Bydd arolygwyr yn defnyddio ystod eang o dystiolaeth. Cyn yr arolygiad, mewn perthynas â diogelu a hyrwyddo lles, bydd yr Arolygydd Cofnodol yn ystyried:
- gwerthusiad diweddaraf yr ysgol
- ei gweithdrefnau diogelu ac amddiffyn plant
- adroddiad yr awdurdod lleol ar yr ysgol
- yr adroddiad arolygu blaenorol
- data ar agweddau ar ymddygiad fel gwaharddiadau
- polisïau’r ysgol ar gyfer diogelu a hyrwyddo lles, yn cynnwys y polisi amddiffyn plant
- gwybodaeth ysgrifenedig gan rieni neu bartneriaid eraill
- unrhyw gŵynion y gallai Estyn fod wedi’u derbyn
- ymatebion i’r holiaduron i ddisgyblion, yn arbennig yr ymatebion i gwestiynau ynglŷn â theimlo’n ddiogel, bwlio, gwybod gyda phwy i siarad os ydynt yn poeni, cadw’n iach a gwneud ymarfer corff yn rheolaidd
- ymatebion i’r holiaduron i rieni, yn enwedig y cwestiynau ynghylch anogaeth i fod yn iach a gwneud ymarfer corff, bod yn ddiogel a chael y cymorth ychwanegol ar gyfer unrhyw anghenion penodol
- ymatebion i holiaduron staff a llywodraethwyr, yn enwedig y cwestiynau sy’n cyfeirio’n uniongyrchol at weithdrefnau diogelu’r ysgol, rheoli ymddygiad disgyblion a delio â bwlio ac aflonyddwch.
Mae’n bwysig nad ydym yn rhannu sylwadau unigol o unrhyw holiadur â’r ysgol. Mae’r sylwadau o’r holiaduron i ddysgwyr a rhieni yn yr ardal dogfennau arolygu a dylid eu cadw’n gyfrinachol i’r tîm. Caiff sylwadau o’r holiaduron staff a llywodraethwyr eu cadw’n ddiogel yn ardal yr Arolygydd Cofnodol, a dylent aros yn gyfrinachol i’r Arolygydd Cofnodol.
Dylai arolygwyr roi ystyriaeth benodol i gyd-destun yr ysgol, yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol, pan fydd ar gael:
- nifer y plant ar y gofrestr amddiffyn plant
- nifer y ffoaduriaid neu’r ceiswyr lloches
- nifer y plant y gofelir amdanynt
- gwaharddiadau a throsglwyddo disgyblion.
Pan fydd tystiolaeth cyn yr arolygiad yn nodi materion posibl o ran diogelu neu arfer wael o ran rheoli gan y darparwr, dylai arolygwyr ofyn am arweiniad gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol eu sector a’r tîm diogelu. Pan ystyrir bod angen adrodd ar fater, rhaid cymhwyso ein polisi diogelu.