Canllaw Cyflogaeth Staff
Mae’r Canllaw Cyflogaeth hwn yn darparu’r wybodaeth allweddol y bydd arnoch angen gwybod amdani ynghylch eich cyflogaeth gydag Estyn. Y Canllaw, eich llythyr penodi, y datganiad o fanylion a’r polisïau cysylltiedig, sydd i’w cael yma, yw eich Contract Cyflogaeth gydag Estyn.
Mae’r Canllaw’n rhoi golwg gyffredinol i chi ar eich telerau ac amodau ac mae’n rhoi manylion yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gan Estyn, fel eich cyflogwr, a’r hyn y gallwn ei ddisgwyl gennych chi, fel aelod staff.