Sut gall ysgolion helpu disgyblion i fod yn iach ac yn hapus?


Iach a hapus

Ym Mehefin 2019, archwiliodd ein hadroddiad ‘Iach a hapus’ yr effaith mae ysgolion yng Nghymru yn ei chael ar iechyd a lles disgyblion. Canfuom fod ddwywaith yn fwy o ysgolion cynradd nag ysgolion uwchradd yn cefnogi disgyblion yn dda iawn.

Mae’r adroddiad yn edrych ar lawer o’r materion a grybwyllwyd ar ddechrau’r blog hwn sy’n effeithio ar iechyd a lles. Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn cynnwys neges bwysig iawn na ddylai gael ei cholli ymysg trafodaethau am faterion unigol – mae angen i ysgolion fod â dull ‘ysgol gyfan’ i gefnogi iechyd a lles disgyblion.

Dull ysgol gyfan

Beth mae hyn yn ei olygu? Mae’n golygu bod angen i ysgolion wneud yn siŵr fod popeth yn ymwneud â’r ysgol yn rhoi negeseuon cadarnhaol i ddisgyblion yn gyson.

Gadewch i ni feddwl am yr hyn sy’n digwydd pan nad oes dull ysgol gyfan. Dyma rai enghreifftiau:

  • mae gwersi am fwlio yn colli eu gwerth os nad yw disgyblion yn fodlon â’r ffordd mae’r ysgol yn ymdrin â honiadau o fwlio
  • nid yw gweithgareddau dysgu am fwyta’n iach yn cael llawer o effaith os nad yw’r bwyd sy’n cael ei weini i ddisgyblion, a’r profiad bwyta, yn hyrwyddo bwyta’n iach
  • ni fydd posteri yn hyrwyddo ymarfer corff yn gwneud llawer o wahaniaeth os nad yw’r ysgol yn caniatáu digon o amser i ddisgyblion gadw’n heini.

Yn gryno, profiadau disgyblion yn yr ysgol o ddydd i ddydd sy’n cael yr effaith fwyaf – p’un a yw hynny’n gadarnhaol neu’n negyddol – ar eu hiechyd a lles.