Ymweliad yr arolygydd – tu ôl i ymweliad arolygydd cyswllt coleg - Estyn

Ymweliad yr arolygydd – tu ôl i ymweliad arolygydd cyswllt coleg


Beth yw ymweliad cyswllt?

Unwaith y flwyddyn, mae ein harolygwyr yn cynnal ymweliad anffurfiol â phob coleg neu ddarparwr hyfforddiant.  Mae gan bob coleg ei arolygydd cyswllt pwrpasol ei hun.  Dyma gyfle i ni feithrin perthynas â’r coleg, casglu tystiolaeth gyfredol am ei waith a chynorthwyo â gwella ansawdd.  Rydym ni’n cynnal ymweliadau tebyg â darparwyr hyfforddiant a darparwyr dysgu oedolion yn y gymuned hefyd.

Mae pob ymweliad yn cymryd dau neu dri diwrnod.  Rydym yn cyfarfod ag uwch arweinwyr a detholiad o staff allweddol eraill, yn dibynnu ar y ffocws penodol.  Hefyd, rydym yn edrych ar ddogfennau allweddol a gallem gyflawni rhai teithiau dysgu neu sgyrsiau â myfyrwyr.

Ar ddiwedd yr ymweliad, rydym yn trafod ar ein canfyddiadau gyda’r arweinwyr, i helpu gyda threfniadau gwelliant parhaus y coleg.

Beth yw’r ffocws?

Mae’r pynciau rydym yn canolbwyntio arnynt yn newid o flwyddyn i flwyddyn.  Ar hyn o bryd, rydym yn archwilio:

  • Hunanwerthuso a blaenoriaethau’r dyfodol ar gyfer gwella
  • Mesurau perfformiad cyson ôl-16
  • Dysgu proffesiynol a’r safonau newydd
  • Darpariaeth 14-16
  • Mynediad at y safle, ei ddiogelwch a gweithdrefnau mewn argyfwng
  • Ymgysylltu â dysgwyr – llais y dysgwr a chwynion gan ddysgwyr

Hefyd, mae cyfle i golegau rannu unrhyw broblemau cyfredol.  Yn yr un modd, rydym ni’n trafod datblygiadau mewn arolygu gydag arweinwyr colegau.

Os bydd coleg wedi cael ei arolygu’n ddiweddar, byddwn yn trafod ei gynnydd yn erbyn unrhyw argymhellion a wnaed yn yr adroddiad arolygu.

Sut mae’r ymweliadau’n cefnogi gwelliant?

Mae arweinwyr coleg yn gwerthfawrogi’r cyfle i siarad ag arolygydd y tu allan i arolygiad ffurfiol.  Gall yr arolygydd cyswllt helpu colegau i fyfyrio ar eu cryfderau a’u meysydd i’w gwella, a’u mireinio, a gallant amlygu arfer genedlaethol, effeithiol, a allai fod yn ddefnyddiol.

Mae’r dystiolaeth a gasglwn yn ystod yr ymweliadau hyn yn cael ei defnyddio i lywio’r cyngor a rown i Lywodraeth Cymru drwy adroddiad blynyddol PAEM, adroddiadau thematig a’n cyfraniadau at weithgorau cenedlaethol.

Hefyd, mae’r ymweliadau’n ein helpu i adnabod sut y gallwn gryfhau ein harweiniad arolygu ni.  Er enghraifft, mae ymweliadau cyswllt wedi amlygu sut mae colegau’n cyflawni eu dyletswydd newydd i helpu atal pobl rhag cael eu denu i derfysgaeth.  Helpodd hyn i ni ddatblygu ein harweiniad atodol ar arolygu diogelu mewn darpariaeth ôl-16.  Hefyd, mae’n helpu colegau i wella a rhannu’u harfer yn y maes hwn.

Gall y trafodaethau a gawn yn ystod ymweliadau cyswllt helpu i amlygu pynciau a allai elwa o arolygiad thematig manylach ledled Cymru.

Sut gall colegau wneud y mwyaf o’r ymweliad cyswllt?

Mae’n gyfle i fyfyrio ar arfer o fewn y coleg ac ystyried sut y gallai wella ymhellach.  Nid oes disgwyl i staff y coleg wneud unrhyw beth i baratoi ymlaen llaw.  Mae’r arolygydd cyswllt yn rhannu meysydd bras i’w trafod gydag arweinwyr y coleg ac yn gofyn am unrhyw ddogfennau perthnasol ac enwau staff i siarad â nhw.

Mae’r trafodaethau yn fwyaf buddiol pan fydd arweinwyr yn agored ac yn onest am ansawdd eu gwaith.  Os bydd coleg yn ceisio dangos y gorau oll o’i waith yn unig, bydd yn colli’r cyfle i gael trafodaeth fyfyriol gyda’i arolygydd cyswllt am ei heriau presennol.  Rydym yn rhoi safbwynt annibynnol a all helpu arweinwyr i fyfyrio ar brofiadau eu myfyrwyr.

Hefyd, mae’r ymweliad yn gyfle i adeiladu ar y berthynas rhwng yr arolygydd cyswllt ac arweinwyr y coleg, fel eu bod yn gwybod bod rhywun ar ben arall y ffôn yn Estyn os oes ganddynt gwestiynau.

Dylai arweinwyr coleg groesawu’r cyfleoedd y mae ymweliadau cyswllt yn eu cynnig a gwneud y mwyaf o drafodaethau gydag arolygwyr er mwyn darganfod arfer orau a herio’u coleg i ddal ati i fynd o nerth i nerth.