Cwestiynau Cyffredin - ysgolion ac UCDau - Estyn

Cwestiynau Cyffredin – ysgolion ac UCDau


Mae gennym wybodaeth fanwl, gan gynnwys dolenni i esboniadau ar gyfer arolygiadau yn eich sector chi ar ein tudalen Esbonio Arolygu.

Byddwch yn cael rhestr lawn o’r dogfennau gofynnol pan fydd yn cael eich hysbysu am yr arolygiad trwy borth ein Hystafell Arolygu Rithwir.

Bydd yn ofynnol i ddarparwyr sicrhau bod y dogfennau canlynol ar gael i’r tîm arolygu tra y bydd ar y safle: 

  • Ffurflen Cyswllt Cychwynnol (FfCC)  
  • Data CYBLD/FfCC ar gyfer yr ysgol
  • Cynllun Datlygu’r Ysgol (CDY) neu Gynllun Gwella’r Ysgol (CGY)  
  • Amserlenni: Amserlenni dosbarthiadau ar gyfer cyfnod yr ymweliad 
  • Rhestr lawn o enwau disgyblion i wneud trefniadau i grŵp o ddysgwyr gyfarfod ag arolygwyr
  • Gwybodaeth am staff (enwau, cyfrifoldebau a chymwysterau)
  • Map o’r ysgol
  • Polisi Diogelu/Amddiffyn Plant
  • Adroddiad Hunanwerthuso (AH) Diogelu wedi’i lenwi (gellir defnyddio templed yr awdurdod lleol, y templed cenedlaethol neu dempled Estyn)
  • Rhestr o wiriadau DBS staff (CRB gynt) sy’n cynnwys rhifau’r gwiriadau, y dyddiad cyhoeddi

Nid ydym yn rhoi graddau crynodol ar ôl cwblhau arolygiad, mwyach. Yn hytrach, bydd ein hadroddiadau’n rhoi gwerthusiad manwl o’r cryfderau a’r meysydd i’w gwella. Yn ystod arolygiad, byddwn yn cynnig mwy o gyfleoedd ar gyfer deialog broffesiynol sy’n cefnogi gwella. 

Bydd pob agwedd ar ddarpariaeth yn cael ei hystyried, ond bydd yr adroddiad yn cynnwys crynodeb o’r prif gryfderau a meysydd i’w gwella.

Trwy gydol yr arolygiad, bydd arolygwyr yn rhoi adborth manwl. Bydd yr adroddiad terfynol yn rhoi cipolwg ar beth sy’n gweithio’n dda ac unrhyw feysydd y mae angen eu gwella. Rydym hefyd yn cyhoeddi fersiwn fwy cryno o’r adroddiad i rieni a gofalwyr.

Mae’r fframwaith cyfredol yn cynnwys: Addysgu a dysgu; Lles, gofal, cymorth ac arweiniad; Arwain a gwella. Mae arolygwyr yn edrych ar beth sy’n gweithio’n dda a pha feysydd y mae angen eu gwella. Mae arolygwyr eisiau gweld sut brofiad y mae dysgwyr yn ei gael o ddydd i ddydd.

Hoffem weld wythnos ysgol arferol – nid ydym yn disgwyl i bopeth fynd yn berffaith yn ystod arolygiad ac nid ydym am i ddarparwyr orbaratoi na gwneud pethau’n wahanol i’r arfer yn ystod wythnos arolygiad – bydd disgyblion yn aml yn dweud wrthym os bydd hynny’n digwydd!

Bydd yr arolygydd arweiniol yn trefnu cyfarfod rhithwir â’r pennaeth yn ystod y cyfnod sy’n arwain at yr arolygiad. Mae hwn yn gyfle i gadarnhau’r trefniadau, codi unrhyw bryderon a thawelu unrhyw nerfau.

Nid yw arolygiad Estyn yn ymwneud â gwaith papur – bydd arolygwyr yn edrych ar effaith dysgu. Rydym yn canolbwyntio ar drafodaeth agored a gonest a deialog broffesiynol. Mae hyn yn golygu gweld eich lleoliad fel y mae – nid oes angen cynlluniau gwersi unigol arnom.  

Mae arolygwyr yn ystyried cyd-destunau a heriau gwahanol y mae pob darparwr yn eu hwynebu ac yn teilwra eu hymagwedd. Maent yn triongli tystiolaeth i ddod i gasgliadau cadarn, gan ystyried ystod o dystiolaeth wahanol. Yn y pen draw, dysgwyr sydd wrth wraidd arolygu – ac mae arolygwyr yn canolbwyntio ar ansawdd addysgu a dysgu i weld beth sy’n gweithio’n dda, yn ogystal â meysydd i’w gwella.

Mae ein hymagwedd yn un hyblyg. Rydym yn addasu i bob darparwr, gan ddefnyddio methodolegau wedi’u teilwra sy’n ystyried y darlun cyflawn.

– Byddwch yn agored ac yn onest ac yn barod i gymryd rhan mewn deialog broffesiynol.
– Byddwch yn glir ynghylch eich blaenoriaethau i wella deilliannau i ddysgwyr a sut rydych wedi penderfynu ar y rhain.
– Meddyliwch am sut rydych wedi gwneud gwahaniaeth i’ch dysgwyr eisoes a sut gallwch ddangos tystiolaeth o hyn yng ngwaith disgyblion.

Os nad oes gan eich ysgol Arolygydd Cymheiriaid – efallai yr hoffech ystyried gwneud cais i ymgymryd â’r hyfforddiant. Mae’n ddysgu proffesiynol gwych ac yn helpu i gael gwared ar ddirgelwch y broses arolygu.

Ein nod yw dod ag arolygu a threfniadau gwerthuso ysgolion eu hunain yn llawer nes at ei gilydd.
Mae ein hymagwedd sy’n esblygu yn gam cadarnhaol ymlaen, gan symud oddi wrth raddau un-gair i adborth manylach a sgyrsiau dwy ffordd sy’n hybu deialog broffesiynol rhwng arolygwyr a darparwyr sy’n mynd at wraidd unrhyw faterion y mae angen eu datrys.

Ein nod yw lleihau rhywfaint o’r dyblygu yn y fframwaith cyfredol a chanolbwyntio ar yr hyn sydd o’r pwys mwyaf, a chynnig camau y gall darparwyr eu cymryd i wella eu canlyniadau – gan sicrhau’r deilliant gorau i ddysgwyr yn y pen draw.

Mae ein hadroddiadau manwl yn ein galluogi i rannu profiadau o bob rhan o Gymru i gefnogi gwelliant ar draws y wlad.