Mae ein harweiniad arolygu yn esbonio Beth rydym ni’n ei arolygu a Sut rydym ni’n arolygu. Fodd bynnag, rydym yn llunio arweiniad atodol hefyd i helpu arolygwyr i ystyried ymhellach agweddau penodol ar addysg a hyfforddiant.
Mae’r dogfennau arweiniad atodol yn amlinellu rhai egwyddorion, ystyriaethau ac adnoddau allweddol ar gyfer arolygwyr. Maent yn ymwneud â phob sector yr ydym yn ei arolygu, oni bai eu bod ar gyfer sector penodol. Maent yn ymhelaethu ar agweddau penodol ar addysg/hyfforddiant (e.e. arolygu llythrennedd) neu ffyrdd o gynnal arolygiadau (e.e. defnyddio teithiau dysgu) neu drefniadau arolygu penodol (e.e. arweiniad ar arolygu ysgolion eglwysig).
Nid nod y dogfennau arweiniad atodol yw bod yn gynhwysfawr. Nid yw’n ofynnol i arolygwyr weithio trwyddynt yn drwyadl wrth ymdrin ag unrhyw agwedd benodol ar arolygiad. Fodd bynnag, gallent fod yn ddefnyddiol i arolygwyr wrth iddynt ymateb i gwestiynau penodol sy’n dod i’r amlwg yn ystod arolygiadau neu pan fyddant yn dymuno myfyrio neu ymchwilio ymhellach.
Gallai’r dogfennau arweiniad atodol helpu darparwyr i ennill dealltwriaeth o’n trefniadau arolygu hefyd. Gallent fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr hefyd o ran gwerthuso agweddau penodol ar eu darpariaeth eu hunain.
Mae ein gwaith arolygu wedi’i seilio ar yr egwyddorion canlynol:
- Bydd arolygwyr yn mynd ati i arolygu gyda meddylfryd cadarnhaol, i sicrhau mai’r profiad dysgu proffesiynol gorau posibl fydd hwn ar gyfer y staff ym mhob darparwr
- Bydd arolygwyr yn arolygu ar sail dull sy’n cael ei arwain gan y dysgwr
- Bydd arolygwyr bob amser yn canolbwyntio’n gryf ar ansawdd yr addysgu a’r dysgu
- Bydd arolygwyr yn chwilio am arfer arloesol, graff
- Bydd arolygwyr yn teilwra gweithgareddau’r arolygiad yn unol â’r amgylchiadau ym mhob darparwr, cyhyd â phosibl
- Bydd arolygwyr yn hyblyg ac yn ymateb i ganfyddiadau sy’n dod i’r amlwg, ac yn defnyddio’r ystod gynyddol o offer a dulliau arolygu sydd ar gael
- Bydd arolygwyr yn ystyried popeth yn y fframwaith arolygu, ond byddant yn adrodd ar y cryfderau a’r gwendidau allweddol yn unig ym mhob darparwr
Rydym wedi ymgynghori â Chymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru er mwyn datblygu’r arweiniad hwn.