Cyfnodau rhybudd ar gyfer arolwg
Byddwn yn arolygu pob darparwr addysg a hyfforddiant yng Nghymru o leiaf unwaith yn ystod y cyfnod chwe blynedd a ddechreuodd ar 1 Medi 2024.
Mae’r cyfnod rhybudd ar gyfer arolygiad yn wahanol ar gyfer pob sector.
Nid yw dyddiad yr arolygiad nesaf yn gysylltiedig â dyddiad yr arolygiad blaenorol.
| Sector | Cyfnod rhybudd |
| Lleoliadau nas cynhelir | 10 diwrnod |
| Ysgolion a gynhelir ac UCDau | 10 diwrnod |
| Ysgolion a cholegau annibynnol | 10 diwrnod |
| Colegau arbennig annibynnol | 10 diwrnod |
| Addysg Bellach | 15 diwrnod |
| Dysgu yn y gwaith | 15 diwrnod |
| Dysgu oedolion yn y gymuned | 15 diwrnod |
| Cymraeg i oedolion | 15 diwrnod |
| Trochi Cymraeg | 15 diwrnod |
| Addysg Gychwynnol Athrawon | 8 wythnos |
| Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol | 8 wythnos |
| Gwaith Ieuenctid | 8 wythnos |