Bydd yr adroddiad o ddiddordeb i athrawon a phenaethiaid, ymarferwyr ac arweinwyr lleoliadau heb eu cynnal, a swyddogion mewn awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol, a Llywodraeth Cymru. Bydd hefyd o ddiddordeb i'r rhai sy'n gweithio ym maes addysg gychwynnol athrawon. Bydd canfyddiadau’r adroddiad yn helpu lleoliadau ac ysgolion sy’n cynllunio ar gyfer maes dysgu a phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn A Curriculum for Wales (Llywodraeth Cymru, 2020b). Mae’r adroddiad yn darparu disgrifiadau byr o arfer effeithiol (‘vignettes’) i ddangos sut mae darparwyr yn datblygu sgiliau a gwybodaeth dysgwyr wrth wrando, siarad, darllen ac ysgrifennu. Rydym yn ymhelaethu ar yr enghreifftiau hyn o arfer llwyddiannus mewn astudiaethau achos a gyhoeddwyd i gyd-fynd â'r adroddiad hwn. Mae'r deunyddiau atodol hyn hefyd yn cynnwys awgrymiadau i gefnogi gweithgareddau dysgu proffesiynol.