Ym mhob agwedd ar ein gwaith, rhaid rhoi anghenion, diddordebau a lles plant, pobl ifanc ac oedolion bregus uwchlaw anghenion a diddordebau pawb arall. Felly, rhaid rhoi blaenoriaeth i’n Polisi Diogelu a’r arweiniad sydd wedi’i gynnwys ynddo dros bob polisi a chyngor arall. Trwy’r arweiniad hwn a thrwy hyfforddiant priodol, byddwn yn codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth staff ynghylch achosion posibl o gam-drin, esgeulustod, ac arfer broffesiynol anniogel o fewn lleoliadau rydym yn eu harolygu ac o fewn lleoliadau eraill rydym yn ymweld â nhw.
Dylid ei ddefnyddio er gwybodaeth yn ystod arolygiad ochr yn ochr â’n Polisi a’n Gweithdrefn ar gyfer Diogelu sydd i’w cael ar wefan Estyn.
Nid yw’r arweiniad hwn yn trafod y modd y dylai arolygwyr ddelio â honiadau am ddiogelu a dderbynnir yn ystod arolygiad. Rhaid i arolygwyr fod yn gyfarwydd â’n Polisi a’n Gweithdrefnau ar gyfer Diogelu sy’n cynnwys plant, pobl ifanc ac oedolion bregus. Dylai pob arolygydd wybod beth i’w wneud pe byddent yn derbyn honiadau am ddiogelu ac mae’r camau sy’n ofynnol wedi’u hamlinellu yn y ddogfen hon.
Mae angen i arolygwyr ysgolion annibynnol ystyried Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2003 hefyd.