Mae’r arweiniad hwn yn amlinellu’r trefniadau adrodd ar gyfer achosion o gamymddwyn proffesiynol ac anghymwystra proffesiynol yn y gwasanaeth addysg. Mae’n berthnasol i ddarparwyr addysg yn y sector a gynhelir a’r sector annibynnol, fel ei gilydd.
Yn gryno:
- Os caiff aelod o staff neu wirfoddolwr ei ddiswyddo neu’i fod yn ymddiswyddo cyn cael ei ddiswyddo am gamymddwyn sy’n ymwneud â niwed, neu risg o niwed, i blentyn neu oedolyn bregus, rhaid i’r cyflogwr gyfeirio’r mater at y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Os yw’r aelod o staff wedi’i gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, rhaid i’r cyflogwr gyfeirio’r achos at Gyngor y Gweithlu Addysg hefyd.
- Os caiff aelod o staff neu wirfoddolwr sydd wedi ei gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ei ddiswyddo neu’i fod yn ymddiswyddo cyn cael ei ddiswyddo am gamymddwyn nad yw’n ymwneud â’r niwed, neu risg o niwed, i blentyn neu oedolion bregus, rhaid i’r cyflogwr gyfeirio’r achos at Gyngor y Gweithlu Addysg.
- Os caiff aelod o staff neu wirfoddolwr nad yw wedi ei gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (e.e. gofalwr) ei ddiswyddo am gamymddwyn nad yw’n ymwneud â niwed i blentyn neu oedolyn bregus, dylai’r cyflogwr ddelio â’r achos o dan ei weithdrefnau disgyblu ei hun.