Bydd y tîm yn cynllunio’r arolygiad er mwyn iddynt allu cwmpasu’r gofynion adrodd o fewn y pum maes arolygu. Byddant yn sicrhau bod ganddynt ddigon o amser i adolygu’r dystiolaeth allweddol sydd ei hangen arnynt i lunio eu barnau. Bydd arolygwyr yn ymgymryd ag ystod o weithgareddau i gasglu tystiolaeth ar gyfer eu gwerthusiad o gynnydd disgyblion ac ansawdd darpariaeth yr ysgol. Gallai hyn gynnwys:
- samplau o waith disgyblion.
Bydd y tîm yn defnyddio arsylwadau uniongyrchol o waith disgyblion ble bynnag y bo modd i gasglu tystiolaeth i gefnogi eu barnau. Gallai arolygwyr ddewis sampl ychwanegol o waith disgyblion, os oes angen, i ymestyn eu hymchwiliad i agwedd benodol.
Pwyntiau i’w hystyried:- A yw disgyblion yn defnyddio ystod o fedrau rhif a mesur priodol?
- A yw disgyblion yn defnyddio ystod briodol o fedrau trin data (er enghraifft casglu gwybodaeth mewn ffyrdd amrywiol, cofnodi, dehongli a chyflwyno’r wybodaeth mewn siartiau neu ddiagramau, nodi patrymau mewn data a chyfleu casgliadau priodol, dewis graff priodol i arddangos y data, defnyddio graddfa briodol a chywir ar bob echel, ac adrodd ‘stori graff’)?
- A yw disgyblion yn cymhwyso’r medrau hyn mewn gwahanol gyd-destunau yn effeithiol i ddatrys problemau go iawn (pwyntiau i’w hystyried yw perthnasedd, her, cynllunio, prosesu a rhesymu)?
- A yw gweithgareddau dysgu yn bwrpasol ac a ydynt yn adeiladu’n llwyddiannus ar yr hyn mae disgyblion yn ei wybod?
- A oes tystiolaeth glir o wahaniaethu priodol?
- A yw adborth yn helpu disgyblion i wella eu gwaith?
- arsylwi addysgu a gweithgareddau eraill, gan gynnwys tystiolaeth a gasglwyd trwy deithiau dysgu
- trafodaethau â rhanddeiliaid
- trafodaethau â disgyblion am eu gwaith.
Mae hon yn ffynhonnell dystiolaeth allweddol ar gyfer arolygwyr. Bydd trafodaethau â disgyblion yn yr ystafell ddosbarth ac mewn grwpiau ffocws yn darparu cyfle i archwilio gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion o’u gwaith. Bydd hefyd yn helpu arolygwyr i farnu pa mor dda y mae’r ysgol yn cefnogi disgyblion ac yn cyfrannu at eu cynnydd a’u lles. Gellid defnyddio’r cwestiynau yn Nogfen A fel sbardun wrth drafod rhifedd â disgyblion.
- trafodaethau ag athrawon unigol am ddysgu disgyblion yn eu dosbarthiadau a sut maent yn cynllunio gwaith i ddiwallu eu hanghenion,
- trafodaethau ag arweinwyr, rheolwyr, llywodraethwyr, rhieni a phobl eraill
Bydd angen i’r tîm ystyried barn rhanddeiliaid ar yr ysgol, a phrofi dilysrwydd y farn hon yn ystod yr arolygiad. Bydd y rhain yn cynnwys atebion i’r arolwg gan ddisgyblion, rhieni / gofalwyr, llywodraethwyr, staff addysgu a staff cymorth a gwybodaeth gan yr awdurdod lleol / consortiwm rhanbarthol
- tystiolaeth ddogfennol, gan gynnwys gwybodaeth am berfformiad a chynnydd disgyblion.
Dylai ysgolion drefnu bod gwybodaeth ar gael i’r tîm arolygu am y safonau a gyflawnir gan ddisgyblion, yn enwedig canlyniadau unrhyw brofion sgrinio cychwynnol ac asesiadau eraill. Bydd hyn yn helpu arolygwyr i farnu cynnydd disgyblion, llunio barn am y safonau mae disgyblion yn eu cyflawni o gymharu â’u mannau cychwyn, a’r ffordd y mae athrawon yn defnyddio’r wybodaeth o asesiadau i ddylanwadu ar eu cynllunio a’u gwersi