Arweiniad atodol ar gyfer arolygu diogelu mewn ysgolion ac UCDau

Share document

Share this

Atodiad 8: Cefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd

Share document

Share this

Page Content

Cefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd | LLYW.CYMRU

Mae’r ddogfen hon wedi’i chynllunio i gynorthwyo awdurdodau lleol, cyrff llywodraethol, lleoliadau addysg, gweithwyr addysg ac iechyd proffesiynol a sefydliadau eraill i gefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd a sicrhau cyn lleied o aflonyddwch ag y bo modd i’w haddysg. Mae’n cynnwys arweiniad statudol, a chyngor anstatudol fel ei gilydd.

Yn gryno:

  • Rhaid i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethol ystyried1 yr arweiniad statudol hwn wrth gyflawni eu dyletswyddau o ran hyrwyddo lles plant sy’n ddysgwyr yn y lleoliad addysg, gan gynnwys bodloni eu hanghenion gofal iechyd. Mae’r arweiniad hefyd yn berthnasol i weithgareddau sy’n cael eu cynnal oddi ar y safle fel rhan o weithgareddau addysgol arferol.
  • Dylai dysgwyr ag anghenion gofal iechyd gael eu cefnogi’n briodol fel eu bod yn elwa’n llawn ar addysg, gan gynnwys teithiau ac addysg gorfforol.
  • Rhaid i gyrff llywodraethol sicrhau bod trefniadau ar waith i gefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd.
  • Dylai cyrff llywodraethol sicrhau bod staff lleoliadau addysg yn ymgynghori â’r gweithwyr proffesiynol perthnasol, y dysgwyr a’r rhieni i sicrhau bod anghenion y dysgwr ag anghenion gofal iechyd yn cael eu deall yn briodol a’u cefnogi’n effeithiol.
  • Mae angen trefnu bod Polisi Anghenion Gofal Iechyd yr awdurdod lleol neu’r ysgol ar gael ar-lein i rieni a dysgwyr ei weld. Pan na fydd hyn yn bosibl, e.e. nid oes gwefan gan yr ysgol, dylid trefnu bod copïau caled ar gael.

Mae’r arweiniad yn darparu gwybodaeth am y canlynol:

  • Y gweithdrefnau ar gyfer cadw cofnodion a rheoli anghenion gofal iechyd dysgwyr
  • Creu amgylchedd dysgu hygyrch
  • Storio, defnyddio a gweinyddu meddyginiaeth a dyfeisiau
  • Hyfforddi staff
  • Gweithdrefnau mewn argyfwng
  • Cynlluniau Gofal Iechyd Unigol
  • Arfer annerbyniol

Share document

Share this