Arweiniad atodol ar gyfer arolygu llythrennedd Cymraeg a Saesneg mewn ysgolion
Dogfen C: Sbardunau i’w hystyried wrth werthuso effaith rhaglenni ymyrraeth llythrennedd
- Sut mae’r ysgol yn nodi’r disgyblion sydd angen cymorth i wella eu medrau llythrennedd?
- Sut mae’r ysgol yn dewis y rhaglenni ymyrraeth y mae’n eu defnyddio?
- A yw rhaglenni ymyrraeth yn cefnogi ystod lawn y medrau llythrennedd, yn cynnwys gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu?
- Pa hyfforddiant y mae cynorthwywyr addysgu sy’n cyflwyno rhaglenni ymyrraeth yn ei gael?
- Beth yw fformat y sesiynau, a pha mor aml y cynhelir y sesiynau?
- Pa mor effeithiol yw strategaethau ymyrraeth o ran helpu disgyblion i wneud cynnydd o’u mannau cychwyn?
- Sut caiff cynnydd disgyblion ar y rhaglenni ymyrraeth ei gyfleu i reolwyr ac aelodau staff eraill?
- Sut mae’r ysgol yn sicrhau bod athrawon ystafell ddosbarth yn ymwybodol o’r strategaethau addysgu a dysgu a’r adnoddau a ddefnyddir yn y rhaglenni ymyrraeth?
- Pa strategaethau y mae’r ysgol yn eu defnyddio i wneud yn siŵr eu bod yn defnyddio strategaethau ac adnoddau tebyg yn eu gwersi?
- Sut mae’r ysgol yn gwerthuso effeithiolrwydd ei hymyriadau i gefnogi llythrennedd disgyblion?
- A oes gan yr ysgol feini prawf ymadael priodol i bennu pryd mae disgyblion yn gadael rhaglenni ymyrraeth, a sut maent yn parhau i’w cynorthwyo a monitro eu cynnydd dros gyfnod?