Cynllun Cydraddoldeb Strategol Estyn 2024-2028
Estyn yw Arolygiaeth Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Rydym yn arolygu addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw gwella ansawdd addysg a hyfforddiant a deilliannau i’r holl ddysgwyr yng Nghymru. Ein cenhadaeth yw cynorthwyo darparwyr addysg a hyfforddiant i ddatblygu diwylliant o hunanwella a dysgu trwy ein cyngor, ein harolygiadau a chynyddu capasiti.
Rydym yn hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth trwy gyflawni ein hamcanion strategol, trwy dynnu sylw darparwyr at eu dyletswydd i hyrwyddo cydraddoldeb. Mae ein hamcanion cydraddoldeb yn ymdrin â sut rydym yn ystyried cydraddoldeb pan fyddwn yn arolygu a sut byddwn yn sicrhau bod ein staff ni a’r rhai rydym yn llunio contract â nhw’n cael cyfle cyfartal a’u trin yn gydradd.
Trwy ein gweithredoedd, credwn y gallwn wneud gwahaniaeth a chreu Cymru fwy cyfartal, yn ogystal â bod yn cyflogwr croesawgar o ddewis i’n staff. Rydym ar daith, ac mae’r cynllun cydraddoldeb strategol hwn yn uchelgeisiol wrth amlinellu ein camau nesaf.