Arolygu ysgolion â chymeriad crefyddol

Share document

Share this

Nodweddion ysgol ffydd a gynhelir

Share document

Share this

Ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir

Caiff ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir eu hariannu’n bennaf gan y wladwriaeth, gyda’r sefydliad yn gyfrifol am o leiaf 10% o waith cyfalaf, ond yn cael mwy o ddylanwad dros yr ysgol. Y corff llywodraethol sy’n rhedeg yr ysgol, yn cyflogi’r staff ac yn penderfynu ar drefniadau derbyn yr ysgol, yn amodol ar reolau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae disgyblion yn dilyn y cwricwlwm cenedlaethol. Yn yr ysgolion hyn, bydd addysg grefyddol yn cael ei phennu gan y llywodraethwyr, ac yn unol â darpariaethau’r weithred ymddiriedolaeth yn gysylltiedig â’r ysgol, neu ble nad oes unrhyw ddarpariaeth yn y weithred ymddiriedolaeth, gyda’r grefydd neu’r enwad a grybwyllir yn y gorchymyn sy’n dynodi bod gan yr ysgol gymeriad crefyddol.

Ysgolion gwirfoddol a reolir

Caiff holl gostau ysgolion gwirfoddol a reolir eu talu gan y wladwriaeth, a chânt eu rheoli gan yr awdurdod lleol. Caiff y tir a’r adeiladau eu perchnogi yn nodweddiadol gan sefydliad elusennol, sydd hefyd yn penodi tua chwarter o lywodraethwyr yr ysgol. Fodd bynnag, yr awdurdod lleol sy’n cyflogi staff yr ysgol, ac mae ganddo’r prif gyfrifoldeb am drefniadau derbyn yr ysgol. Mae disgyblion yn dilyn y cwricwlwm cenedlaethol. Bydd darpariaeth Addysg Grefyddol mewn ysgolion gwirfoddol a reolir â chymeriad crefyddol yn cael ei chynnig yn unol â’r maes llafur y cytunwyd arno yn lleol. Fodd bynnag, pan fydd rhiant unrhyw ddisgybl yn yr ysgol yn gofyn am i Addysg Grefyddol gael ei darparu yn unol â darpariaethau’r weithred ymddiriedolaeth yn gysylltiedig â’r ysgol (neu, ble nad oes yna unrhyw ddarpariaeth yn y weithred ymddiriedolaeth, yn unol â’r grefydd neu’r enwad a grybwyllir yn y gorchymyn sy’n dynodi bod gan yr ysgol gymeriad crefyddol), rhaid i’r llywodraethwyr wneud trefniadau ar gyfer sicrhau bod Addysg Grefyddol yn cael ei darparu i’r disgybl yn unol â’r grefydd berthnasol am hyd at ddwy wers yr wythnos, oni bai eu bod yn fodlon fod yna amgylchiadau arbennig a fyddai’n golygu ei bod yn afresymol gwneud hynny.

Arolygiad ysgol a gynhelir: arolygiadau adran 28 ac adran 50

Mae Adran 28 Deddf Addysg 2005 yn amlinellu dyletswyddau arolygu Estyn o ran  ysgolion a gynhelir.

Os oes cymeriad crefyddol gan ysgol a gynhelir, fel y dynodwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, caiff addysg grefyddol enwadol a chynnwys addoli ar y cyd eu harolygu o dan Adran 50 Deddf Addysg 2005. Caiff yr arolygwyr sy’n cynnal arolygiadau Adran 50 eu penodi gan gorff llywodraethol yr ysgol trwy ymgynghori â’r awdurdod crefyddol priodol, ac maen nhw fel arfer yn dod o arolygiaeth Adran 50 y grŵp ffydd perthnasol (er enghraifft, y Gwasanaeth Addysg Gatholig yn achos ysgolion Catholig Rhufeinig). Pan fydd yn ofynnol darparu addysg grefyddol gan ddefnyddio’r maes llafur y cytunwyd arno yn lleol sy’n berthnasol i’r ysgol, fel yn achos ysgolion gwirfoddol a reolir, er enghraifft, byddai addysg grefyddol yn cael ei harolygu o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005.

Er bod arolygwyr Adran 50 yn arolygu gweithredoedd o addoli ar y cyd, gwersi Addysg Grefyddol (yn achos ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir) a / neu’r gwersi hynny y dynodwyd eu bod yn darparu Addysg Grefyddol enwadol (yn achos ysgolion gwirfoddol a reolir), gallai arolygwyr Estyn ac arolygwyr Adran 50 fynychu gweithredoedd o addoli ar y cyd a gallent arsylwi gwersi y darperir Addysg Grefyddol ynddynt. Mewn achosion o’r fath, ni fydd arolygydd Estyn yn arolygu nac yn adrodd ar faterion y mae’r arolygydd Adran 50 yn gyfrifol amdanynt – yn gyffredinol, y cynnwys enwadol a gaiff ei ddarparu. Caiff y berthynas rhwng arolygiadau Adran 28 ac Adran 50 ei llywodraethu gan brotocol rhwng Estyn ac arolygiaethau grwpiau ffydd.

Wrth arolygu gwersi Addysg Grefyddol neu weithredoedd o addoli ar y cyd, gall arolygwyr Estyn roi sylwadau ar y canlynol:

  • cynnydd mewn dysgu
  • datblygiad medrau, h.y. llythrennedd neu rifedd
  • agweddau at ddysgu
  • cyfraniad gwasanaethau / gwersi Addysg Grefyddol at ddatblygiad personol ac addysg ysbrydol, foesol, gymdeithasol a diwylliannol disgyblion
  • ansawdd yr addysgu

Dylai arolygwyr Estyn osgoi rhoi sylwadau ar y canlynol:

  • cynnwys enwadol gwasanaethau neu wersi Addysg Grefyddol, yn benodol
  • natur neu ansawdd enwadol penodol ethos yr ysgol. Dylid osgoi ymadroddion fel: ‘Mae’r ysgol yn llwyddiannus iawn o ran hyrwyddo ethos Cristnogol cryf’
Nodweddion ysgolion ffydd annibynnol

Mae’r arweiniad hwn yn ceisio rhoi ychydig o wybodaeth gefndir i chi am bob math o ysgol ffydd annibynnol a’r moesau a ddisgwylir. Hyd yn oed mewn ysgolion ffydd sy’n dilyn yr un grefydd, gallai fod yna ychydig o wahaniaethau mewn moesau.

Share document

Share this