Arweiniad atodol: cydraddoldeb, hawliau dynol a Saesneg fel iaith ychwanegolghts and English as an additional language
Gwerthuso cydraddoldeb a hawliau dynol
Amcanion cydraddoldeb a chynlluniau cydraddoldeb strategol
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 (y Ddeddf) yn crynhoi ac yn disodli’r cyfreithiau gwrthwahaniaethu blaenorol mewn un Deddf.
Mae’r Ddeddf yn cynnwys dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus newydd (y ‘ddyletswydd gyffredinol’), gan ddisodli’r dyletswyddau ar wahân yn ymwneud â hil, anabledd a chydraddoldeb rhywiol. Daeth hon i rym ar 5 Ebrill 2011.
Beth yw’r ddyletswydd gyffredinol?
Mae’n ofynnol i awdurdodau cyhoeddus[1] (darparwyr) roi sylw priodol i’r angen i:
- ddileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithiol ac ymddygiad arall sydd wedi ei wahardd gan y Ddeddf
- hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a’r rhai nad ydynt
- meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rhai nad ydynt
Mae’r arweiniad hwn yn cyfeirio at y tair elfen hon fel tri ‘nod’ y ddyletswydd gyffredinol, ac felly pan fyddwn yn trafod y ddyletswydd gyffredinol, rydym yn golygu pob un o’r tair nod.
Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn cwmpasu’r un grwpiau a oedd yn cael eu gwarchod gan ddeddfwriaeth bresennol yn ymwneud â chydraddoldeb – oed, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil a beichiogrwydd a mamolaeth – ond mae’n ehangu rhai nodweddion gwarchod i grwpiau nad oeddent yn cael eu cynnwys yn flaenorol, ac mae hefyd yn cryfhau agweddau penodol ar y gyfraith cydraddoldeb. Gelwir y rhain yn fwy cyffredin erbyn hyn fel y nodweddion gwarchodedig, a chyfeirir at y grwpiau fel y grwpiau gwarchodedig.
Nodwch hefyd, mewn perthynas â’r rhestr o nodweddion gwarchodedig, nad oes rhaid i ysgolion ystyried nodwedd warchodedig oed wrth ddarparu addysg i ddisgyblion, neu wrth ddarparu buddion, cyfleusterau neu wasanaethau iddynt. Nid oes rhaid i ysgolion felly ystyried hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng disgyblion o oed gwahanol, nac ystyried sut i feithrin perthynas dda rhwng disgyblion o oed gwahanol. Eithriad cyfyngedig yw hwn sydd yn gymwys yng nghyd-destun oed yn unig. Bydd angen i ysgolion roi sylw priodol o hyd i’r ddyletswydd gyffredinol mewn perthynas â phob un o’r nodweddion gwarchodedig eraill.
[1] Mae awdurdodau cyhoeddus yn cynnwys awdurdodau lleol, ysgolion a gynhelir, colegau AB ac AU.
Dyletswyddau penodol yng Nghymru
Mae ystod o ddyletswyddau penodol hefyd y mae angen i ddarparwyr roi sylw iddynt. Diben bras y dyletswyddau penodol yng Nghymru yw helpu darparwyr wrth iddynt gyflawni’r ddyletswydd gyffredinol ac i gynorthwyo tryloywder.
Amcanion cydraddoldeb a chynlluniau cydraddoldeb strategol
Diben cynllun cydraddoldeb strategol yw dogfennu’r camau y mae darparwr yn eu cymryd i gyflawni ei ddyletswyddau penodol.
- Rhaid i ddarparwyr gyhoeddi amcanion strategol a bod wedi llunio cynllun cydraddoldeb strategol erbyn 2 Ebrill 2012. Dylai amcanion strategol gael eu hadolygu bob pedair blynedd, o leiaf. Felly, er enghraifft, rhaid i ddarparwyr gael cynllun cydraddoldeb strategol cyfredol yn dyddio o 2020 ymlaen.
- Rhaid i ddarparwyr hefyd gyhoeddi adroddiad cydraddoldeb blynyddol erbyn 31 Mawrth bob blwyddyn sy’n cynnwys manylion ar gynnydd tuag at gyflawni pob un o’r amcanion cydraddoldeb.
Rhestr wirio arolygu
At ddibenion Estyn, y prif bwyntiau y dylech eu hystyried yw:
- a yw’r darparwr wedi cyhoeddi amcanion strategol (rhaid eu hadolygu o leiaf bob 4 blynedd), cynllun cydraddoldeb strategol ac adroddiad cydraddoldeb blynyddol
- a yw’r cynllun yn cynnwys disgrifiad o’r darparwr a’i amcanion cydraddoldeb
- y camau y mae wedi’u cymryd neu’n bwriadu’u cymryd i fodloni ei amcanion, ac o fewn ba raddfa amser
- ei drefniadau ar gyfer monitro cynnydd o ran bodloni ei amcanion cydraddoldeb ac effeithiolrwydd y camau y mae’n eu cymryd i fodloni’r amcanion hynny
- ei drefniadau ar gyfer nodi a chasglu gwybodaeth berthnasol am gydraddoldeb; mae hyn yn cynnwys gwybodaeth a gasglwyd drwy ymgysylltu â grwpiau gwarchodedig ynglŷn â sut gallai gwaith y darparwr ymwneud â’r ddyletswydd gyffredinol
- ei drefniadau ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth berthnasol am gydraddoldeb y mae’n ei chadw ac y mae’n ystyried ei bod yn briodol i’w chyhoeddi
- ei drefniadau ar gyfer:
- asesu effaith debygol unrhyw bolisïau ac arferion y mae awdurdod yn eu cynnig, eu hadolygu neu’u diwygio ar grwpiau gwarchodedig
- monitro’u heffaith wirioneddol a’u heffaith barhaus
- cyhoeddi adroddiadau lle mae asesiad yn dangos effaith sylweddol (neu effaith debygol) ar allu awdurdod i fodloni’r ddyletswydd gyffredinol
- manylion ynglŷn â sut bydd darparwr yn hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o’r ddyletswydd gyffredinol a dyletswyddau penodol ymhlith gweithwyr, gan gynnwys drwy weithdrefnau asesu perfformiad, er mwyn nodi a mynd i’r afael ag anghenion hyfforddi