Diogelu


Rydym wedi ymroi i helpu amddiffyn pobl ifanc ac oedolion sy’n agored i niwed. Mae gan ein harolygwyr gwyliadwrus ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw ddatgeliadau neu bryderon.

Cwestiynau cyffredin ar gyfer diogelu

O dan Ddeddf Plant 1989, dylid mynd i’r afael ag achos o fwlio fel pryder ynghylch amddiffyn plant pan fydd ‘achos rhesymol i amau bod plentyn yn dioddef, neu’n debygol o ddioddef niwed sylweddol’.
Pan fydd hyn yn digwydd, dylai staff y darparwr roi gwybod i adran gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol am eu pryderon.
Hyd yn oed lle nad ystyrir bod diogelu yn fater, gallai fod angen i ddarparwyr ddefnyddio ystod o wasanaethau allanol i gefnogi’r disgybl sy’n cael ei fwlio, neu fynd i’r afael ag unrhyw broblem sylfaenol, sydd wedi cyfrannu at fwlio sy’n cael ei achosi gan blentyn.

Ydy, o dan Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974, nid yw’n ofynnol i rywun sydd â hanes troseddol ddatgelu unrhyw euogfarnau sydd wedi darfod oni bai bod y swydd y maent yn gwneud cais amdani, neu’n ei gwneud ar hyn o bryd, wedi’i rhestru fel eithriad o dan y Ddeddf.
Byddai cyflwyno gwiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer swyddi anaddas yn cael ei ystyried yn anghyfreithlon o dan delerau Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974. O dan Ran V Deddf yr Heddlu 1997, rhaid i gais am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gyd-fynd â datganiad gan yr unigolyn cofrestredig bod angen y dystysgrif ar gyfer gofyn cwestiwn eithriedig.

Os yw unigolyn yn gofyn am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn fwriadol ar gyfer swydd nad yw wedi’i chynnwys yng Ngorchymyn Eithriadau 1975 Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (DAT), byddai’n torri Rhan V, adran 123 Deddf yr Heddlu. Oherwydd, trwy wneud hyn, mae’n cyflawni trosedd trwy wneud datganiad ffug yn fwriadol ar gyfer cael neu alluogi rhywun arall i gael tystysgrif o dan y rhan hon.

Er bod y gofyniad i ofyn am wiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd wedi cael ei ddileu ar gyfer gweithgarwch rheoledig, mae’r hawl i ofyn am wiriad yn parhau. Felly, mae awdurdod lleol yn rhydd i fynnu na chaiff unrhyw un ymgymryd â gweithgarwch rheoledig oni bai bod ef neu hi wedi cael gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, hyd yn oed gwirfoddolwyr sy’n cael eu goruchwylio.

Yr hyn sy’n orfodol, fodd bynnag, yw’r gofyniad i gynnal gwiriad gweithgarwch rheoledig manylach ar gyfer y rhai sy’n ymgymryd â gweithgarwch rheoledig, ond ni ellir gwneud gwiriad gweithgarwch rheoledig manylach ar gyfer rhywun nad yw’n ymgymryd â gweithgarwch rheoleieddiedig.

Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd: cofnodion GDG – canllawiau cymhwysedd

Mae ‘recriwtio diogel’ yn golygu meddwl am, a chynnwys, materion yn ymwneud ag amddiffyn a diogelu plant a hyrwyddo lles plant ym mhob cam o’r broses recriwtio.

Mae’n dechrau gyda’r broses o gynllunio’r ymarfer recriwtio, ac yn sicrhau bod yr hysbyseb swydd yn gwneud ymrwymiad y sefydliad i ddiogelu a hyrwyddo lles plant yn glir.

Mae’n gofyn am broses gyson a thrylwyr o graffu ar ymgeiswyr trwy:

wirio hunaniaeth ac unrhyw gymwysterau academaidd neu alwedigaethol
cael geirdaon proffesiynol a chymeriad
gwirio hanes cyflogaeth flaenorol
sicrhau bod gan yr ymgeisydd yr iechyd a’r gallu corfforol ar gyfer y swydd
cynnal cyfweliad wyneb yn wyneb
cynnal unrhyw wiriadau archwilio a gwahardd, gan gynnwys gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a gwiriad gweithgarwch rheoledig manylach

I gael mwy o wybodaeth, gweler:
Canllaw i’r gyfraith i lywodraethwyr ysgolion

Yn dilyn ymchwiliad yr Arglwydd Laming i farwolaeth Victoria Climbie, fe’i gwnaed yn ofynnol gan Ddeddf Plant 2004 i bob Awdurdod Lleol ledled Cymru a Lloegr sefydlu Bwrdd Lleol Diogelu Plant (BLlDP). Tasg pob BLlDP yw diogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc yn eu hardal.

Mae cwmpas y dasg ddiogelu ar gyfer BLlDPau yn ehangach na chylch gwaith amddiffyn plant y Pwyllgorau Ardal Amddiffyn Plant blaenorol. Nodir tri maes gweithgarwch bras:

gweithgarwch sy’n anelu at nodi ac atal camdriniaeth neu niwed i iechyd a datblygiad
gwaith rhagweithiol, sy’n targedu grwpiau penodol o blant a phobl ifanc sy’n agored i niwed
gwaith ymatebol i amddiffyn plant sy’n dioddef, neu mewn perygl o ddioddef niwed

Busnes craidd y BLlDP yw sicrhau bod atebolrwydd ar y cyd am y plant a’r bobl ifanc hynny sy’n destun prosesau amddiffyn plant o dan Adran 47 Deddf Plant 1989.

Rhaid i BLlDPau hefyd ddiogelu a hyrwyddo lles plant sy’n dod y tu allan i’r grŵp hwn y dangoswyd bod gormod o gynrychiolaeth ohonynt ledled y DU mewn achosion sy’n arwain at Adolygiad Achos Difrifol.

Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym ar 1 Mai 2014.

Mae Adran 135 yn sefydlu’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol a’i ddyletswyddau yw darparu cymorth a chyngor i Fyrddau Diogelu er mwyn sicrhau eu bod yn effeithiol. Byddant hefyd yn adrodd ar ba mor ddigonol ac effeithiol yw trefniadau i ddiogelu plant ac oedolion yng Nghymru, ac yn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ynglŷn â sut y gellid gwella’r trefniadau hynny.

Mae Adran 134 yn amlinellu gofynion am i Fyrddau Diogelu gael eu sefydlu mewn ardaloedd ledled Cymru. Nid yw’r Ddeddf yn diffinio’r ardaloedd hyn. Mae’r Ddeddf yn sefydlu Byrddau Diogelu Plant a Byrddau Diogelu Oedolion. Mewn rhai ardaloedd, gallai’r rhain ymuno’n un Bwrdd Diogelu.

Mae Adran 126 yn diffinio oedolyn sy’n wynebu risg fel unrhyw un 18 oed neu hŷn:

sy’n cael, neu sy’n wynebu risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso
y mae arno anghenion am ofal a chymorth (p’un a yw’r awdurdod lleol yn diwallu’r rhain ai peidio)
nad yw’n gallu amddiffyn ei hun rhag cael, neu’r risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso, o ganlyniad i’r anghenion hyn

Diogelu Plant: Gweithio gyda’n Gilydd o dan Ddeddf Plant 2004
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Pwysleisiodd adroddiad yr Arglwydd Laming (2003) fod gan bawb gyfrifoldeb am ddiogelu.

Mae hyn yn golygu y dylai pawb mewn lleoliad addysg (gan gynnwys cyrff fel Estyn), wybod gyda phwy i gysylltu os ydynt yn pryderu am blentyn neu oedolyn sy’n agored i niwed (diffinnir plentyn fel rhywun o dan 18 oed, ac mae oedolyn yn 18 oed neu’n hŷn).

Wrth arolygu darpariaeth addysg, dylai arolygwyr wneud yn siŵr bod pob aelod o staff wedi cael hyfforddiant ymwybyddiaeth sylfaenol, a bod polisi neu arweiniad y darparwr ar ddiogelu yn dweud wrthynt pwy yw’r swyddog arweiniol enwebedig ar gyfer diogelu a ble i adrodd am eu pryderon.