er enghraifft trwy drefnu eu hysgrifennu mewn dilyniant rhesymegol, gan strwythuro eu hysgrifennu mewn paragraffau)
- yn myfyrio ar, ailddrafftio a golygu eu hysgrifennu i wella ei gynnwys a’i gywirdeb, gan ymateb yn adeiladol i adborth, pan fydd yn briodol
- yn ysgrifennu yn holl feysydd y cwricwlwm a ph’un a ydynt yn ysgrifennu i’r un safon ag y maent yn eu gwaith yn Gymraeg / Saesneg