Datblygu ein proses arolygu newydd

Dau blentyn ifanc mewn siwmperi coch yn chwarae gyda chlai modelu wrth fwrdd mewn ystafell ddosbarth

Arolygu o 2024 – 2030

Rydym yn cynnal arolygiadau gyda’r nod o wella ansawdd addysg a hyfforddiant i bob dysgwr yng Nghymru.

Rydym wedi diwygio sut rydym yn arolygu addysg a hyfforddiant o 2024 a thu hwnt. Ein huchelgais yw gwella ansawdd addysg a hyfforddiant i blant, pobl ifanc a dysgwyr gydol oes.

Hyfforddwr yn tywys myfyriwr i weithredu peiriannau diwydiannol, y ddau yn canolbwyntio ar banel rheoli mewn gweithdy.

Ynglŷn â’r newidiadau

Rydym wedi ymgynghori ag unigolion a sefydliadau yn y sectorau gwasanaethau ieuenctid, ysgolion ac UCDau, ôl-16 (addysg bellach, dysgu oedolion yn y gymuned a cholegau arbenigol annibynnol), Cymraeg i oedolion a gwasanaethau addysg llywodraeth leol.

Mae’r canfyddiadau i’w gweld tuag at waelod y dudalen hon.

Ein hymagwedd

Cynnwys

  • Rydym wedi ymgysylltu’n eang â’n holl randdeiliaid a phartneriaid i wneud yn siŵr y cafodd eu safbwyntiau eu cynnwys yn y modd y byddwn yn mynd i’r afael ag arolygu o 2024 ymlaen.
  • Roeddem am gynnwys syniadau pawb yn ein trefniadau, sy’n edrych yn wahanol mewn sectorau gwahanol.


Gwrando

  • Rydym yn gwerthfawrogi safbwyntiau pawb sy’n gysylltiedig ag addysg ac yn gwrando’n ofalus arnynt – o uwch arweinwyr a phenaethiaid i athrawon, darlithwyr, cynorthwywyr dosbarth, rhieni, dysgwyr a’r gymuned ehangach.


Arbrofi ac adolygu 

  • Buom yn arbrofi ag ymagweddau gwahanol tuag at arolygu gydag ychydig o ddarparwyr ar draws pob sector. Yna, llywiodd adborth o’r arbrofion hyn y cam datblygu nesaf.
  • Adolygom beth a sut rydym yn arolygu i wneud yn siŵr fod ein gwaith yn mynd bob yn gam â newidiadau yng Nghymru ac yn bodloni anghenion y genhedlaeth nesaf o ddysgwyr. 

Beth lywiodd yr ymagwedd newydd?

  • Yng Nghymru, mae gennym genhadaeth genedlaethol i wella addysg a hyfforddiant i bob dysgwr, lle mae gan bob partner sy’n gysylltiedig â gwella addysg rôl allweddol i’w chwarae.
  • Dysgwyr yw ein blaenoriaeth o hyd. Mae eu lles pennaf wrth wraidd popeth a wnawn.
  • Mae’r trefniadau newydd yn fwy cynnil ac yn canolbwyntio’n fwy ar y meysydd pwysicaf sy’n ysgogi gwelliant.
  • Mae ein trefniadau’n hylaw i bob darparwr ac yn ategu eu prosesau gwerthuso a gwella eu hunain. 
  • Rydym yn cynnwys amrywiaeth ehangach o weithgareddau arolygu i gefnogi gwelliant yn well ar draws darparwyr a sectorau unigol. Mae hyn yn cynnwys sut rydym yn teilwra gweithgarwch mewn arolygiadau darparwyr unigol, arolygiadau thematig ac ystod o ymweliadau eraill.
  • Rydym yn cysylltu ag ysgolion a darparwyr eraill yn fwy rheolaidd, gan gynnig adborth mwy cyfredol i rieni a gofalwyr.
  • Rhan o’n nod yw dod ag arolygiadau allanol a phrosesau gwerthuso mewnol darparwyr yn nes at ei gilydd. Mae cydweddiad gwell rhwng y prosesau hyn yn cefnogi gwelliant yn well.
  • Rydym yn defnyddio’n hadnoddau lle mae eu hangen fwyaf, er enghraifft gyda lleoliadau y mae angen cymorth a monitro arnynt i wella.

Ymatebion i’r ymgynghoriadau

Diolch i chi am eich ymgysylltiad i ddatblygu ein trefniadau arolygu newydd.

Rydym yn falch bod cynifer ohonoch wedi rhoi o’ch amser i ymateb i’n hymgynghoriadau a mynegi cefnogaeth i’r ymagweddau, yn ogystal â rhannu llawer o syniadau gwych i fwydo’r cam datblygu nesaf.

Isod, cewch ganlyniadau’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

Sectorau addysg a hyfforddiant ôl-16

Rydym yn ddiolchgar i’r rhai a gyfrannodd at ein hymgynghoriad ar ein cynigion yn y sectorau addysg bellach, dysgu oedolion yn y gymuned, a cholegau arbenigol annibynnol.

Mae’n bleser gennym rannu canfyddiadau ein hymgynghoriad a lywiodd y gwaith o ddatblygu ein trefniadau.

Dadansoddiad o ymatebion i ymgynghoriad Estyn ar drefniadau arolygu ar gyfer sectorau addysg a hyfforddiant ôl-16 o fis Medi 2024

Cymraeg i Oedolion – Canlyniadau’r Ymgynghoriad

Cynigiom gyfres o weithgareddau arolygu gyda’r nod o ysgogi  gwelliant yn y sector Cymraeg i Oedolion. Rydym yn ddiolchgar i’r rhai a gyfrannodd at ein hymgynghoriad, y mae ei ganfyddiadau i’w gweld yma.

Canlyniadau’r Ymgynghoriad – Cymraeg i Oedolion (CiO) (23085)

Canlyniadau’r Ymgynghoriad – Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol (GALlL)

Rydym wedi esblygu ein model arolygu gwasanaethau addysg llywodraeth leol (GALlL). Rydym yn ddiolchgar i’r rhai a gyfrannodd at ein hymgynghoriad.

Mae’n bleser gennym rannu canfyddiadau ein hymgynghoriad.

Canlyniadau’r Ymgynghoriad – Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol (GALlL) (23090)

Ymatebion ysgolion ac UCDau i’r ymgynghoriad

Aethon ni ati’n raddol i ddatblygu arolygu mewn ysgolion ac UCDau, gan gyflwyno a threialu newidiadau â darparwyr trwy gyfres o arolygiadau peilot. Mae’r ymatebion i’n hymgynghoriad i’w gweld yma.

Dadansoddiad o ymatebion i’r ymgynghoriad ar drefniadau arolygu Estyn ar gyfer ysgolion ac UCDau o 2024 (22613)

Arolygiadau gwaith ieuenctid – ymateb i’r ymgynghoriad

Mae ein dull arolygu wedi’i deilwra’n arbennig ar gyfer y sector gwaith ieuenctid. Rydym wedi datblygu model y gellir ei gymhwyso i waith ieuenctid sy’n cael ei ddarparu gan awdurdodau lleol, ond hefyd ar wahân i sefydliadau’r sector gwirfoddol sy’n darparu gwaith ieuenctid, lle y bo’n briodol.

Dadansoddiad o ymatebion i’r ymgynghoriad ar drefniadau arolygu Estyn ar gyfer gwasanaethau ieuenctid o 2024 (22317)