Article details

Jayne Edwards AEM
By Jayne Edwards, AEM
Postiadau blog |

A yw eich ysgol yn un sy’n rhoi teuluoedd a chymunedau wrth wraidd ei gwaith?

Share this page

Mae ysgolion cymunedol yn cynnwys gweledigaeth ac ethos addysg gymunedol ym mhob penderfyniad a wnânt, ac ym mhob cam a gymerant. Mae’r blog hwn yn edrych ar ein diffiniad o ysgol gymunedol yn seiliedig ar yr arfer orau un rydym ni wedi’i darganfod.

Beth sy’n gwneud ysgol gymunedol yn effeithiol?

Yn gynharach eleni, fe wnaethom gyhoeddi Ysgolion cymunedol: teuluoedd a chymunedau wrth wraidd bywyd ysgol

Roedd yn canolbwyntio ar dri maes gwaith, sef:

  • cryfhau ymgysylltu â theuluoedd a’r gymuned
  • helpu’r gymuned i fanteisio ar eu hasedau a’u hadnoddau
  • gwasanaethau wedi eu lleoli gyda’i gilydd yn yr ysgol neu mewn hybiau cymunedol

Dyma rai o’r agweddau a oedd, yn ein barn ni, yn cyfrannu’n sylweddol at ysgolion cymunedol effeithiol

Arweinyddiaeth

Rydym yn clywed yn aml gan arweinwyr bod eu hysgolion wrth wraidd y gymuned.

Fodd bynnag, canfuom fod yr ysgolion cymunedol mwyaf effeithiol yn rhoi teuluoedd, cymunedau a’u lles wrth wraidd yr ysgol.

Mae hyn oherwydd bod gan arweinwyr yn yr ysgolion hyn weledigaeth gymunedol gref a synnwyr o gyfrifoldeb dinesig. Maent yn deall yr heriau cymdeithasol ac economaidd sy’n wynebu’r gymuned, a’r effaith a gaiff y rhain ar ddisgyblion a’u teuluoedd. Maent yn credu’n gadarn fod gan eu hysgol rôl bwysig mewn mynd i’r afael ag annhegwch trwy weithio mewn partneriaeth agos â theuluoedd a’r gymuned ehangach.

Staff allweddol sydd â ffocws ar ymgysylltu â theuluoedd a’r gymuned

Yn ddiamheuol, mae gan arweinyddiaeth ddygn rôl bwysig mewn sefydlu ethos cymunedol cryf mewn ysgol, ond gweledigaeth ar y cyd a gweithredoedd pob aelod o staff sy’n gwireddu’r ethos hwn i deuluoedd.

Fe wnaethom ymweld â nifer o ysgolion a oedd yn cyflogi staff sydd â chyfrifoldeb penodol am ymgysylltu â theuluoedd a’r gymuned. Roedd yr aelodau staff hyn yn allweddol i lwyddiant ysgol gymunedol gan eu bod yn meddu ar fedrau, doniau a gwybodaeth benodol a oedd yn eu helpu i sefydlu cysylltiadau â theuluoedd a’r gymuned.

Efallai mai’r peth pwysicaf oll yw eu bod yn cyflawni eu rôl ag ysgogiad, wedi’i gyfuno â sensitifrwydd. Maent yn credu, trwy weithio mewn partneriaeth, bod yr ysgol yn cefnogi teuluoedd i ddatrys heriau, neu ddatblygu medrau a hyder i chwilio am waith, er enghraifft.

Ymglymiad rhieni

Yn yr ysgolion y gwnaethom ymweld â nhw, fe wnaeth y ffordd roedd y staff yn cynnwys

rhieni fel partneriaid mewn addysg argraff arnom ni.

Roedd yr ysgol yn gymaint o le i rieni ag yr oedd i ddisgyblion a staff:

  • Roedd rhieni’n cael mynediad agored i ystafell y gallent ei defnyddio i gyfarfod â’i gilydd neu ar gyfer mynychu sesiwn ddysgu i deuluoedd.
  • Roedd rhieni’n gweld yr ysgol fel y lle cyntaf i fynd am gymorth ac arweiniad, nid yn gysylltiedig â’u plant yn unig, ond cymorth ar gyfer problemau iechyd, tai neu rianta, neu i gael sgwrs i drafod problem a allai fod ganddynt.
  • Mewn rhai achosion, roedd rhieni’n ymgymryd â rolau a oedd yn cysylltu’r ysgol â’r gymuned ac yn datblygu medrau arweinyddiaeth gymunedol eu hunain.

Pan wnaethom ymweld ag ysgolion, cawsom y fraint i gyfarfod â theuluoedd yr oedd eu bywydau wedi newid er gwell oherwydd y ffordd roedd yr ysgol wedi eu cynorthwyo nhw a’u plant.

Yr hyn a wnaeth argraff arnom ni oedd y parch roedd ganddynt at yr ysgol gan fod yr ysgol wedi eu trin ag urddas a pharch.

Partneriaethau â gwasanaethau ac asiantaethau eraill

Roedd yn gyffrous gweld y modd y gall ysgolion fod yn ganolog i ddarparu nid addysg yn unig, ond ystod o wasanaethau i’r gymuned.

Gwelsom ysgolion oedd â gwasanaethau fel iechyd, tai a dysgu oedolion yn y gymuned ar y safle. Roedd y trefniadau hyn yn dwyn manteision go iawn, nid yn unig i’r gymuned, ond i’r ysgol hefyd.

Roedd yn golygu y gallai staff o wahanol wasanaethau weithio gyda’i gilydd i helpu teuluoedd i oresgyn heriau. Hefyd, roedd aelodau o’r gymuned yn hoffi manteisio ar wasanaethau mewn lle canolog gan fod yr ysgol hon ar garreg drws y gymuned leol.

Defnyddio adnoddau ac asedau ysgol

Er bod gan rai o’r ysgolion gyfleusterau newydd, wedi’u hadeiladu’n bwrpasol, a oedd yn eu helpu i ddatblygu gweithgareddau a gwasanaethau cymunedol, nid oedd hyn yn wir am bob un ohonynt.

Fodd bynnag, nid oedd hynny’n atal ysgolion heb gyfleusterau, wedi’u hadeiladu’n bwrpasol, rhag dod o hyd i ffyrdd o addasu eu hadeilad fel y gallai’r gymuned elwa. Roedd yn golygu y bu’n rhaid i benaethiaid a staff ymgysylltu â theuluoedd feddwl yn greadigol am sut orau y gallai teuluoedd a’r gymuned gael mynediad i’r ysgol yn ddiogel.

Roedd yn ymddangos bod meddwl yn greadigol yn thema gyffredin. Gwelsom enghreifftiau o’r modd roedd ysgolion wedi mynd ati i sefydlu cylchoedd chwarae, gweithio mewn partneriaeth â darparwyr chwaraeon neu ddim ond i greu gofod tawel ble gallai teuluoedd gyfarfod â’i gilydd.

Ysgolion cymunedol

Community schools
Ysgolion cymunedol

Beth gellir ei wneud i helpu mwy o ysgolion i ddatblygu dulliau sy’n rhoi teuluoedd a’r gymuned wrth wraidd popeth a wnânt?

Gwnaethom nifer o argymhellion ond byddwn ni’n edrych ar rai o’r argymhellion allweddol yn y blog hwn:

  • Dylai awdurdodau lleol gefnogi ysgolion i benodi staff ymgysylltu â theuluoedd gan ein bod wedi gweld y gwahaniaeth yr oedd yr aelodau staff hyn yn ei wneud i ymgysylltu â theuluoedd a’r gymuned.
  • Dylai fod gan yr holl ysgolion gynlluniau strategol sy’n dangos sut byddant yn gweithio gyda theuluoedd a’r gymuned. Mae hyn yn cynnwys meddwl am sut gallant werthuso effeithiolrwydd y gwaith.
  • Mae gan awdurdodau lleol rôl bwysig mewn cefnogi ysgolion i fod yn ysgolion cymunedol effeithiol. Rydym yn argymell y dylai ysgolion gryfhau’r ffyrdd y maent yn gweithio ar draws gwasanaethau awdurdod lleol ac edrych ar sut gellid lleoli’r rhain mewn ysgolion.
  • Wrth i awdurdodau lleol gynllunio i adeiladu ysgolion newydd, dylent ystyried sut i gynnwys ardaloedd teuluol a chymunedol o fewn ffiniau’r ysgol.
  • Mae’n bwysig fod gennym ni ddealltwriaeth ar y cyd o beth yw ysgol gymunedol, felly, yn genedlaethol, mae angen i ni gael set o nodweddion diffiniol ar gyfer ysgolion cymunedol.

Mae’r blog hwn ond yn crafu wyneb adroddiad sy’n edrych ar nodweddion ysgolion cymunedol effeithiol.

Nid yw’n hawdd cipio mor fras gyfoeth y profiadau y mae ysgolion cymunedol effeithiol yn eu darparu ar gyfer teuluoedd a phobl leol. Darllenwch fwy yn yr adroddiad llawn.

Ychwanegu sylw newydd

Testun plaen

  • No HTML tags allowed.
  • Llinellau a pharagraffau yn torri'n awtomatig.
  • Web page addresses and email addresses turn into links automatically.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol