Cwestiynau cyffredin am arolygu – ôl-16


os ydych chi’n ddarlithydd, yn athro, yn hyfforddwr, yn asesydd neu’n arweinydd canol…

Nid oes angen i chi baratoi unrhyw beth ychwanegol cyn yr arolygiad – cynlluniwch yn ôl yr arfer ar gyfer eich dosbarthiadau / sesiynau / gweithdai yn ystod y gweithgarwch arolygu

Os ydych chi’n uwch arweinydd neu chi yw’r enwebai ar gyfer yr arolygiad….

Bydd yr arolygydd cofnodol yn trefnu cyfarfod rhithwir gyda chi yn y cyfnod yn arwain at yr arolygiad. Mae hyn yn gyfle i egluro trefniadau, codi unrhyw bryderon a thawelu unrhyw nerfau, gobeithio. Yn nodweddiadol, yn y cyfnod yn arwain at yr arolygiad, byddem yn gofyn i uwch arweinwyr / enwebeion:

Ddarparu tystiolaeth o gynllunio yn gysylltiedig â hunanwerthuso a gwella ansawdd. Nid ydym yn nodi fformat nag ymagwedd benodol at hyn, a byddem yn disgwyl i hyn gyd-fynd â chylchoedd ansawdd sefydliadol. Darparu gwybodaeth a data i gefnogi’r arolygiad. Pan fo modd, byddwn yn gweithio gyda fformatau presennol, er y gallem ofyn am addasiadau ac/neu wybodaeth ychwanegol, lle bo’n hanfodol. Er enghraifft, yn achos amserlenni, gallem ofyn am wybodaeth ychwanegol fel ffrydiau cyllido neu fanylion achredu.  Ychwanegu’r wybodaeth ategol y gofynnwyd amdani at yr Ystafell Arolygu Rithwir (YAR). Ni fyddem yn disgwyl unrhyw ddogfennau sy’n ychwanegol i’r hyn sydd eisoes ar waith. Nid oes gofyniad am unffurfedd o ran fformat, chwaith. Bydd angen ychydig bach o ddogfennau cyffredin ar gyfer yr arolygiad. Ceir manylion am hyn isod, ac mae ar ffurflen gyswllt yr arolygiad a rennir gyda’r darparwr pan gaiff ei hysbysu am arolygiad.

Rydym ni’n deall bod arolygiadau Estyn yn gallu teimlo’n heriol, ond maent yn broses gydweithredol i helpu darparwyr addysg a hyfforddiant i wella. Cynlluniwch yn ôl yr arfer ar gyfer eich dosbarthiadau / sesiynau / gweithdai yn ystod y gweithgarwch arolygu. Bydd ein harolygwyr yn arsylwi ar draws sampl o sesiynau er nad ydym yn cynnal arsylwadau hollgynhwysfawr, ac ni allwn roi sicrwydd y byddwn yn ymdrin â phob pwnc neu faes dysgu. Bydd arsylwadau’n cynnwys sesiynau wyneb yn wyneb ac ar-lein, fel y bo’n briodol. Efallai y byddwn yn ymweld â chi a’ch dysgwyr hefyd trwy gynnal taith ddysgu ar draws campws neu faes dysgu. Wrth i ni samplu gweithgarwch addysgu a dysgu, efallai y gwelwch chi nad ydych chi’n cael eich arsylwi nac yn cael ymweliad gan arolygydd ar daith ddysgu. I’r gwrthwyneb, efallai y byddwch yn cael mwy nag un ymweliad, er enghraifft gan arolygydd ar ychydig o deithiau dysgu. (Gweler ein Cwestiynau Cyffredin isod ar y gwahaniaeth rhwng arsylwi gwers a thaith ddysgu)

Mae ein harsylwadau gwersi yn canolbwyntio’n bennaf ar ansawdd y dysgu a pha mor dda y mae dysgwyr yn ymateb i’r profiadau dysgu y mae dysgwyr wedi’u harsylwi. Efallai y bydd ein harolygwyr yn cyrraedd i arsylwi sesiwn ar ôl iddi ddechrau, neu’n gadael sesiwn cyn yr amser y disgwylir i’r sesiwn orffen. Fodd bynnag, byddant bob amser yn gwneud eu gwerthusiadau ar yr hyn y maent wedi’i arsylwi a’r dystiolaeth y maent wedi’i gweld, gan gynnwys siarad â dysgwyr. Byddwn bob amser yn ystyried bod addysgu a dysgu yn digwydd cyn neu ar ôl i ni fod yno.

Ni fyddai diffyg technegol untro yn effeithio ar y gwerthusiad cyffredinol o addysgu a dysgu mewn darparwr. Mae arolygwyr yn ystyried gwahanol gyd-destunau a heriau sy’n wynebu pob darparwr ac yn teilwra’u hymagwedd yn briodol. Maent yn triongli tystiolaeth i ddod i gasgliadau trylwyr ar ansawdd yr addysgu a’r dysgu ar draws darparwr, gan ystyried ystod eang o wahanol dystiolaeth, gan gynnwys siarad â dysgwyr.

Mae arolygwyr yn edrych ar beth sy’n gweithio’n dda a beth yw’r meysydd sydd angen eu gwella, gan ddefnyddio meysydd eang y fframwaith arolygu – ‘Beth rydym yn ei arolygu’ ar gyfer pob arolygiad craidd. Rydym eisiau gweld wythnos arferol o weithgarwch i weld sut beth yw profiad y dysgwr o ddydd i ddydd. Gallai hyn edrych yn wahanol yn ôl yr adeg o’r flwyddyn pan gynhelir yr arolygiad. Nid oes gennym ni ddulliau ffafriedig ar gyfer cyflwyno addysgu, hyfforddi neu asesu, ond rydym yn ystyried p’un a yw’r dulliau a ddefnyddir yn cynorthwyo dysgwyr i wella a gwneud cynnydd da mewn dysgu.

Nid ydym yn disgwyl i bopeth fynd yn berffaith yn ystod arolygiad, ac nid ydym am i ddarparwyr baratoi’n ormodol na gwneud pethau’n wahanol i’r arfer yn ystod wythnos arolygiad. Os felly, bydd dysgwyr yn aml yn dweud wrthym.

Wrth arsylwi sesiwn, byddai arolygydd fel arfer yn treulio rhwng 45-60 munud yn arsylwi’r sesiwn. Ar ryw adeg wrth arsylwi sesiwn, bydd arolygwyr fel arfer eisiau siarad â dysgwyr. Gallai hyn olygu bod arolygwyr yn siarad â dysgwyr unigol wrth iddynt wneud eu gwaith, neu’n cyfarfod â’r grŵp heb i’r tiwtor / asesydd fod yn bresennol, o bryd i’w gilydd. Bydd ein harolygwyr yn cymryd rhan mewn deialog broffesiynol gyda’r tiwtor / asesydd ar ddiwedd sesiwn sy’n cael ei harsylwi. Mae hon yn drafodaeth fer sy’n golygu nad oes angen adborth na barnau.

Mewn taith ddysgu, mae arolygwyr yn arsylwi gweithgaredd am gyfnod byrrach, fel arfer 15-20 munud. Gallai arolygwyr gynnal teithiau dysgu mewn sesiynau a addysgir, gweithdai, ardaloedd cymunol, mannau ymneilltuo, ac ati, i edrych ar agwedd benodol ar y ddarpariaeth. Nid ydym yn cymryd rhan mewn deialog broffesiynol gyda staff ar ôl taith ddysgu, ond bydd cyfle i siarad â staff sy’n cyflwyno’r sesiynau hyn, gan gynnwys unrhyw staff cymorth sydd efallai’n bresennol.

Mae teithiau dysgu yn rhoi cyfle i arolygwyr weld ystod eang o weithgareddau addysgu a dysgu yn aml mewn maes dysgu penodol. Er enghraifft, efallai y byddant yn ymweld â gweithdai lle mae sawl grŵp o ddysgwyr yn gweithio ar wahanol lefelau ac yn ymgymryd ag ystod o dasgau. Yn y sefyllfaoedd hyn, gall arolygwyr arsylwi dysgwyr yn gweithio, adolygu ansawdd eu gwaith, adolygu gwaith ysgrifenedig allai fod ar gael, a siarad â dysgwyr am y tasgau y maent yn ymgymryd â nhw.

Nid yw arolygiad Estyn ynglŷn â gwaith papur, ac nid ydym am i unrhyw ddogfennau gael eu creu yn benodol ar gyfer yr arolygiad. Bydd arolygwyr yn edrych ar effaith y gweithgareddau addysgu, hyfforddi ac asesu ar ddysgu. Rydym yn canolbwyntio ar drafodaeth agored a gonest a deialog broffesiynol. Mae hyn yn golygu gweld eich darparwr fel y mae, gan gynnwys edrych ar dystiolaeth briodol o gynllunio ar gyfer addysg, hyfforddi a dysgu ac ystyried anghenion dysgwyr ar sail unigol a grŵp. Nid ydym yn nodi sut y dylid amlinellu cynlluniau na lefel y manylder. Ni fyddem yn disgwyl gweld cynllun gwers manwl ar gyfer pob sesiwn, cynlluniau gwaith na phroffiliau dosbarth chwaith, oni bai mai dyma fyddai staff addysgu / cyflwyno yn eu dangos fel arfer. Nid ydym yn disgwyl i ddogfennau fod mewn fformat penodol na bod mewn fformat cyson ar draws y darparwr.

Mae ein harweiniad Beth rydym yn ei arolygu yn amlinellu’r hyn y bydd arolygwyr yn ei ystyried[JG1]  wrth werthuso’r tri maes arolygu (MA) mewn Addysg Bellach, Dysgu Oedolion yn y Gymuned, a Cholegau Arbenigol Annibynnol:

O fewn yr arweiniad, byddwch yn gweld mwy o fanylion y tu ôl i bob un o’r meysydd arolygu, yn rhoi manylion am y gwahanol agweddau y bydd arolygwyr yn eu hystyried o ran yr effaith a gânt ar ddysgu a lles dysgwyr.  

Dangosir y meysydd arolygu ar gyfer pob sector isod:

Addysg bellach-

MA1 – Addysgu a dysgu

MA2 – Lles, gofal, cymorth ac arweiniad

MA3 – Arwain a gwella  

Dysgu yn y gwaith-

MA1 – Dysgu  

MA2 – Lles, cymorth ac arweiniad

MA3 – Addysgu, hyfforddi, asesu a phrofiadau dysgu  

MA4 – Arweinyddiaeth a rheolaeth  

Byddant. Siarad gyda dysgwyr yw un o’r ffynonellau tystiolaeth cyfoethocaf ar gyfer arolygwyr, a byddant yn achub ar gyfleoedd i siarad gyda dysgwyr trwy gydol yr arolygiad. Gellir cynnal y sgyrsiau hyn yn ystod sesiynau, gweithdai a theithiau dysgu neu mewn ardaloedd cymunol yn ystod egwylion trwy gydol y dydd. Hefyd, gallem drefnu grwpiau ffocws dysgwyr, er enghraifft gyda chynrychiolwyr dysgwyr.

Mae deialog gyda staff yn rhan bwysig o’r arolygiad. Er na fydd arolygwyr yn siarad â phob un o’r staff mewn darparwr yn ystod arolygiad, byddant yn achub ar gyfleoedd i siarad gyda chynifer o aelodau staff ag y bo modd trwy gydol yr arolygiad. Gallai hyn gynnwys yn ystod arsylwadau, teithiau dysgu a chyfarfodydd.

Gallai arolygwyr gyrraedd naill ai ar ddechrau sesiwn, neu yng nghanol sesiwn.  

Wrth arsylwi sesiwn, byddai arolygydd fel arfer yn treulio rhwng 45-60 munud yn arsylwi sesiwn ac yn cael deialog broffesiynol gyda’r athro, yr hyfforddwr ac/neu’r asesydd.  

Yn ystod taith ddysgu, mae arolygwyr yn arsylwi gweithgaredd am gyfnod byrrach, fel arfer 15-20 munud. Gallai arolygwyr gynnal teithiau dysgu mewn sesiynau a addysgir, gweithdai, ardaloedd cymunol, mannau ymneilltuo, ac ati, i edrych ar agwedd benodol ar y ddarpariaeth. Nid yw arolygwyr fel arfer yn cymryd rhan mewn deialog broffesiynol ar ôl taith ddysgu, ond gallent gael cyfle i siarad yn fras gyda dysgwyr a staff, lle bo’n briodol.

Dylai lefel y Gymraeg a ddefnyddir fod yn briodol ar gyfer pob sesiwn, gan ystyried anghenion dysgwyr ar sail unigolyn neu grŵp, ac ni ddylai fod yn wahanol i’r hyn y byddech yn ei ddefnyddio mewn unrhyw sesiwn arall. Nid ydym yn disgwyl i sesiynau nac asesiadau gael eu newid mewn unrhyw ffordd ar gyfer yr arolygiad. Bydd arolygwyr hefyd yn ystyried gallu’r athro / tiwtor i gyflwyno yn Gymraeg neu’n ddwyieithog. Hefyd, nid ydym yn disgwyl i’r holl ddeunyddiau arddangos fod yn ddwyieithog.

Nid ydym yn disgwyl i bolisïau gael eu diweddaru neu’u diwygio fel rhan o baratoi ar gyfer arolygiad. Ni fyddem yn disgwyl i reolwyr ofyn i staff gwblhau unrhyw ddysgu proffesiynol yn y cyfnod cyn yr arolygiad oni bai fod hyn eisoes wedi’i drefnu.

Mae ymgysylltu ag is-gontractwyr a phartneriaid cyflwyno yn rhan allweddol o’n harolygiadau o ddarparwyr prentisiaethau. Bydd ein tîm arolygu yn ymweld â phob is-gontractwr i siarad ag arweinwyr allweddol ac yn cynnal arsylwadau o addysgu, hyfforddi ac asesu gyda staff a dysgwyr. Hefyd, gallai’r darparwr arweiniol ofyn i gynrychiolwyr o is-gontractwyr fynychu cyfarfodydd meysydd arolygu, a chyfrannu atynt.

Fel rhan o’r broses gynllunio cyn yr arolygiad, bydd yr arolygydd cofnodol fel arfer yn trafod amserlen arolygu eang gyda’r uwch arweinydd a’r enwebai. Bydd hyn yn cynnwys amserlen amlinellol o gyfarfodydd meysydd arolygu gydag aelodau staff, dysgwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill. Ni chaiff arsylwadau a theithiau dysgu eu cytuno ymlaen llaw â’r darparwr; bydd arolygwyr yn penderfynu pwy y byddant yn eu harsylwi, a phryd, a gellir eu cynnal ar unrhyw adeg trwy gydol y broses arolygu. Ar ôl i arolygwyr ymweld â sampl ddigonol o weithgareddau dysgu, byddant yn gwneud yn siŵr eu bod yn dweud wrth y darparwr eu bod wedi cwblhau eu rhaglen o deithiau dysgu a’u harsylwadau gwersi.

Mae angen i ddarparwyr lanlwytho tystiolaeth ddigonol ar gyfer pob maes arolygu i ddangos beth maent yn ei wneud o ran ein harweiniad arolygu. Wrth lanlwytho dogfennau, nid yw ynglŷn â faint o ddogfennau y gellir eu lanlwytho, ond bod yn ddetholus a gwneud yn siŵr fod arolygwyr yn gallu cael dealltwriaeth glir o’ch gwaith ym mhob maes arolygu. Byddwch yn ystyriol o dystiolaeth annigonol na fydd yn dangos y gwaith rydych chi’n ei wneud yn ddigon clir, a gallai arwain at fwy o gyfarfodydd i egluro pwyntiau.

Na fyddwch – dydy arolygwyr ddim yn rhoi barnau; maent yn cymryd rhan mewn deialog broffesiynol gyda’r aelod o staff ar ddiwedd y sesiwn. Yn yr adroddiad cyffredinol, byddwn yn ysgrifennu mewn iaith werthusol am ansawdd yr addysgu, yr hyfforddi a’r asesu, a’i effaith, ond nid ydym yn dyfarnu barnau na ‘graddau’ crynodol fel rhan o’n hadroddiad mwyach.

Mae ystod o weithgareddau dilynol ar gael i arolygwyr.

Caiff y gweithgareddau hyn eu teilwra’n ofalus i’r darparwr a’r argymhellion allweddol a nodwyd yn ystod yr arolygiad. Mae’r gweithgareddau hyn yn monitro’r cynnydd a wnaed gan gamau’r darparwr yn mynd i’r afael â’r argymhellion.

Os dywedwyd wrthych chi eisoes eich bod yn cael arolygiad neu fod arolygiad yn digwydd ar hyn o bryd, yna mae’n well dod i wybod pwy yw ‘enwebai’ eich darparwr. Un o’ch uwch arweinwyr fydd hwn, a fydd yn cysylltu â’r tîm arolygu ac yn rhan o holl drafodaethau’r tîm. Os nad oes gennych chi arolygiad ar hyn o bryd, anfonwch eich cwestiwn trwy’r e-bost i’n tîm ymholiadau –