Chwythu’r chwiban a chodi pryder - Polisi a gweithdrefnau - Estyn

Chwythu’r chwiban a chodi pryder – Polisi a gweithdrefnau


Mae Estyn wedi ymrwymo i sicrhau safonau ymddygiad uchel ym mhopeth y mae’n ei wneud. Mae hyn yn golygu nid yn unig o ran yr hyn yr ydym yn ei wneud, ond hefyd y ffordd yr ydym yn ei wneud. Disgwylir i ni weithio gydag uniondeb, gonestrwydd a gwrthrychedd, a bod yn gwbl ddiduedd ac yn gwbl foesegol. Ar gyfer yr holl weision sifil, caiff y safonau hyn eu hatgyfnerthu gan God y Gwasanaeth Sifil (y Côd). Fodd bynnag, gall camweddau ddigwydd. Mae’n bwysig bod cyflogeion yn gwybod beth i’w wneud os byddant, wrth wneud eu gwaith, yn gweld rhywbeth sydd yn eu barn nhw yn sylfaenol anghywir, yn anghyfreithlon neu’n peryglu pobl eraill yn Estyn neu’r cyhoedd. Bydd y Polisi, y Gweithdrefnau, y Canllawiau a’r Arweiniad yn arwain cyflogeion trwy’r broses codi pryder, y cyfeirir ato weithiau fel ‘chwythu’r chwiban’.