Cyfnodau Allweddol yr Arolwg


Hysbysu

Rydym yn arolygu pob darparwr addysg a hyfforddiant yng Nghymru o leiaf unwaith yn ystod y cyfnod chwe blynedd, er mae rhai eithriadau. Mae’r cylch presennol rhwng 1 Medi 2024 a Gorffennaf 2030. Mae cyfnod rhybudd yr arolygiad yn wahanol ar gyfer pob sector. Nid yw dyddiad yr arolygiad nesaf yn gysylltiedig â dyddiad yr arolygiad blaenorol. Mae’r cyfnodau rhybudd ar gyfer pob sector ar gael yma.

Paratoi

Ar ôl cael gwybod am arolygiad, gofynnir i ddarparwyr lanlwytho dogfennau penodol i’n porth Ystafell Arolygu Rithwir. Yn ystod y cyfnod hwn, mae’r tîm arolygu yn adolygu dogfennau a data allweddol am y darparwr.

Arolygiad ar y Safle

Bydd y tîm arolygu, dan arweiniad Arolygydd Cofnodol, yn treulio peth amser ar y safle gyda’r darparwr, a bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar y sector. Yn ystod yr ymweliad, bydd y tîm yn casglu amrywiaeth o dystiolaeth i ddod i werthusiad teg a chytbwys. Bydd y tîm yn:

  • Ystyried yr adborth o holiaduron dysgwyr/rhieni/staff/llywodraethwyr
  • Arsylwi gwersi, dysgu a gweithgareddau hyfforddi
  • Cyfarfod ag arweinwyr, athrawon/hyfforddwyr, staff cymorth, a llywodraethwyr
  • Siarad â dysgwyr a gwrando ar eu barn
  • Adolygu gwaith dysgwyr a gwerthuso ansawdd yr addysgu a’r dysgu
  • Gwerthuso effeithiolrwydd arweinyddiaeth a rheolaeth

Adborth ac Adrodd

 Ar ddiwedd yr arolygiad, bydd yr Arolygydd Cofnodol yn rhoi adborth llafar cychwynnol. Mae’r sesiwn hon yn cynnwys:

  • Canfyddiadau allweddol yr arolygiad
  • Meysydd o gryfder ac agweddau sydd angen eu gwella

Cyhoeddir adroddiad ysgrifenedig manwl o fewn 45 diwrnod o ddechrau’r arolygiad. Yn y rhan fwyaf o sectorau, rydym wedi dileu graddau crynodol o’n hadroddiadau felly nid ydym bellach yn rhoi barnau cyffredinol fel ‘Rhagorol’, ‘Da’, ‘Digonol’ neu ‘Anfoddhaol’ ond mae ein hadroddiadau’n cynnwys crynodeb manwl o ganfyddiadau allweddol. Bydd pob un o’n hadroddiadau’n cael eu cyhoeddi ar wefan Estyn a byddant ar gael i’r cyhoedd.

Dilyniant

Ar ddiwedd arolygiad, bydd y tîm yn ystyried a oes angen gweithgarwch dilynol. Mewn ysgolion a gynhelir ac UCDau, mae hyn yn ofynnol dan ddeddfwriaeth. Mewn sectorau eraill, gall trefniadau dilynol gynnwys categorïau dilyniant statudol a threfniadau anstatudol ar gyfer monitro cynnydd.


Gallwch ddod o hyd i wybodaeth fanylach am sut a beth rydym yn arolygu ar gyfer pob sector: