Arweiniad atodol ar gyfer arolygu diogelu mewn ysgolion ac UCDau

Share document

Share this

Ein trefniadau arolygu

Share document

Share this

Agweddau ar ddiogelu o fewn y fframwaith

Mae Maes Arolygu 2 yn ymwneud â’r graddau y mae disgyblion yn teimlo’n ddiogel a saff, ac yn rhydd rhag camdriniaeth gorfforol a geiriol yn yr ysgol. Yma, bydd arolygwyr yn gwerthuso ac yn adrodd ar effaith darpariaeth yr ysgol ar gyfer diogelu ac ar les disgyblion.

Bydd y rhan fwyaf o’r sylwadau am ddarpariaeth yr ysgol ar gyfer diogelu a hyrwyddo lles ym Maes Arolygu 3 (adran 3.1, cwricwlwm yr ysgol) ac ym Maes Arolygu 4 (adran 4.1 Datblygiad Personol), sy’n ymwneud â threfniadau’r ysgol ar gyfer gofal, cymorth ac arweiniad disgyblion.

Bydd arolygwyr yn gwerthuso pa mor dda y mae’r ddarpariaeth yn helpu disgyblion i ddatblygu medrau, gwybodaeth a dealltwriaeth o ran gwneud dewisiadau iach am ffordd o fyw.

Mae hyn yn cynnwys gwerthuso rhaglen addysg bersonol a chymdeithasol yr ysgol neu’r UCD. Dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae’r darparwr yn cefnogi medrau cymdeithasol ac emosiynol pob un o’r disgyblion, yn cynnwys y rhai o gefndiroedd difreintiedig. Er enghraifft, dylai arolygwyr werthuso trefniadau’r ysgol ar gyfer addysgu disgyblion am y canlynol:

  • bwlio, gan gynnwys bwlio seiber
  • diogelwch ar y rhyngrwyd
  • aflonyddwch a gwahaniaethu
  • camddefnyddio cyffuriau a sylweddau
  • addysg rhyw a pherthnasoedd iach
  • atal radicaleiddio a chamfanteisio
  • gwybodaeth a dealltwriaeth yn briodol i oedran disgyblion o ymddygiadau sy’n emosiynol niweidiol neu’n anniogel, er enghraifft meithrin perthynas amhriodol ar-lein, camfanteisio’n rhywiol ar blant, ac eithafiaeth

Yn ychwanegol, mae Maes Arolygu 4 (adran 4.2 Diogelu) yn ystyried dull diogelu’r ysgol a’r graddau y mae hyn yn hyrwyddo ac yn cefnogi diwylliant o ddiogelwch a lles yng nghymuned yr ysgol, p’un a yw hynny ar y safle, oddi ar y safle neu ar-lein. Mae hyn yn cynnwys ystyried effeithiolrwydd gwerthusiad yr ysgol ei hun o’i threfniadau diogelu. Dylai arolygwyr werthuso pa mor dda y mae staff a llywodraethwyr yn deall ac yn rhoi gweithdrefnau diogelu’r ysgol ar waith, er enghraifft y meysydd canlynol:

  • cofnodi a rheoli achosion o fwlio
  • amddiffyn plant
  • recriwtio staff a gwirfoddolwyr yn ddiogel
  • cymorth cyntaf
  • lles disgyblion sydd â chyflyrau meddygol
  • lles disgyblion ar leoliadau galwedigaethol
  • diogelwch ar ymweliadau addysgol
  • diogeledd yr ysgol
  • rheoli disgyblu disgyblion, gan gynnwys ymyrraeth ac ataliad corfforol
  • rheoli cludiant, gan gynnwys traffig, ar safle’r ysgol
  • trefniadau ar gyfer defnyddio Trefniadau Amddiffyn Rhyddid lle bo’n briodol ar gyfer pobl ifanc un deg chwech oed ac yn hŷn.

Dylai arolygwyr asesu’n ofalus nid yn unig a yw’r dogfennau hyn yn bodoli, ond eu hansawdd, ac yn hanfodol, pa mor dda y cânt eu deall a’u cymhwyso. Dylai’r polisïau hyn ymdrin â gwasanaethau sy’n ymestyn y tu hwn i’r diwrnod ysgol (e.e. lle cânt eu darparu, gweithgareddau cymunedol ar safle’r ysgol).

Mae Maes Arolygu 5 ynglŷn ag arweinyddiaeth a rheolaeth.

Dylai arolygwyr werthuso’r flaenoriaeth y mae arweinwyr wedi’i rhoi i sicrhau bod pob un o’r staff yn deall ac yn hyrwyddo diwylliant diogelu’r ysgol. Dylai arweinwyr a rheolwyr ysgol fod yn glir ynglŷn â’u cyfrifoldebau statudol o ran diogelu a’r camau y maent yn eu cymryd i ddatblygu arfer dda y tu hwnt i’r isafswm statudol. Dylai arolygwyr ystyried y flaenoriaeth y mae arweinwyr wedi’i rhoi i sicrhau bod pob un o’r ymarferwyr yn deall ac yn hyrwyddo gwaith diogelu’r ysgol.

Mae corff llywodraethol ysgol a gynhelir, pwyllgor rheoli UCD, a pherchennog ysgol annibynnol, yn atebol am sicrhau bod yr ysgol wedi rhoi polisïau a gweithdrefnau effeithiol ar waith yn unol ag arweiniad Llywodraeth Cymru, a dylai fonitro cydymffurfiad yr ysgol â hyn. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod gwiriadau recriwtio diogel yn cael eu cynnal yn unol â gofynion statudol.

Er 2019, mae’r corff llywodraethol wedi cael cyfrifoldebau penodol ynglŷn â pholisi a gweithdrefnau gwrthfwlio’r ysgol[1]. Yn benodol, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i gyrff llywodraethol ysgolion fonitro’r canlynol mewn perthynas â bwlio:

  • bod ysgolion yn cynnal trosolwg o achosion o fwlio a gofnodwyd yn eu lleoliad i weld pa mor hir mae’n ei gymryd ar gyfartaledd i achosion gael eu datrys
  • y cyfraddau mynychder
  • p’un a yw dysgwyr a adroddodd am achosion o fwlio yn credu y cawsant ganlyniad boddhaol
  • p’un a oes yna unrhyw dueddiadau yn dod i’r amlwg neu grwpiau y gwahaniaethir yn eu herbyn
  • p’un a oes yna achosion ar-lein sy’n awgrymu bod angen gwneud gwaith gyda’r dysgwyr, y rhieni / gofalwyr a’r staff i atal mathau newydd o fwlio
  • cyfraddau absenoliaeth
  • bod y data a gesglir yn rheolaidd ar achosion a adroddwyd yn dangos cynnydd tuag at yr amcanion cydraddoldeb.

Dylai arolygwyr asesu’n ofalus pa mor dda y mae uwch reolwyr a llywodraethwyr yn monitro a gwerthuso pob agwedd ar ddiogelu, ac yn hyrwyddo diwylliant diogelu’r ysgol. Os nad oes gan yr ysgol bolisïau a gweithdrefnau effeithiol ar gyfer diogelu a hyrwyddo lles disgyblion, ac nid yw’n cymryd camau digonol i sicrhau cydymffurfio â’r rhain, bydd hyn yn dylanwadu ar y gwerthusiad sy’n cael ei wneud am ansawdd arweinyddiaeth a rheolaeth yn yr ysgol.

 

[1] 11.17 https://gov.wales/sites/default/files/publications/2019-11/rights-respect-equality-statutory-guidance-for-governing-bodies-of-maintained-schools.pdf

Addysg gyda llety neu ddarpariaeth breswyl

Pan fydd gan sefydliad addysg ddarpariaeth gyda llety neu os yw’n gysylltiedig â lleoliad preswyl, rhaid i arolygwyr gysylltu ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) i sicrhau bod y ddarpariaeth yn cyfrannu at anghenion lletywyr neu breswylwyr mewn perthynas â’u diogelwch.

Pan fydd gan sefydliad addysg ddarpariaeth gyda llety neu os yw’n gysylltiedig â lleoliad preswyl, dylai’r polisïau a’r gweithdrefnau hyn gynnwys gwasanaethau sy’n ymestyn y tu hwnt i’r diwrnod ysgol.

Share document

Share this