Arolygu ysgolion â chymeriad crefyddol

Share document

Share this

Ysgolion Mwslimaidd (annibynnol)

Share document

Share this

Page Content

Cefndir

Mae’r ysgolion hyn yn ceisio hyrwyddo ethos Islamaidd ar draws y cwricwlwm. Yn gyffredinol, cânt eu cefnogi gan gymunedau lleol, ac felly, maent wedi eu lleoli gan amlaf mewn ardaloedd sydd â phoblogaethau sylweddol o Fwslimiaid.

Yn aml, bydd gweddïau dyddiol (Salat) bum gwaith y dydd yn pennu ffurf y diwrnod ysgol, felly caiff amserlenni eu haddasu yn ystod tymhorau’r hydref a’r gwanwyn fel arfer, er mwyn cynnal y gweddïau ganol dydd ac yn ystod y prynhawn.

Yn ystod Ramadan, gellir cyfyngu gweithgareddau fel addysg gorfforol gan y bydd llawer o ddisgyblion yn ymprydio. Yn ystod Eid a Muharram, bydd llawer o ysgolion yn cynnal dathliadau i nodi pwysigrwydd y digwyddiadau hyn.

Gallai bechgyn a merched gael eu haddysgu neu’u rhoi i eistedd ar wahân yn unol â’r cyd-destun penodol, yn enwedig yn ystod gweithredoedd o addoli ar y cyd. Ni ddylid ystyried hyn fel arwydd o anghydraddoldeb rhwng gwahanol rywiau.

Mae gan y rhan fwyaf o ysgolion wisg ar gyfer bechgyn a merched. Gan amlaf, dillad arddull Asiaidd draddodiadol yw’r wisg, sy’n cynrychioli egwyddor Islamaidd gwedduster. Bydd merched yn gorchuddio eu pen â’r ‘hijab’ neu sgarff. Gall bechgyn wisgo cap bach.

Yn aml, mae staff benywaidd yn gorchuddio eu pennau; mae rhai ohonynt yn gwisgo’r gorchudd wyneb llawn (niqaab).

Bydd y llety’n cynnwys cyfleusterau ar gyfer ‘wudu’, sef y ddefod ymolchi ofynnol cyn gweddïo a phrydau bwyd. Gwneir hyn trwy eistedd ar stôl sownd ger tap, fel y gellir golchi’r traed, y dwylo a rhannau o’r pen o dan ddŵr rhedegog. Gallai’r ardaloedd ymolchi hyn fod ar wahân i doiledau, a allai fod mewn arddull ‘orllewinol’ neu ‘ddwyreiniol’. Weithiau, darperir cafnau â sawl tap yn fasnau ymolchi.

Cwricwlwm

Mae’r cwricwlwm yn amrywio yn ôl barn yr Ymddiriedolwyr a’r traddodiad Islamaidd a ddilynir. Yn unol â’r safonau ysgolion annibynnol, dylai arolygwyr werthuso ehangder a chydbwysedd y cwricwlwm, yn cynnwys medrau a addysgir yn y gwahanol bynciau, ac ar draws grwpiau oedran.

Fel arfer, caiff darpariaeth ieithoedd tramor modern ei haddysgu trwy Arabeg, ac ieithoedd Ewropeaidd eraill o bryd i’w gilydd.

Gellir cyfyngu celf a cherddoriaeth. Gallai arolygwyr ddarganfod tystiolaeth o gerddoriaeth yn cael ei haddysgu trwy sesiynau addoli crefyddol: y tajweed (adrodd y Qur’an), canu caneuon Arabeg (nasheed), chwarae’r ‘Duff’ (drymiau) a’r alwad i weddïo (adhaan). Addysgir y rhain i ddisgyblion o oedran cynnar. Ni fydd ysgolion  Mwslimaidd yn addysgu unrhyw fath o gelf sy’n portreadu’r ffurf ddynol neu greaduriaid byw. Fodd bynnag, nid oes cyfyngiad ar addysgu arddulliau celfyddyd haniaethol, geometrig neu arabésg.

Ar gyfer addysg gorfforol, bydd merched hŷn yn tueddu i wisgo tracsiwtiau ac yn gorchuddio eu pennau. Bydd addysg gorfforol yn cael ei haddysgu i ddisgyblion ysgol gynradd gyda’i gilydd ac ar wahân wedi iddynt gyrraedd yr ysgol uwchradd.

Bydd addysg iechyd a rhyw yn cael ei haddysgu o fewn astudiaethau Islamaidd, ac yn aml o dan ymbarél addysg bersonol, gymdeithasol ac iechyd, oni bai ei bod yn ofynnol gan faes llafur arholiadau, fel gwyddoniaeth TGAU. Mae rhai ysgolion yn gofyn iddi gael ei haddysgu gan athrawon Mwslimaidd o’r un rhyw â’r disgyblion yn unig.

Moesau

Bydd gan ysgolion ystafell weddïo, a rhaid tynnu esgidiau bob amser cyn mynd i mewn i’r ystafell hon. Mae rhai staff ysgol yn newid i sliperi. Dylai arolygwyr ddod â sliperi neu wisgo sanau. Bydd gan rai ysgolion fosg wedi’i adeiladu’n bwrpasol ar y safle. Hefyd, gallai rhai ysgolion ofyn i arolygwyr dynnu eu hesgidiau cyn mynd i mewn i’r brif ysgol.

Mae’n bwysig i arolygwyr fod yn ymwybodol o ystyriaethau crefyddol, a’u parchu. Mae Mwslimiaid yn cyfarch ei gilydd, trwy ddweud ‘as-salamu alaykum’ – ‘tangnefedd i chi’. Yr ateb yw ‘wa’ alaykum as-salam’ – ‘tangnefedd i chi hefyd’. Os caiff ei ddefnyddio’n barchus wrth fynd i mewn i ddosbarth, bydd y plant yn ateb.

Hefyd, dylai arolygwyr benywaidd wisgo siwt trowsus neu sgert hirach a siaced i orchuddio eu breichiau. Hefyd, argymhellir y dylai arolygwyr benywaidd gario sgarff rhag ofn byddan nhw’n mynd i mewn i ystafell weddïo neu fosg, pan fydd angen iddynt orchuddio eu pen.

Fel arfer, nid oes unrhyw gyswllt corfforol rhwng gwrywod a benywod nad ydynt yn rhan o’r un teulu. Nid yw dynion Mwslimaidd fel arfer yn ysgwyd llaw â menywod, ac nid yw menywod Mwslimaidd fel arfer yn ysgwyd llaw â dynion, felly mae’n well peidio â chynnig ysgwyd llaw, oni bai fod rhywun yn cynnig ysgwyd llaw â chi.

Mae’n bwysig gwirio gyda’r ysgol beth yw’r moesau o ran arolygwyr gwrywaidd yn mynd i mewn i ystafell ddosbarth athrawon benywaidd. Mewn rhai ysgolion, bydd angen rhoi amser i’r athrawes orchuddio’i phen a/neu ei hwyneb rhag yr arolygydd gwrywaidd. Hefyd, mae angen i arolygwyr fod yn ymwybodol y gallent roi adborth o wers i athrawes a allai fod yn gwisgo ‘niqaab’ llawn (gorchudd wyneb a phen). Mewn rhai ysgolion, bydd angen i fenyw arall fod yn bresennol gydag arolygwyr gwrywaidd er mwyn rhoi adborth i athrawes.

Share document

Share this