Sut mae ein harolygwyr yn paratoi ar gyfer diwygio addysg? - Estyn

Sut mae ein harolygwyr yn paratoi ar gyfer diwygio addysg?


Rhan bwysig o’n dysgu proffesiynol yw dod ynghyd fel tîm o arolygwyr, ond nid yw gwneud hynny bob amser yn hawdd nac yn ymarferol. Gyda chynifer o arolygwyr yn byw ac yn gweithio ar hyd a lled Cymru, rhaid i ni fod yn weddol greadigol gyda’r cyfleoedd i gyfarfod heb wastraffu eiliad.

Dros y blynyddoedd diwethaf, bydd llawer ohonoch yn gwybod ein bod wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, awdurdod lleol, consortia rhanbarthol ac ysgolion wrth i bawb baratoi ar gyfer newidiadau helaeth i fyd addysg. Mae’n bwysig bod ein holl arolygwyr yn deall y daith y mae darparwyr yn mynd arni wrth iddynt baratoi ar gyfer y diwygiadau hyn. Rydym wedi bod yn defnyddio’r wythnosau datblygiad proffesiynol hyn at yr union ddiben hwnnw.

Er enghraifft, mae arolygwyr sydd wedi gweithio’n agos gydag ysgolion arloesi i ddatblygu meysydd dysgu a phrofiad y cwricwlwm newydd yn rhoi’r newyddion diweddaraf i ni’n rheolaidd. Maent yn ein hannog ni i siarad am y pethau newydd a chyffrous yr ydym yn dechrau’u gweld yn digwydd mewn ysgolion, fel ein bod ni’n gwybod pa fath o bethau y gallem ddisgwyl eu gweld pan fyddwn wrthi’n arolygu ysgolion ledled Cymru.

Mae cydweithwyr eraill wedi cymryd rhan mewn ffyrdd newydd neu wahanol o weithio, gan gynnwys cynnal rhai ymweliadau ymgysylltu peilot. Maent yn rhannu’u profiadau gyda grwpiau ehangach o arolygwyr ac rydym yn ystyried manteision ac anfanteision unrhyw newidiadau, gyda’n gilydd. Fel y gallech ddychmygu, mae pobl sy’n treulio’u bywyd gwaith yn gwerthuso yn casglu amrywiaeth fawr o syniadau a safbwyntiau. Mae hyn yn annog trafodaeth fywiog, sy’n helpu i lywio penderfyniadau ar sut rydym yn arolygu a sut y gallem weithio yn y dyfodol. Mae uwch arweinwyr yma yn disgwyl ac yn croesawu cyfraniadau gan bob arolygydd at benderfyniadau ac mae hyn yn cynnal ein diddordeb ni oll yn ein gwaith.

Mae dysgu proffesiynol yn mynd y tu hwnt i’r amseroedd pan fyddwn yn cyfarfod fel grŵp cyfan. Trwy gydol y flwyddyn, rydym yn cysgodi arolygiadau mewn sectorau yr ydym yn llai cyfarwydd â nhw ac yn mynd ar ymweliadau â ffocws arbennig, mewn parau. Er enghraifft, ymwelodd grŵp o gydweithwyr cynradd ac uwchradd ag ysgol uwchradd yn Lloegr sy’n ymdrin â’r cwricwlwm mewn modd ddychmygus a blaengar. Roedd yn agoriad llygaid go iawn, gan beri i ni feddwl yn ofalus am sut y gallwn annog ysgolion i feddwl yn wahanol a bod yn ddewrach ynghylch y cwricwlwm. Ar ôl i ni ddychwelwyd, rhannom ein profiadau, ac fe ysbrydolodd hyn eraill i ddarllen ac ymchwilio ymhellach i athroniaeth a llwyddiant yr ysgol. Ond does dim yn gallu llwyr ailadrodd y ddealltwriaeth a gawsom o fod yno, yn cyfarfod â’r athrawon ac yn ymgysylltu â’r disgyblion.

Yn gynt yn y blog, soniais am ddysgu gan bobl eraill o’r tu allan i’r sefydliad. Mae diweddariadau rheolaidd gan amrywiaeth o bartneriaid a rhanddeiliaid, am ystod eang o bynciau, yn rhan reolaidd a hanfodol o’n dysgu proffesiynol. Bu sesiwn ddiweddar, lle cawsom gyfle i ddysgu mwy am Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a’r hyfforddiant sy’n cael ei wneud gydag ysgolion ledled Cymru ar hyn o bryd, yn fodd i’n hatgoffa’n amserol fod angen i ddiwygio addysg wella profiadau a deilliannau pob dysgwr. Os nad yw’r diwygio’n gwneud hynny, pam rydym ni’n bwrw ymlaen ag ef?

Mae pob arolygydd yn cynnal ymholiad proffesiynol â ffocws, yn gysylltiedig â’r newid i’n dulliau ni a’u diddordebau eu hunain. Megis dechrau y mae hyn, ond mae cydweithwyr wedi croesawu a gwerthfawrogi’r cyfle i gymryd rhan yn y math hwn o weithgaredd dysgu proffesiynol. Yn bersonol, rwyf wedi dewis edrych yn fanylach ar y ffordd rydym yn gwerthuso’r ddarpariaeth ar gyfer datblygu cymhwysedd digidol disgyblion mewn ysgolion uwchradd. Rwyf wedi defnyddio’n hadroddiadau arolygu a chyhoeddiadau eraill i gasglu gwaelodlin o’r dystiolaeth sydd wedi’i gasglu a byddaf yn rhoi cynnig ar rai dulliau newydd dros y misoedd nesaf. Ar ôl gwneud fy ymchwil, byddaf yn rhannu fy nghanfyddiadau gyda’m cydweithwyr ac yn dechrau gwneud diwygiadau i’n pecynnau cymorth arolygu.

Mae’r newidiadau i system addysg Cymru yn uchelgeisiol ac mae pob arolygydd yn ymroi i fod yn rhan o lwyddiant hyn. Rydym yn cydnabod bod angen cadw i fyny â newidiadau ac addasu ein ffyrdd o weithio. Rydym yn croesawu’r cyfle i fyfyrio ar ein gwaith ac yn edrych ymlaen at drafod y newidiadau yn y sectorau a arolygwn. Dysgwch ragor am y ffordd rydym yn cynorthwyo â diwygio addysg trwy Twitter neu ein gwefan a rhowch i ni eich barn am hynny.