Cynllun Strategol y Gymraeg 2021-2024
Cenhadaeth Estyn yw parhau i gyflawni rhagoriaeth ar gyfer pob dysgwr yng Nghymru trwy ddarparu gwasanaeth arolygu a chyngor annibynnol, o ansawdd uchel. Ein gweledigaeth yw cael ein cydnabod trwy arbenigedd ein staff fel llais awdurdodol ar addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Rydym yn gweld yr iaith Gymraeg yn rhan annatod o’r weledigaeth hon.
- Rydym yn falch o fod yn sefydliad dwyieithog.
- Rydym yn coleddu’r Gymraeg fel dewis iaith i lawer ac fel rhan o’n diwylliant bob dydd.
- Rydym yn croesawu adborth ar ein hamcanion a byddwn yn falch o drafod awgrymiadau am y modd y gallem wella ein hamcanion a datblygu camau gweithredu cefnogol.