Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016-2020
Hwn yw’r ail Gynllun Cydraddoldeb Strategol a luniwyd gan Estyn, ac mae’n cwmpasu’r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2016 a 31 Mawrth 2020. Mae’r cynllun hwn yn cynnwys yr holl nodweddion gwarchodedig sy’n cael eu cwmpasu gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010;
- oedran
- anabledd
- ailbennu rhywedd
- priodas a phartneriaeth sifil
- beichiogrwydd a mamolaeth
- hil (yn cynnwys tarddiad ethnig neu genedlaethol, lliw neu genedligrwydd)
- crefydd neu gred (neu ddiffyg cred)
- rhyw a chyfeiriadedd rhywiol
Mae Estyn yn gweithredu ar y sail fod gan bawb hawliau cyfartal ac y dylid eu trin felly, ni waeth am unrhyw nodweddion penodol a allai fod ganddynt.
Rydym yn cydnabod y gall gwahaniaethu ddigwydd o ganlyniad i gyfuniad o ffactorau, a dylai’r cynllun hwn helpu i sicrhau ein bod yn parhau â’r dull a ddefnyddiwyd gennym o dan y Cynllun Cydraddoldeb Strategol blaenorol gan alluogi i ni barhau i gefnogi amrywiaeth a chydraddoldeb ar draws Estyn.