Cwestiynau Cyffredin i Enwebeion yn ystod Arolygiad Estyn
Mae’r enwebai’n gweithredu fel cynrychiolydd yr ysgol ar y tîm arolygu trwy gydol wythnos yr arolygiad. Mae hyn yn cynnwys:
- Darparu gwybodaeth a chyd-destun ychwanegol am yr ysgol.
- Cynnig eglurhad am feysydd a drafodir gan y tîm arolygu.
- Sicrhau bod llais yr ysgol yn cael ei glywed yn ystod y broses arolygu.
Y pennaeth sy’n ymgymryd â’r rôl, fel arfer Fodd bynnag, gellir pennu’r rôl i uwch arweinydd arall os yw’r ysgol yn cytuno.
Dylai’r enwebai:
- Fynychu cyfarfodydd tîm gyda’r tîm arolygu.
- Darparu gwybodaeth gywir a gonest am yr ysgol.
- Gweithredu fel cyswllt rhwng y tîm arolygu a’r ysgol.
- Ymateb yn brydlon i geisiadau am ddogfennau neu eglurhad ychwanegol.
Er bod yr enwebai’n darparu cyd-destun ac eglurhad gwerthfawr, mae barnau’r tîm arolygu wedi’u seilio ar dystiolaeth a gasglwyd trwy gydol y broses arolygu. Mae mewnbwn yr enwebai yn helpu sicrhau bod gan y tîm ddealltwriaeth lawn o gyd-destun yr ysgol.
I baratoi’n effeithiol, dylai’r enwebai:
- Ymgyfarwyddo â fframwaith arolygu ac arweiniad Estyn.
- Sicrhau bod yr holl ddogfennau a data perthnasol ar gael yn hawdd.
- Bod yn barod i drafod cryfderau, meysydd i’w datblygu a strategaethau gwella’r ysgol.
- Rhoi brîff i’r staff a’r llywodraethwyr ar eu rôl a’r broses arolygu.
- Cyfleu unrhyw faterion perthnasol i’r arolygydd arweiniol.
I fod yn effeithiol yn ei rôl, dylai’r enwebai:
- Wrando’n ofalus ar yr hyn sy’n cael ei ddweud mewn cyfarfodydd tîm
- Gwneud nodiadau i lywio gwaith gwella yn y dyfodol (caiff llawer o faterion eu trafod mewn cyfarfodydd tîm, ond ni fydd popeth yn ymddangos yn yr adroddiad terfynol, ond gallai’r adborth a’r manylion fod yn fuddiol i’r ysgol)
- Gofyn cwestiynau os oes unrhyw beth yn aneglur
- Peidio â herio popeth sy’n cael ei ddweud, ond dweud os yw’n meddwl bod rhywbeth yn anghywir, gan esbonio pam
- Gwneud nodyn o unrhyw wybodaeth y gofynnir amdani neu gwestiynau nad yw’n gallu eu hateb, ac ar ôl ymgynghori â chydweithwyr, darparu’r wybodaeth / atebion cyn gynted ag y bo modd
- Cyfeirio at yr arweiniad arolygu trwy gydol y broses
- Cyfleu unrhyw faterion i’r tîm, neu i’r arolygydd arweiniol yn breifat, cyn gynted ag y bo modd
- Cadw popeth sy’n cael ei drafod mewn cyfarfodydd tîm yn gyfrinachol
- Ar ddiwedd pob diwrnod, bydd cyfle i’r enwebai / pennaeth gyfarfod yn gyflym â’r arolygydd arweiniol. Dylai unrhyw faterion ynghylch ymddygiad y tîm neu gynnal yr arolygiad gael eu cyfleu yn y cyfarfod hwn.
Ydy, efallai y bydd yr enwebai’n cael gwahoddiad i arsylwi gwersi gyda’r tîm arolygu. Mae hyn yn galluogi’r enwebai i ddeall arsylwadau’r tîm a darparu cyd-destun ychwanegol, os oes angen.
Bydd yr arolygydd arweiniol yn amlinellu rôl yr enwebai ac yn rhoi arweiniad ar ddechrau’r arolygiad. Bydd pob aelod o’r tîm arolygu ar gael i gefnogi’r enwebai a byddant yn gallu cynorthwyo â chwestiynau. Os yw’r enwebai’n pryderu am rywbeth, dylai godi hyn mor gyflym ag y bo modd gyda’r arolygydd arweiniol.
Gall rôl yr enwebai fod yn llafurus, ac mae’r enwebai fel arfer yn cymryd rhan mewn sawl cyfarfod yn ogystal â’r cyfarfodydd tîm. Felly, gallai fod yn anodd i’r enwebai gyflawni ei holl weithgareddau arferol. Fodd bynnag, nid oes unrhyw ddisgwyliad i’r enwebai aros yn ystafell sylfaen y tîm pan nad yw’r tîm yno.
Caiff yr enwebai gyfle i drafod unrhyw bryderon yn ystod y broses arolygu. Os bydd anghytundebau’n codi, dylid codi’r rhain yn brydlon gyda’r arolygydd arweiniol er mwyn gallu mynd i’r afael â nhw cyn diwedd yr arolygiad.
Os yw’n angenrheidiol, gall yr enwebai ddirprwyo rhai tasgau i aelodau staff eraill, fel casglu gwybodaeth. Fodd bynnag, ni fydd yn gallu dirprwyo presenoldeb mewn cyfarfodydd tîm.
Dylai’r enwebai roi gwybod i’r arolygydd arweiniol am unrhyw gŵynion. Bydd yr arolygydd arweiniol yn anelu at fynd i’r afael ag unrhyw faterion cyn gynted â phosibl.
Bydd yr enwebai:
- Yn cymryd rhan yng ngwiriad cywirdeb ffeithiol yr ysgol o’r adroddiad arolygu drafft.
- Yn cynorthwyo’r ysgol wrth fynd i’r afael ag unrhyw argymhellion o’r adroddiad terfynol.