Arweiniad atodol ar gyfer arolygu diogelu mewn ysgolion ac UCDau

Share document

Share this

Diffiniad o ddiogelu

Share document

Share this

Mae gan bob ysgol, yn cynnwys ysgolion annibynnol, ddyletswyddau statudol i weithredu mewn ffordd sy’n ystyried yr angen i ddiogelu a hyrwyddo lles plant. Mae angen i’r trefniadau sydd gan ysgolion ar waith sicrhau:

  • y rhoddir mesurau rhesymol ar waith i leihau risg niwed i les plant
  • y cymerir camau priodol i fynd i’r afael â phryderon ynglŷn â lles plentyn neu blant, gan weithio i bolisïau a gweithdrefnau lleol cytûn mewn partneriaeth lawn ag asiantaethau lleol eraill

Mae diogelu a hyrwyddo lles plant yn ymwneud â’r canlynol:

  • amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin a’u hesgeuluso
  • atal nam ar eu hiechyd neu’u datblygiad
  • sicrhau eu bod yn cael gofal diogel ac effeithiol

A hynny er mwyn galluogi plant i gael y cyfleoedd gorau posibl mewn bywyd.

Diogelu oedolion bregus

O ran diogelu oedolion bregus, eto, nid oes diffiniad statudol. Er nad yw ‘Mewn Dwylo Diogel: Rhoi Gweithdrefnau Amddiffyn Oedolion ar waith yng Nghymru’ yn cynnwys unrhyw ddiffiniad o ddiogelu oedolion bregus, mae’n diffinio cysyniadau ‘oedolyn bregus’ a ‘niwed sylweddol’ ar wahân.   

Mae’r diffiniad o ‘Oedolyn Bregus’ wedi’i amlinellu yn adran 126 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

“Oedolyn sydd mewn perygl”, at ddibenion y Rhan hon, yw oedolyn:

  • sy’n profi camdriniaeth neu esgeulustod, neu mewn perygl o’u profi
  • sydd ag anghenion gofal a chymorth (p’un a yw’r awdurdod yn diwallu unrhyw un o’r anghenion hynny ai peidio)
  • nad yw’n gallu amddiffyn ei hun yn erbyn camdriniaeth neu esgeulustod, neu’r perygl ohonynt, o ganlyniad i’r anghenion hynny

Yn ei hanfod, mae gan bob oedolyn bregus hawl i gael ei amddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod, yr hawl i gael gofal priodol a chael cymorth os yw wedi cael ei gam-drin.

Beth yw plentyn?

Mae dogfen Llywodraeth Cynulliad Cymru (2007), ‘Diogelu Plant: Gweithio gyda’n Gilydd o dan Ddeddf Plant 2004’ yn esbonio bod plentyn yn unrhyw un nad yw wedi cyrraedd ei ben-blwydd yn 18 oed eto. Felly, mae ‘plant’ yn golygu ‘plant a phobl ifanc’ trwy gydol y ddogfen honno. Nid yw’r ffaith fod plentyn wedi troi’n un deg chwech mlwydd oed yn byw yn annibynnol neu mewn Addysg Bellach, neu’n aelod o’r lluoedd arfog, neu mewn ysbyty, neu mewn carchar neu sefydliad troseddwyr ifanc, yn newid ei statws neu’i hawl i wasanaethau neu amddiffyniad o dan Ddeddf Plant 1989. 

Mae pawb sy’n gweithio mewn addysg yn rhannu amcan i helpu i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel. Wrth arolygu trefniadau diogelu darparwr, dylai arolygwyr ystyried pa mor effeithiol yw’r ysgol yn y canlynol;

  • creu a chynnal amgylchedd dysgu diogel i blant a phobl ifanc
  • nodi ble mae pryderon ynghylch lles plant a chymryd camau i fynd i’r afael â’r rhain, lle bo’n briodol, mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill
  • datblygu dealltwriaeth, ymwybyddiaeth a gwydnwch plant trwy’r cwricwlwm

I gyflawni’r amcan hwn, mae angen cael systemau a gynlluniwyd i:

  • atal pobl anaddas rhag gweithio gyda phlant a phobl ifanc
  • hyrwyddo arfer ddiogel a herio arfer wael ac anniogel o fewn y ddarpariaeth
  • nodi achosion lle mae achos i bryderu am les plentyn yn deillio o’r cartref, y gymuned neu’r ysgol, a dechrau neu gymryd camau priodol i’w gadw/chadw’n ddiogel
  • cyfrannu at weithio mewn partneriaeth yn effeithiol rhwng pawb sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc

Ym mhob achos, mae’r fframwaith arolygu yn edrych y tu hwnt i restr dicio ynghylch cydymffurfio, ac yn hytrach yn gwerthuso dull darparwr o ddiogelu, a’r graddau y mae hyn yn hyrwyddo ac yn cefnogi diwylliant o ddiogelwch a lles yng nghymuned yr ysgol.

Mae amddiffyn plant yn rhan o ddiogelu a hyrwyddo lles. Mae hyn yn cyfeirio at y gweithgarwch a gynhelir i amddiffyn plant penodol sy’n dioddef neu sydd mewn perygl o ddioddef niwed sylweddol o ganlyniad i gael eu cam-drin neu’u hesgeuluso.

Mae diogelu yn cynnwys mwy na’r cyfraniad a wneir at amddiffyn plant mewn perthynas â phlant unigol. Mae hefyd yn cwmpasu materion fel:

  • recriwtio diogel, goruchwylio, hyfforddi a rheoli staff
  • sut mae staff yn rheoli ymddygiad disgyblion, yn cynnwys darpariaeth tynnu’n ôl a defnyddio ataliaeth
  • pa mor dda y mae’r darparwr yn monitro presenoldeb disgyblion ac ymgysylltiad â’r ddarpariaeth, sy’n gallu nodi’n gyflym unrhyw gyflyrau meddygol di-esboniad, absenoldebau anarferol, a diflaniadau
  • iechyd a diogelwch a lles disgyblion, ar y safle ac oddi ar y safle
  • datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion o ymddygiadau sy’n emosiynol niweidiol neu’n anniogel, er enghraifft meithrin perthynas amhriodol ar-lein, aflonyddwch, gwahaniaethu, bwlio ac eithafiaeth
  • bwlio, gan gynnwys seiberfwlio
  • gweithdrefnau cadw cofnodion y darparwr
  • trefniadau ar gyfer bodloni anghenion plant â chyflyrau meddygol
  • cymorth cyntaf a rheoli meddyginiaethau
  • addysg cydberthynas a rhywioldeb
  • hyrwyddo perthnasoedd iach
  • camfanteisio’n rhywiol ar blant
  • priodas dan orfod
  • atal radicaleiddio a chamfanteisio
  • masnachu pobl
  • cyfeirio dioddefwyr camdriniaeth at gymorth a chefnogaeth briodol
  • dyletswydd adrodd gorfodol ar gyfer anffurfio organau cenhedlu benywod
  • camddefnyddio cyffuriau a sylweddau
  • Trefniadau Amddiffyn Rhyddid (LPS) diogelwch ar-lein sy’n berthnasol i bobl ifanc un deg chwech oed ac yn hŷn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi gofynion statudol penodol ynglŷn â llawer o’r materion hyn. Gall fod materion diogelu eraill hefyd sy’n benodol i’r ardal neu’r boblogaeth leol.

Pan fydd yna ofynion statudol, dylai ysgolion fod wedi rhoi polisïau a gweithdrefnau ar waith eisoes sy’n bodloni’r rheiny ac yn cydymffurfio ag unrhyw arweiniad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Yn yr un modd, dylai polisïau a gweithdrefnau ddangos tystiolaeth o drefniadau am faterion y mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi arweiniad arnynt, sy’n unol â’r arweiniad hwnnw neu’n cyflawni’r un effaith.

Share document

Share this