Datganiad preifatrwydd
Mae’r datganiad preifatrwydd hwn yn amlinellu ein polisi ynglŷn â’r modd yr ydym yn cadw ac yn defnyddio gwybodaeth yr ydym wedi’i chael tra rydych chi wedi bod yn defnyddio gwefan Estyn.
Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i’r wefan gyfan. Os byddwn yn casglu data personol trwy ein gwefan, byddwn yn onest am hyn. Byddwn yn ei gwneud yn glir pan fyddwn yn casglu gwybodaeth bersonol ac yn esbonio beth rydym yn bwriadu ei wneud â hi.
Eich preifatrwydd
Mae Estyn wedi ymrwymo i barchu eich preifatrwydd. Rydym wedi creu ein gwefan fel nad oes rhaid i chi roi unrhyw wybodaeth bersonol i ddefnyddio ein safle, oni bai eich bod yn dewis gwneud hynny.
Os byddwch yn dewis rhoi gwybodaeth bersonol i ni, bydd yn cael ei defnyddio yn unol â’r datganiad preifatrwydd hwn yn unig.
Rydym hefyd yn casglu ac yn storio gwybodaeth ddienw ynglŷn â’r modd yr ydych yn defnyddio ein gwefan trwy ddefnydd cwcis (ffeiliau yr ydym yn eu hanfon i’ch cyfrifiadur chi neu ddyfais cyrchu arall). Gallwn fynd at y wybodaeth hon pan fyddwch yn ymweld â’n gwefan.
Ymwadiad
Os byddwch yn cofrestru i gael diweddariadau, bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw ar weinydd diogel ac ni fydd y data’n cael ei rannu gydag unrhyw sefydliadau y tu allan i Estyn. Bydd dim ond yn cael ei ddefnyddio i roi diweddariadau e-bost i chi ar y testunau rydych wedi gofyn amdanynt.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Swyddog Gwybodaeth yn
Defnyddio cyfeiriadau e-bost ar gyfer hysbysebu
Gallwn ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost i greu cynulleidfaoedd tebyg at ddibenion hysbysebu ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol fel Facebook. Mae hyn yn ein galluogi i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd sy’n rhannu diddordebau tebyg i’n defnyddwyr presennol. Bydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei stwnsio’n ddiogel cyn ei rannu â’r platfform, gan sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei diogelu.
Rydym yn prosesu’r data hwn dan sail gyfreithlon [cydsyniad/buddiannau cyfreithlon] ac yn unol â’r deddfau diogelu data perthnasol. Mae gennych yr hawl i optio allan o’r prosesu hwn ar unrhyw adeg trwy gysylltu â ni ar .
Am fwy o wybodaeth am sut mae Facebook yn trin data, gweler eu polisi preifatrwydd.
Defnyddio cwcis ar wefan Estyn
Ffeiliau testun bach sy’n cael eu rhoi ar eich cyfrifiadur gan wefannau yr ydych yn ymweld â nhw yw cwcis. Cânt eu defnyddio’n eang er mwyn gwneud i wefannau weithio’n effeithlon, yn ogystal â rhoi gwybodaeth i berchnogion y safle.
Rydym yn defnyddio cwcis i helpu i gasglu gwybodaeth ddienw ynglŷn â’r modd y defnyddir ein gwefan. Mae’r wybodaeth hon yn ein helpu i wella ein gwefan a darparu gwasanaeth gwell ar gyfer ein hymwelwyr.
Yn ychwanegol, mae’r swyddogaeth cyfryngau cymdeithasol yr ydym yn ei defnyddio yn gosod cwcis.
Mae mwy o wybodaeth am gwcis ar gael yn http://www.allaboutcookies.org/
Derbyn cwci safle Estyn (Parti 1af)
Caiff y cwci hwn ei ddefnyddio i gofnodi os yw defnyddiwr wedi derbyn defnydd cwcis ar wefan Estyn.
Sesiwn PHP (Parti 1af)
Caiff y cwci sesiwn hwn ei osod pan fydd ymwelydd yn llwytho tudalen am y tro cyntaf. Mae angen y cwci ar y dechnoleg waelodol i bweru’r wefan a bydd yn para cyhyd ag y bydd yr ymwelydd ar wefan Estyn ac yn cael ei dynnu pan fydd yn ymwelydd yn cau’r porwr. Nid yw’n storio unrhyw wybodaeth am y defnyddiwr; caiff ei ddefnyddio i gynnal cysylltiad unigryw rhwng y porwr a’r wefan at ddibenion ceisiadau am wybodaeth a data sesiwn sy’n cael eu defnyddio gan y wefan i reoli mewngofnodion defnyddwyr. Caiff y cwci hwn ei osod heb gadarnhad gan ei fod yn hanfodol ar gyfer gweithrediad sylfaenol y wefan.
Google Analytics a Google Search Console (Parti 1af)
Caiff y cwcis hyn eu defnyddio i gasglu gwybodaeth ddienw, fel sut mae ymwelwyr yn defnyddio ein gwefan a’r tudalennau y maent wedi ymweld â nhw.
Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i fesur traffig a gweithgarwch ac i lunio adroddiadau a dadansoddi sut y gallwn wella ein gwefan i sicrhau ei bod yn gyfrwng cyfathrebu effeithiol.
AddThis (3ydd Parti)
Caiff y cwci hwn ei ddefnyddio i ddod â’r swyddogaeth ‘rhannu’ i’r wefan; caiff ei lwytho wrth lwytho’r dudalen, yn hytrach nag wrth glicio ar y botwm/ddolen.
Sut i dynnu ac analluogi cwcis
I analluogi storio cwcis a thynnu unrhyw gwcis sydd wedi’u gosod eisoes, ewch i http://www.allaboutcookies.org/
Diogelwch a pherfformiad
Rydym yn defnyddio wal dân cymwysiadau gwe trydydd parti UFW (Uncomplicated firewall) i helpu i gynnal diogelwch ein gwefan. Mae’r gwasanaeth yn gwirio bod traffig i’r wefan yn ymddwyn yn dda. Bydd y gwasanaeth yn rhwystro traffig nad yw’n defnyddio’r safle yn unol â’r disgwyl. I ddarparu’r gwasanaeth hwn, mae UFW yn prosesu cyfeiriadau IP pobl sy’n ymweld â’r safle.