Cwestiynau Cyffredin Digwyddiadau - Estyn

Cwestiynau Cyffredin Digwyddiadau


Beth yw Arolygydd Cymheiriaid / Arolygydd Ychwanegol / Arolygydd Lleyg?

Gwiriwch ein tudalen Swyddogaethau’r Arolygwyr i gael manylion.

Sut ydw i’n ymgeisio i fod yn Arolygydd Cymheiriaid?

Rydym yn cynnal ymgyrchoedd recriwtio ar gyfer arolygwyr cymheiriaid o dro i dro; mae pa mor aml y cânt eu cynnal yn dibynnu ar y sector. Pan fydd ymgyrch recriwtio yn agor, byddwn yn postio gwybodaeth ar ein tudalen Swyddi gwag presennol a’n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Gallwch chi hefyd gofrestru i gael gwybod pryd fydd y rownd recriwtio nesaf sy’n berthnasol i’ch profiad chi ar agor.

Cynradd ac Uwchradd – rhaid i chi:

·    gael eich talu ar y golofn gyflog uwch arweinyddiaeth;

·    bod mewn swydd barhaol;

·    cael o leiaf ddwy flynedd o brofiad arwain, a

·    chael o leiaf bum mlynedd o brofiad addysgu.

Annibynnol, Arbennig Annibynnol, Arbennig, UCD – rhaid i chi:

·    feddu ar o leiaf ddwy flynedd o brofiad mewn rôl uwch arweinyddiaeth, (Pennaeth, Dirprwy Bennaeth, Pennaeth Cynorthwyol, Athro sydd â Gofal am UCD)

·    cael o leiaf 5 mlynedd o brofiad addysgu

Ôl-16 – rhaid i chi:

·    fod yn gweithio mewn darparwr ôl-16 ar hyn o bryd (dysgu oedolion yn y gymuned, AB, dysgu yn y sector cyfiawnder a dysgu yn y gwaith)

·    cael o leiaf bum mlynedd o brofiad mewn addysgu / asesu neu rôl wedi’i chysylltu’n agos; mae profiad mewn rôl arwain yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol

Addysg Gychwynnol Athrawon – rhaid i chi:

·    fod yn arweinydd AGA mewn darparwr prifysgol, yn gweithio ar lefel arweinydd rhaglen neu’n uwch; neu

·    fod yn uwch arweinydd / uwch fentor mewn ysgol arweiniol sy’n darparu AGA mewn partneriaeth â phrifysgol

·    cael eich cyflogi mewn swydd barhaol

·    cael o leiaf ddwy flynedd o brofiad arwain

·    cael o leiaf bum mlynedd o brofiad addysgu

Byddwn yn gofyn i’ch cyflogwr gefnogi’ch cais, hefyd. Mae’r hyfforddiant yn cynnwys rhestr ddarllen cyn yr hyfforddiant, asesiadau wyneb yn wyneb ac arolygiad prawf.

Sut ydw i’n ymgeisio i fod yn Arolygydd Ychwanegol?

Rydym yn cynnal ymgyrchoedd recriwtio ar gyfer Arolygwyr Ychwanegol o dro i dro ar gyfer rhai sectorau. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae angen i chi fod yn arolygydd cymheiriaid eisoes cyn i chi allu bod yn arolygydd ychwanegol. Pan fydd ymgyrch recriwtio arolygwyr ychwanegol yn agor, byddwn yn postio gwybodaeth ar ein tudalen Swyddi gwag presennol a’n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.

Gallwch chi hefyd gofrestru i gael diweddariadau ar ein gwefan – gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis yr opsiwn ‘Swyddi a Hyfforddiant’.

Sut ydw i’n ymgeisio i fod yn Arolygydd Lleyg?

Mae Arolygwyr Lleyg yn aelodau o’r cyhoedd nad ydynt erioed wedi cael eu cyflogi ym maes rheoli na darparu addysg o fewn ysgol.

Rydym yn cynnal ymgyrchoedd recriwtio ar gyfer arolygwyr cymheiriaid o dro i dro; yn dibynnu ar y sector. Pan fydd ymgyrch recriwtio yn agor, byddwn yn postio gwybodaeth ar ein tudalen Swyddi gwag presennol a’n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Gallwch chi hefyd gofrestru i gael diweddariadau ar ein gwefan – gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis yr opsiwn ‘Swyddi a Hyfforddiant’.   

.

Ymgeisiais i am hyfforddiant i Arolygwyr Cymheiriaid, ond doeddwn i ddim yn llwyddiannus. A alla’ i ymgeisio eto?

Gallwch – rydym ni’n hapus i ystyried cais arall os ydych yn bodloni’r meini prawf, yn eich barn chi.

Rydw i’n gweithio mewn awdurdod lleol; a alla’ i fod yn Arolygydd Cymheiriaid ar gyfer ysgolion?

Na – dylai Arolygwyr Cymheiriaid fod yn gweithio mewn darparwr addysg neu hyfforddiant o fewn y sector y byddant yn ei arolygu.

Rydw i’n ymddeol cyn bo hir; a alla’ i hyfforddi fel Arolygydd Cymheiriaid o hyd?

Na allwch – mae angen i Arolygwyr Cymheiriaid allu ymrwymo i arolygu ar ôl iddynt hyfforddi, a rhaid iddynt fod yn gweithio mewn darparwr addysg neu hyfforddiant ar hyn o bryd yn y sector y maent yn ei arolygu.

Mae dau Arolygydd Cymheiriaid yn fy ysgol i yn barod; a alla’ i ymgeisio hefyd?

Gallwch, fodd bynnag, ein nod yw cael cynifer o ysgolion ag arolygydd cymheiriaid ag y bo modd, felly rydym yn ystyried hyn wrth ddidoli ceisiadau.

Pam nad ydw i wedi derbyn gwahoddiad i hyfforddiant diweddaru?

Yn gyntaf, gwnewch yn siŵr fod eich Proffil Arolygydd yn gyfredol a bod eich cyfeiriadau e-bost yn gywir. Pan fyddwn yn anfon gwahoddiadau i hyfforddiant, rydym yn defnyddio eich prif gyfeiriad e-bost i’ch adnabod chi; hwn yw’r cyfeiriad e-bost cyntaf sydd wedi’i arddangos ar eich Proffil Arolygydd. Ni fyddwch yn gallu cofrestru ar gyfer hyfforddiant gyda chyfeiriad e-bost gwahanol. Os oes angen help arnoch yn diweddaru’ch Proffil Arolygydd, cysylltwch â Thîm Cynllunio a Defnyddio Estyn: 

Os yw eich Proffil Arolygydd yn gyfredol, gwiriwch eich ffolder sbam neu ffolder sothach – weithiau, mae ein negeseuon e-bost yn cael eu dal mewn hidlyddion diogelwch.

Os cyhoeddwyd eich tystysgrif gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) fwy na thair blynedd yn ôl, yn anffodus ni fyddwch yn gymwys i fynychu ein hyfforddiant diweddaru. Cysylltwch â  pan fyddwch yn derbyn eich tystysgrif newydd.

Oes rhaid i mi fynychu hyfforddiant diweddaru blynyddol?

Oes Rydym yn cynghori pob arolygydd i fynychu hyfforddiant diweddaru bob blwyddyn; rydym ni’n cyflwyno negeseuon pwysig am arolygu, a byddwch yn cael cyfle i gyfarfod â chydweithwyr. Yr unig bobl nad oes angen iddynt fynychu yw Arolygwyr Cofrestredig Meithrin ac Arolygwyr Cofrestredig os ydyn nhw eisoes wedi mynychu eu sesiwn ddiweddaru dymhorol ddiweddaraf.

Rydw i’n cymryd rhan mewn arolygiad yr wythnos honno, felly ddim yn gallu mynd i’r hyfforddiant diweddaru.

Rydym yn darparu hyfforddiant diweddaru ar draws mwy nag un dyddiad a lleoliad, felly byddem yn eich cynghori i ddewis y dyddiad mwyaf cyfleus i chi. Rydym yn gofyn i arolygwyr fynychu hyfforddiant diweddaru o leiaf unwaith bob dwy flynedd er mwyn bod yn gymwys i fynd ar arolygiad, er ein bod yn argymell i chi fynychu bob blwyddyn.

Rydw i wedi cael gwahoddiad i’r hyfforddiant ar gyfer mwy nag un sector – oes rhaid i mi fynd i bob un ohonynt?

Nac oes – gallwch chi archebu lle ar yr hyfforddiant ar gyfer y sector rydych chi’n ei arolygu amlaf. Fodd bynnag, os ydych yn arolygu unedau canolfan adnoddau arbenigol awdurdodau lleol, bydd angen i chi hefyd fynychu hyfforddiant diweddaru penodol ar gyfer y ddarpariaeth honno.

Pryd alla’i hawlio treuliau am fynychu digwyddiad?

Hyfforddiant diweddaru: Nid ydym yn ad-dalu treuliau ar gyfer y math yma o ddigwyddiad.

Hyfforddiant cychwynnol: Byddwn yn ad-dalu eich costau teithio i fynychu’r hyfforddiant. Os ydych yn byw mwy na 40 milltir i ffwrdd o’r lleoliad hyfforddi a bod yr hyfforddiant yn para mwy nag un diwrnod, byddwn yn trefnu llety (gwely a brecwast) i chi. Byddwn hefyd yn ad-dalu costau eich swper ar y nosweithiau pan mae gennych lety.

Digwyddiadau rhanddeiliaid: Nid ydym yn ad-dalu treuliau ar gyfer y math yma o ddigwyddiad.

Dydy fy nolen cofrestru ar gyfer digwyddiad ddim yn gweithio. Beth alla’ i wneud?

Mae angen i chi ddefnyddio’ch prif gyfeiriad e-bost i gofrestru ar gyfer digwyddiadau neu hyfforddiant. Hwn yw’r cyfeiriad e-bost a restrir yn gyntaf ar eich Proffil Arolygydd. Os nad oes gennych chi Broffil Arolygydd eto, rydym yn defnyddio’r cyfeiriad e-bost yr anfonom eich gwahoddiad iddo fel eich prif gyfeiriad cyswllt.

Rydym yn defnyddio’ch prif gyfeiriad e-bost i’ch adnabod ar ein gwefan digwyddiadau, ac ni fyddwch yn gallu cofrestru gyda chyfeiriad e-bost gwahanol.

Os ydynt yn defnyddio rhwydwaith ysgol neu waith i edrych ar y dudalen, weithiau mae gosodiadau diogelwch yn atal mynediad at ein system. Rhowch gynnig arall arni gartref neu ar rwydwaith symudol eich ffôn (mae ein system yn symudol ymatebol).

Os ydych chi’n defnyddio’ch dolen gosod cyfrinair, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael mynediad ato o fewn 15 munud. Mae’r dolenni hyn yn fyw dros dro yn unig. Os oes 15 munud wedi mynd heibio, gofynnwch am ddolen arall trwy wefan y digwyddiad.

Mae angen i mi newid fy archeb

Gallwch chi fynd yn ôl at y wefan digwyddiadau gan ddefnyddio dolen y gwahoddiad – cliciwch ar yr opsiwn dewislen i ddiwygio’ch archeb. Byddwch yn gallu gweld unrhyw leoliadau a dyddiadau sydd ar gael ar y dudalen gofrestru. Os na allwch chi weld y dyddiad neu’r lleoliad sydd ei eisiau arnoch, mae hyn oherwydd ei fod yn llawn.

Dydw i ddim yn gallu gweld fy newis dyddiad hyfforddiant ar y dudalen gofrestru

Os na allwch chi weld dyddiad neu leoliad penodol ar y gwymplen archebu, yna mae’r lleoliad hwnnw’n llawn. Nid ydym yn gweithredu rhestr gadw, felly rydym yn argymell gwirio’r dudalen yn rheolaidd os oes lle wedi dod ar gael.

Dydw i ddim yn gallu mynychu’r digwyddiad rydw i wedi cael gwahoddiad iddo

Os nad ydych chi wedi cofrestru eisoes, ewch i’r ddolen gofrestru a chlicio ar y ddolen ‘gwrthod’ (‘decline’) ar far y ddewislen. Os ydych chi wedi cofrestru eisoes, anfonwch neges e-bost atom i ganslo’ch archeb.

Dydy’r agenda neu’r deunyddiau ar gyfer digwyddiad rydw i’n ei fynychu ddim wedi cael eu hanfon ataf

Rydym ni’n anelu anfon y rhain at gynrychiolwyr cyn gynted ag y bo modd. Os oes llai nag wythnos i fynd tan y digwyddiad rydych chi’n ei fynychu ac nad ydych chi wedi derbyn unrhyw beth, gwiriwch y canlynol:

·    Oes gennych chi neges e-bost yn cadarnhau’ch cofrestriad? Os na, ewch yn ôl i’r wefan digwyddiadau ac archebu’ch lle.

·    Ydy eich neges e-bost yn cadarnhau’ch cofrestriad yn cynnwys yr agenda a’r deunyddiau?

·    Ydy’r neges e-bost sy’n cynnwys yr agenda a’r deunyddiau yn eich ffolder sothach neu’ch ffolder sbam?

A allwch chi gofrestru ar fy rhan?

Oni bai bod amgylchiadau eithriadol, dydyn ni ddim yn cofrestru ar ran cynrychiolydd – mae hyn oherwydd bod angen i chi ddarparu gwybodaeth bersonol fel rhan o’r broses gofrestru, er enghraifft unrhyw ofynion dietegol neu hygyrchedd sydd gennych chi.

A fydd Estyn yn talu am fy nhystysgrif gan y GDG?

Na fydd – rhaid i gynrychiolwyr dalu am eu tystysgrif gan y GDG eu hunain.

Mae gen i dystysgrif gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn barod; pam mae angen i mi gael un arall?

Yn unol â’n polisi ar y GDG, rydym yn ystyried bod tystysgrif gyfredol yn llai na thair blwydd oed. Ni allwn dderbyn tystysgrif gan y GDG sy’n hŷn na hyn, hyd yn oed os yw eich awdurdod lleol / cyflogwr yn ystyried ei bod yn ddilys o hyd.

Rydw i wedi cael gwahoddiad i fforwm rhanddeiliaid ond ddim yn gallu mynychu. A alla’ i anfon cydweithiwr yn fy lle?

Os ydym ni wedi anfon gwahoddiad atoch i gynrychioli’ch sefydliad mewn digwyddiad, yna mae croeso i chi roi’r gwahoddiad i gydweithiwr os na allwch chi fynychu. Fodd bynnag, os ydych chi wedi cael gwahoddiad i ddigwyddiad hyfforddi, ni fyddwch yn gallu anfon y gwahoddiad ymlaen at rywun arall.

A oes cod gwisg i fynychu hyfforddiant cychwynnol neu ddiweddaru?

Gwisgwch yr hyn y byddech fel arfer yn ei wisgo i’ch ysgol neu UCD.