Arweiniad atodol: cydraddoldeb, hawliau dynol a Saesneg fel iaith ychwanegolghts and English as an additional language

Share document

Share this

Cyflwyniad

Share document

Share this

Page Content

Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn creu gofyniad statudol ar ddarparwyr i roi sylw priodol i’r angen i hyrwyddo cydraddoldeb, dileu gwahaniaethu a meithrin perthnasoedd da ar sail ‘nodweddion gwarchodedig’ fel hil, rhyw ac anabledd. Rhoddir mwy o fanylion yn adran dau, ond yn y bôn, dylai arolygwyr edrych am dystiolaeth – fel amcanion cydraddoldeb a gwybodaeth berthnasol gyhoeddedig – fod darparwyr yn mynd i’r afael â materion allweddol sy’n effeithio ar grwpiau gwarchodedig gwahanol a bod camau effeithiol ganddynt i fynd i’r afael ag anfantais bosibl y gallant ei dioddef, fel cyrhaeddiad gwahaniaethol, cyfraddau gwahardd a bwlio.

Ymdrinnir ag agweddau ar gydraddoldeb a hawliau dynol drwy bum maes arolygu’r fframwaith arolygu cyffredin.

Mae’r maes arolygu cyntaf yn canolbwyntio ar ddysgu. O dan y maes arolygu hwn, dylai arolygwyr werthuso cynnydd yr holl ddisgyblion ar draws yr ysgol, yn cynnwys cynnydd gwahanol grwpiau o ddisgyblion. Yn dibynnu ar gyd-destun yr ysgol, gallai hyn gynnwys disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim, bechgyn a merched, disgyblion sy’n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol (SSIY), disgyblion sy’n fwy abl, disgyblion ag amserlenni amgen neu sy’n derbyn addysg oddi ar y safle yn rheolaidd a’r rhai o grwpiau ethnig lleiafrifol.

Mae’r ail faes arolygu yn ymwneud â lles ac agweddau at ddysgu. Yn y maes hwn, dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae pob un o’r disgyblion yn datblygu i fod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus, er enghraifft trwy eu hymwybyddiaeth o degwch, cydraddoldeb, cynaliadwyedd a hawliau plant. Dylai arolygwyr ystyried tueddiadau yng nghyfradd bresenoldeb gyffredinol y darparwr a’r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael, yn cynnwys unrhyw amrywiadau nodedig rhwng grwpiau penodol o ddisgyblion ac eraill, er enghraifft y rhai sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim.   

Mae’r trydydd maes arolygu yn ymwneud ag addysgu a phrofiadau dysgu. Wrth werthuso cwricwlwm y darparwr, dylai arolygwyr ystyried pa mor dda:  

  • y mae’r darparwr yn datblygu’r Cwricwlwm i Gymru i adlewyrchu natur cyd-destun yr ysgol yn llawn, yn cynnwys cynllunio gweithgareddau dysgu sy’n adlewyrchu amrywiaeth ddiwylliannol, ieithyddol ac ethnig Cymru ac ardal leol yr ysgol
  • y mae cwricwlwm y darparwr yn darparu ar gyfer grwpiau penodol o ddisgyblion, er enghraifft disgyblion mwy abl, y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol a disgyblion â Saesneg fel iaith ychwanegol. (Mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg neu ffrydiau cyfrwng Cymraeg, gallai hyn gynnwys darpariaeth ar gyfer disgyblion nad oes ganddynt ryw lawer o wybodaeth flaenorol am y Gymraeg. Mewn ysgolion sydd â disgyblion yn derbyn rhan o’u haddysg oddi ar y safle neu ar y safle mewn grwpiau anogaeth neu ddarpariaeth cynhwysiant, dylai arolygwyr werthuso pa mor dda y mae’r cwricwlwm hwn yn diwallu anghenion y disgyblion hyn)

Dylai arolygwyr ystyried y graddau y mae gan athrawon ac ymarferwyr eraill ddisgwyliadau uchel o’r holl ddisgyblion. Dylai arolygwyr werthuso pa mor dda mae athrawon yn datblygu dealltwriaeth ar y cyd o ddilyniant i sicrhau bod eu hasesiadau yn ddilys, yn gywir ac yn ddibynadwy. Wrth werthuso defnydd athrawon o ddeilliannau eu hasesiadau eu hunain ac asesiadau allanol, dylai arolygwyr ystyried pa mor dda maent yn defnyddio’r wybodaeth hon i:

  • asesu cynnydd a datblygiad unigolion a grwpiau penodol, er enghraifft y disgyblion hynny sydd mewn perygl o dangyflawni neu’r rhai sy’n fwy abl.

Y pedwerydd maes arolygu yw gofal, cymorth ac arweiniad. Dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae’r ysgol neu’r UCD:

  • yn helpu disgyblion, gan gynnwys y rhai o wahanol grwpiau, fel y rhai sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ymgymryd â chyfrifoldebau a chwarae rhan lawn yn yr ysgol a’r gymuned ehangach
  • yn helpu disgyblion i ddatblygu dealltwriaeth o’u diwylliant, y gymuned leol a’r byd ehangach
  • yn helpu disgyblion i ddeall materion yn ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn datblygu gwerthoedd parch, empathi, dewrder a thosturi
  • yn meithrin gwerthoedd ar y cyd, fel gonestrwydd, tegwch, cyfiawnder a chynaliadwyedd, ac yn helpu disgyblion i ddeall anghenion a hawliau pobl eraill, yn lleol ac fel aelodau o fyd amrywiol
  • yn herio ystrydebau yn agweddau, dewisiadau a disgwyliadau disgyblion a pha mor dda y mae’n hyrwyddo hawliau dynol  
  • yn hyrwyddo egwyddorion sy’n helpu disgyblion i wahaniaethu rhwng da a drwg
  • yn darparu cyfleoedd effeithiol i ddisgyblion ddatblygu gwerthoedd cadarn a sefydlu eu credoau ysbrydol a moesegol
  • yn datblygu gallu disgyblion i fyfyrio ar ymatebion crefyddol ac anghrefyddol i gwestiynau sylfaenol, a myfyrio ar eu credoau neu’u gwerthoedd eu hunain

Dylai arolygwyr ystyried pa mor dda mae’r ysgol neu’r UCD:

  • yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion (yn unol â’u cyfnod datblygu) o ymddygiadau sy’n niweidiol yn emosiynol neu’n anniogel, er enghraifft meithrin perthynas amhriodol ar-lein, aflonyddu, gwahaniaethu, bwlio ac eithafiaeth
  • yn cadw disgyblion yn ddiogel rhag peryglon radicaleiddio a chamfanteisio
  • yn rheoli ac yn ymateb i unrhyw achosion honedig yn ymwneud â bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu yn gysylltiedig â rhagfarn, p’un a yw hynny gan staff neu gan gyd-ddisgyblion, yn cynnwys atgyfeirio ymhellach, ac adrodd, pan fydd yn briodol
  • yn defnyddio’i threfniadau i hyrwyddo a chefnogi diwylliant gwrthfwlio ac ymagwedd gadarnhaol at reoli ymddygiad disgyblion
  • yn cofnodi ac yn mynd i’r afael ag ymddygiad gwael a mathau penodol o fwlio, yn cynnwys y rhai sy’n ymwneud â nodweddion gwarchodedig, a pha mor dda y mae arweinwyr yn defnyddio’r cofnodion i wella’r ddarpariaeth

Mae maes arolygu pump yn ymwneud ag arweinyddiaeth a rheolaeth. Mae tri gofyniad adrodd, ac mae’r pedwar yn ymwneud â’r effaith a gaiff arweinwyr a rheolwyr o ran diwallu anghenion dysgwyr o grwpiau gwahanol. Dylai arolygwyr werthuso’r graddau y mae arweinwyr a rheolwyr wedi sefydlu a chyfleu gweledigaeth glir. Dylent ystyried p’un a oes nodau, amcanion strategol, cynlluniau a pholisïau priodol sy’n canolbwyntio ar ddiwallu anghenion yr holl ddisgyblion i sicrhau eu bod yn cyflawni cystal ag y dylent, o leiaf. Dylent ystyried y flaenoriaeth y mae arweinwyr wedi’i rhoi i sicrhau bod pob un o’r staff yn deall ac yn hyrwyddo diwylliant diogelu’r ysgol. Dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae arweinwyr a rheolwyr yn gweithredu yn unol ag egwyddor datblygu cynaliadwy, a pha mor dda maent yn gwneud penderfyniadau, er enghraifft yn ymwneud â gwario, ac yn gosod blaenoriaethau ar gyfer gwella sy’n sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr, dybryd ac anghenion tymor hir disgyblion, y gymuned leol a Chymru.

Mae’r arweiniad atodol hwn yn rhoi rhywfaint o wybodaeth ychwanegol ar gyfer arolygu’r meysydd hyn.

Share document

Share this