Maes Arolygu 3: 3.2 Addysgu ac asesu
Wrth werthuso ansawdd yr adborth gan athrawon ac ymarferwyr eraill, dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae adborth llafar ac ysgrifenedig yn helpu disgyblion i wybod pa mor dda y maent yn gwneud a beth mae angen iddynt ei wneud i wella. Dylent werthuso effeithiolrwydd yr adborth a gaiff disgyblion am waith y maent wedi’i gwblhau ar-lein neu’n ddigidol.
Bydd arolygwyr yn ymgymryd ag ystod o weithgareddau i gasglu tystiolaeth ar gyfer y meysydd hyn. Gallai’r rhain gynnwys:
- trafodaethau ag athrawon ac oedolion eraill
- craffu ar ddogfennau ysgol
- teithiau dysgu
- sgyrsiau â disgyblion am eu gwaith
- arsylwadau o ddysgu
- craffu ar lyfrau a dysgu arall, yn cynnwys dysgu ar-lein a digidol
Wrth werthuso ansawdd yr adborth, dylai arolygwyr gofio bod yna ystod o ffactorau a all bennu ei effaith ar gynnydd disgyblion. O’r herwydd, dylai arolygwyr ystyried:
- a yw adborth yn addas ar gyfer oedran a gallu’r disgybl?
- a yw adborth yn glir, yn bersonol ac yn benodol?
- a yw’n canolbwyntio ar yr elfennau sy’n bwysig ac yn berthnasol?
- a yw’n glir ynglŷn â’r camau nesaf?
- a yw’n darparu arweiniad buddiol ar sut i wella? (h.y. nid dim ond yn dweud wrth ddisgyblion pan fyddant yn anghywir)
- a yw adborth wedi’i gysylltu’n fuddiol â bwriadau dysgu a/neu ddeilliannau arfaethedig?
- a yw adborth yn amserol, fel ei fod yn ddefnyddiol ar gyfer dysgu yn y dyfodol?
- a gaiff disgyblion gyfle digonol i drafod a/neu weithredu i ymateb i adborth? (D.S. mae’n annhebygol y bydd disgyblion yn elwa ar adborth oni bai eu bod yn cael amser priodol i ystyried ac ymateb)
- a oes tystiolaeth fod disgyblion yn cael cyfleoedd i fynd i’r afael â gwelliannau posibl yn ddiweddarach?
D.S. Nid oes angen i’r holl adborth gydymffurfio â phob un o’r meini prawf uchod i fod yn fuddiol.
Hefyd, bydd yn bwysig i arolygwyr ystyried:
- pa mor dda y mae athrawon ac oedolion eraill yn addysgu disgyblion am sut i ddefnyddio adborth, er enghraifft trwy hyfforddi a modelu?
- pa mor dda y mae athrawon yn helpu disgyblion i ddatblygu’r medrau hyn wrth iddynt symud trwy’r ysgol?
- a yw disgyblion yn cael adborth o ansawdd da ym mhob pwnc / disgyblaeth a maes dysgu?
Dylai arolygwyr ystyried:
- y graddau y mae athrawon yn datblygu meddwl a dealltwriaeth disgyblion trwy gwestiynu a monitro dysgu disgyblion yn fedrus
- pa mor effeithiol y mae athrawon ac ymarferwyr eraill yn ymateb i ddysgu disgyblion yn ystod gwersi a gweithgareddau, ac yn addasu eu dull yn unol â hynny
Wrth werthuso’r pwyntiau uchod, dylai arolygwyr ystyried pa mor dda:
- y mae cwestiynau yn denu disgyblion tuag at ddealltwriaeth allweddol ac/neu yn cynyddu lefel yr her wrth i wersi fynd rhagddynt?
- y mae holi yn cynnwys yr holl ddisgyblion?
- y mae cwestiynau yn hyrwyddo meddwl, cyfiawnhau a rhesymu?
- y mae holi yn atgyfnerthu ac yn ailedrych ar fwriadau dysgu?
- y mae holi yn annog disgyblion i fyfyrio a damcaniaethu?
- y mae’r athro yn creu awyrgylch o ymddiriedaeth lle caiff atebion, barnau a syniadau disgyblion eu gwerthfawrogi?
- y mae amgylchedd yr ystafell ddosbarth yn annog disgyblion i wrando ar ei gilydd, ac ymateb i’w gilydd, yn ogystal â’r athro?
- y mae athrawon yn annog disgyblion i ofyn cwestiynau, yn ogystal ag ymateb iddynt?
- y mae athrawon yn monitro dealltwriaeth disgyblion yn barhaus i sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth gywir o’u cynnydd yn ystod gwersi?
- y mae athrawon yn addasu dysgu i ymateb i gamsyniadau y maent yn eu nodi trwy holi a chraffu ar ddysgu wrth i’r wers, neu gyfres o wersi, fynd rhagddi neu rhagddynt?
Dylai arolygwyr ystyried:
pa mor llwyddiannus y mae athrawon yn darparu cyfleoedd perthnasol a phwrpasol i ddisgyblion asesu eu dysgu eu hunain, a dysgu eu cyfoedion
Wrth ystyried pa mor llwyddiannus y mae athrawon yn darparu cyfleoedd perthnasol a phwrpasol i ddisgyblion fyfyrio ar eu dysgu eu hunain a dysgu eu cyfoedion, dylai arolygwyr ystyried y cyfleoedd a gaiff disgyblion, ac effaith hyn ar eu dysgu.
Dylai arolygwyr ystyried:
- p’un a yw’r diben ar gyfer defnyddio asesu gan gyfoedion a hunanasesu yn glir ar gyfer disgyblion a staff
- p’un a oes gan yr ysgol arferion a ddeellir yn dda ar gyfer datblygu medrau disgyblion mewn gwerthuso eu dysgu eu hunain, a dysgu disgyblion eraill
- pa mor dda y mae athrawon ac oedolion eraill yn addysgu disgyblion ynglŷn â sut i asesu eu dysgu eu hunain a dysgu ei gilydd, er enghraifft trwy hyfforddi a modelu
- pa mor dda y mae athrawon yn monitro adborth i sicrhau bod disgyblion yn elwa ar gyngor defnyddiol, ac yn gallu gwneud cynnydd o ganlyniad
- pa mor dda y mae athrawon yn helpu disgyblion i wneud dewisiadau am sut maent yn symud eu dysgu eu hunain ymlaen
Wrth werthuso arferion, dylai arolygwyr ystyried p’un a yw’r meini prawf ar gyfer gwerthuso dysgu yn glir i alluogi disgyblion i gael dealltwriaeth dda o nodau eu gwaith, ac o beth mae’n ei olygu i’w gwblhau yn llwyddiannus. Gallai athrawon ddatblygu a rhannu’r meini prawf hyn, neu wrth i ddisgyblion ddatblygu, dylent gymryd rhan yn gynyddol mewn datblygu’r meini prawf eu hunain.
Dylai arolygwyr ystyried:
- pa mor dda y mae arferion asesu gan gyfoedion a / neu hunanasesu’r ysgol yn annog disgyblion i fyfyrio’n feirniadol ar eu dysgu a’u cynnydd eu hunain neu ddisgyblion eraill
- pa mor effeithiol y mae disgyblion yn nodi cryfderau a meysydd i’w datblygu yn eu dysgu eu hunain ac yn nysgu disgyblion eraill
- pa mor dda y mae asesu gan gyfoedion yn helpu disgyblion i ddysgu oddi wrth ei gilydd
- pa mor dda y mae dealltwriaeth ac annibyniaeth disgyblion wrth asesu eu dysgu eu hunain, a dysgu eu cyfoedion, yn datblygu wrth iddynt wneud cynnydd