Arweiniad atodol ar gyfer arolygu llythrennedd Cymraeg a Saesneg mewn ysgolion

Share document

Share this

Arolygu llythrennedd

Share document

Share this

 

    Mae llythrennedd yn fedr hanfodol sy’n galluogi disgyblion i ddeall iaith ysgrifenedig ac iaith lafar, dehongli’r hyn sydd wedi cael ei ysgrifennu neu’i ddweud, a llunio casgliadau o dystiolaeth.  Mae llythrennedd yn cyfeirio at y gallu i gyfathrebu’n rhugl, yn gymhellol ac yn berswadiol hefyd.

    Y tasgau allweddol ar gyfer arolygwyr yw gwerthuso:

    • pa mor dda y mae disgyblion yn datblygu’r medrau llythrennedd sydd eu hangen arnynt i elwa ar y cwricwlwm cyfan a dysgu’n effeithiol
    • pa mor dda y mae addysgu a phrofiadau dysgu yn datblygu medrau llythrennedd disgyblion
    • ansawdd arweinyddiaeth a rheolaeth o ran cydlynu’r ddarpariaeth i ddatblygu medrau llythrennedd disgyblion

    Dylai arolygwyr adrodd ar fedrau llythrennedd disgyblion ym mhob arolygiad, a phan fo’n briodol, adrodd ar unrhyw ddeilliannau neu ddangosyddion sy’n ymwneud â’r medrau hyn. 

    • Bwriad yr arweiniad canlynol yw cynorthwyo arolygwyr i werthuso ac adrodd ar safonau gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu disgyblion ac ar eu gallu i ddefnyddio eu medrau llythrennedd mewn gwaith ar draws y cwricwlwm.  Er bod yr arweiniad yn cynnwys gwybodaeth am ddarpariaeth yr ysgol ar gyfer llythrennedd, dylai arolygwyr gofio y dylai’r prif ffocws fod ar yr effaith a gaiff ar ddysgu a chynnydd disgyblion.  Yn ychwanegol, wrth arolygu’r Gymraeg, dylai arolygwyr gyfeirio at yr Arweiniad Atodol: Y Gymraeg mewn lleoliadau nas cynhelir, ysgolion ac UCDau cyfrwng Cymraeg, dwyieithog a chyfrwng Saesneg.
    Casglu ac adolygu tystiolaeth arolygu

    Bydd y tîm yn cynllunio’r arolygiad er mwyn iddynt allu casglu tystiolaeth am lythrennedd o fewn y pum maes arolygu.  Bydd yr Arolygydd Cofnodol yn sicrhau bod gan y tîm ddigon o amser i adolygu’r dystiolaeth allweddol sydd ei hangen arno i lunio ei farnau.  Dyma’r prif ffurfiau tystiolaeth:

    • samplau o waith disgyblion mewn gwaith iaith, llythrennedd a chyfathrebu a Chymraeg / Saesneg (yn cynnwys gwaith sy’n cael ei gwblhau ar-lein)
    • samplau o waith disgyblion o feysydd dysgu a phynciau eraill
    • gwrando ar weithgareddau disgyblion, er enghraifft gwrando arnynt yn darllen ar goedd ac yn trafod testunau, trafodaethau gyda nhw am eu gwaith llythrennedd
    • trafodaethau gyda staff, arweinwyr, llywodraethwyr, rhieni a phobl eraill
    • arsylwi addysgu a gweithgareddau eraill, gan gynnwys tystiolaeth a gasglwyd trwy deithiau dysgu sy’n canolbwyntio ar agwedd benodol ar waith llythrennedd, er enghraifft siarad â disgyblion am eu darllen
    • tystiolaeth ddogfennol, gan gynnwys gwybodaeth am ddysgu a chynnydd disgyblion (fel dadansoddi sgorau darllen safonedig grwpiau penodol, a chynnydd disgyblion ar raglenni ymyrraeth llythrennedd), a gwerthusiadau o gynnydd yn erbyn cynlluniau gweithredu llythrennedd

     

    Bydd y tîm yn defnyddio arsylwadau uniongyrchol o waith disgyblion, ble bynnag y bo modd, i gasglu tystiolaeth i gefnogi ei farnau.  Gallai arolygwyr ddewis sampl ychwanegol o waith disgyblion, os bydd angen, i ymestyn eu hymchwiliad mewn agwedd benodol ar lythrennedd.  Byddant yn arsylwi addysgu a gweithgareddau eraill.

    Mae llais disgyblion yn ffynhonnell dystiolaeth allweddol ar gyfer arolygwyr.  Bydd trafodaethau gyda disgyblion yn rhoi cyfle i archwilio eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’u gwaith.  Bydd hefyd yn helpu arolygwyr i gael amcan o ba mor dda y mae’r ysgol yn cynorthwyo disgyblion ac yn cyfrannu at eu cynnydd. 

    Dylai ysgolion drefnu bod gwybodaeth ar gael i’r tîm arolygu am y safonau llythrennedd a gyflawnir gan ddisgyblion, yn enwedig canlyniadau unrhyw brofion sgrinio cychwynnol ac unrhyw asesiadau eraill.  Bydd hyn yn helpu arolygwyr i werthuso cynnydd disgyblion, llunio barn am y safonau y mae disgyblion yn eu cyflawni o gymharu â’u mannau cychwyn, a’r ffordd y mae athrawon yn defnyddio’r wybodaeth o asesu i lywio eu cynllunio ar gyfer dysgu yn y dyfodol.

    Bydd angen i’r tîm ystyried safbwyntiau rhanddeiliaid am yr ysgol a phrofi dilysrwydd y safbwyntiau hynny yn ystod yr arolygiad.

    Pwyntiau i’w hystyried:

    • A yw disgyblion yn amgyffred ystyr, yn datblygu dealltwriaeth ac yn ymestyn eu geirfa trwy wrando ar bobl eraill?
    • A yw disgyblion yn dysgu’r wybodaeth a’r medrau sy’n cefnogi cyfathrebu effeithiol ar lafar mewn ystod o gyd-destunau a lleoliadau?
    • A yw disgyblion (mewn cyd-destunau cyfrwng Cymraeg) yn defnyddio medrau cyfryngu i gefnogi cyfathrebu effeithiol?
    • A yw disgyblion yn elwa ar destunau sy’n ddigon cyfoethog a sylweddol i ennyn eu diddordeb yn ddeallusol ac yn emosiynol?
    • A oes tystiolaeth o ddisgyblion yn datblygu eu medrau darllen trwy dasgau wedi eu seilio ar: ddealltwriaeth lythrennol a chasgliadol, gwerthuso a gwerthfawrogi, adalw gwybodaeth, dadansoddi a chyfosod?
    • A yw disgyblion (mewn cyd-destunau cyfrwng Cymraeg) yn defnyddio eu medrau trawsieithu, er enghraifft i ddarllen yn Saesneg a chyfosod eu canfyddiadau yn Gymraeg?
    • A yw disgyblion yn llunio rhagdybiaethau, yn crynhoi ac yn llunio casgliadau o’u darllen?
    • A yw disgyblion yn ysgrifennu ar draws y cwricwlwm i’r un safonau y maent yn eu cyflawni mewn sesiynau iaith, llythrennedd a chyfathrebu neu wersi Cymraeg / Saesneg?
    • A ydynt yn ysgrifennu ar draws ystod o genres ar gyfer gwahanol ddibenion a chynulleidfaoedd, gan strwythuro eu gwaith yn briodol?
    • A ydynt yn cynllunio, yn ailddrafftio ac yn golygu eu gwaith yn effeithiol?
    • A yw sillafu ac atalnodi yn briodol i oedran?
    • A yw llawysgrifen a chyflwyniad yn glir?
    • A yw gweithgareddau dysgu yn fwriadus ac a ydynt yn adeiladu’n llwyddiannus ar beth mae disgyblion yn ei wybod ac yn gallu ei wneud?
    • A oes tystiolaeth glir o her briodol i’r holl ddisgyblion?
    • A yw adborth yn helpu disgyblion i wella eu medrau llythrennedd?

    Share document

    Share this