Darganfyddwch fwy am sector yr ysgolion annibynnol yng Nghymru. - Estyn

Darganfyddwch fwy am sector yr ysgolion annibynnol yng Nghymru.


Mae dros 80 o ysgolion annibynnol yng Nghymru. Mae tua hanner yr ysgolion hyn wedi cael eu trefnu a’u dylunio’n benodol i gynorthwyo disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Mae’r rhan fwyaf o ysgolion arbenigol ar gyfer ADY yn canolbwyntio’n graff ar angen dysgu penodol, er enghraifft cyflwr y sbectrwm awtistig (CSA) neu iechyd cymdeithasol, emosiynol ac iechyd meddwl. Yn ychwanegol, mae llawer o’r ysgolion hyn wedi eu cysylltu â chartrefi preswyl i blant. Mae’r hanner arall o ysgolion annibynnol yng Nghymru yn ysgolion cynradd, uwchradd a phob oed. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn ysgolion cydaddysgol, er mae  ychydig iawn ohonynt yn derbyn merched yn unig. Yn ychwanegol, mae ychydig o’r ysgolion hyn yn ysgolion ffydd ac mae gan ychydig iawn ohonynt ddarpariaeth breswyl.   

Rhaid i’r ysgolion hyn gydymffurfio â Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024 i gynnal eu cofrestriad.

Archwiliwch gyngor ac offer a grëwyd ar gyfer y rhai sy’n gweithio yn y sector ysgolion annibynnol.

Mae mwy o wybodaeth am ein gwaith ar gael yma