Cyfrifoldeb y pennaeth a’r corff llywodraethol yw sicrhau bod safle’r ysgol a’i hadeilad yn ddiogel. Bydd y trefniadau hyn yn amrywio o un ysgol i’r llall yn dibynnu ar natur y safle ac oedran y disgyblion ar y gofrestr. Gallai trefniadau mewn ysgolion cynradd fod yn wahanol i’r rhai mewn ysgolion uwchradd. Yn achos UCD, yr awdurdod lleol ac nid yr athro sydd â gofal / pwyllgor rheoli sydd â’r cyfrifoldeb sylfaenol.
Rydym yn disgwyl i’r ysgol:
- gynnal asesiad risg trylwyr o safle’r ysgol, er enghraifft ystyried diogeledd y safle, hawliau tramwy cyhoeddus, trefniadau rheoli traffig a chyflwr yr holl adeiladau
- gwneud trefniadau priodol i reoli’r risgiau hynny yn briodol
- dweud wrth eu cyflogeion am y risgiau a’r camau y dylid eu cymryd i’w rheoli
- sicrhau bod hyfforddiant digonol yn cael ei roi i gyflogeion ar faterion iechyd a diogelwch